Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Flwyddyn yn ôl, fe wnaeth ein Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer y Gwasanaethau Tân ac Achub ddatgan y byddem yn ystyried y posibilrwydd o greu dyletswydd newydd ar ein gwasanaethau tân i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â llifogydd ac achub o ddŵr.    Ymgynghorais ar y manylion ynghylch creu dyletswydd o'r fath yr hydref diwethaf, ac erbyn hyn, gallaf gyhoeddi'r canlyniadau.

Mae llifogydd yn fater sy'n peri pryder cynyddol i'r cyhoedd.  Nid yw hynny'n adlewyrchu digwyddiadau mawr yn unig, megis ym Miwmares yn 2015, neu yn Sir Ddinbych yn 2012.   Mae newid yn yr hinsawdd a chynnydd mewn trefoli yn golygu bod llifogydd yn berygl difrifol sy'n cynyddu.  Ac wrth gwrs, er bod rhaid i ni weithio i liniaru'r risg honno, mae angen i ni fod yn barod ar ei chyfer hefyd pan ddaw i'r golwg.

Am nifer o flynyddoedd, mae'r baich hwnnw wedi disgyn ar ysgwyddau ein gwasanaethau tân ac achub.  Mae ganddynt y sgiliau, y gallu a'r cyfarpar i ddelio â llifogydd mawr, ac i achub pobl o ferddyfroedd.  Ond er eu bod nhw bob amser yn ymateb hyd eithaf eu gallu, maent yn gwneud hyn ar sail wirfoddol.  Nid yw'n ofynnol iddynt wneud hyn, ac nid oes eglurder ar gyfer diffoddwyr tân, ymatebwyr eraill nac aelodau o'r cyhoedd.  Yn wir, fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddai'n bosibl iddynt stopio gwneud y gwaith hwn yn gyfan gwbl – ac mae rhai Awdurdodau Tân ac Achub wedi ystyried gwneud hyn eisoes.

Ni all hynny fod yn iawn.  Gall llifogydd fod yr un mor beryglus â thân, a chael effaith fwy eang. Gallant wneud difrod i gymunedau cyfan, bygwth achosi anafiadau mawr, a dinistrio eiddo a'r amgylchedd.  Mae angen i ni sicrhau y bydd ein gwasanaethau tân yn barod i ymateb – ac mae angen i'n diffoddwyr tân wybod beth a ddisgwylir ganddynt.  

Felly, fe wnaeth fy ymgynghoriad gynnig creu dyletswydd newydd ar ein gwasanaethau tân ac achub i ymateb i ddigwyddiadau sy'n ymwneud â llifogydd neu achub o ddŵr, os bydd pobl mewn perygl uniongyrchol o gael eu lladd neu eu hanafu.  Mae dyletswydd o'r fath yn bodoli eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ynghylch llifogydd o leiaf, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei bod wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i allu, parodrwydd a threfniadaeth y gwasanaeth, fel y gall ymateb yn briodol.  

Rwy'n falch bod bron pob un o'r 40 o ymatebwyr i'm hymgynghoriad wedi cytuno â'r cynnig.  Daeth yr ymatebion hyn o ystod eang o ffynonellau, ac o bob rhan o Gymru a thu hwnt.  Roedd pob un o'n tri Awdurdod Tân ac Achub yn gefnogol, yn ogystal â phrif undebau'r diffoddwyr tân, yr heddlu, Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.  Rydym hefyd wedi cael ymateb cadarnhaol gan nifer o Awdurdodau Tân ac Achub yn Lloegr, lle nad oes dyletswydd o'r fath yn bodoli.   Roeddwn yn arbennig o falch bod y Prif Swyddog Tân ar gyfer Norfolk – ardal sy'n gyfarwydd iawn â llifogydd – wedi rhoi o'i amser i ganmol ein cynigion, yn y gobaith y gallai Lloegr gael ei darbwyllo i ddilyn lle y mae Cymru yn arwain.

Felly, rwyf wedi gwneud gorchymyn o dan Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 i greu dyletswydd o'r fath, a fydd yn dod i rym ar 1 Ebrill.   Drwy wneud hyn, rwy'n ffurfioli i raddau helaeth yr hyn sy'n digwydd nawr, a'i roi ar sylfaen gyfreithiol fwy cadarn.  Mae ein diffoddwyr tân eisoes wedi cael eu hyfforddi i ddelio â'r digwyddiadau hyn, ac maent yn gwneud hynny fel mater o drefn.

Fodd bynnag, mae angen y cyfarpar arnynt er mwyn gwneud hyn mewn modd diogel ac effeithiol.  Felly, rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi y bydd £1.8 miliwn ychwanegol ar gael dros y flwyddyn ariannol hon a'r un nesaf, i wella a diweddaru'r cychod, y pympiau a'r cyfarpar diogelu sydd eu hangen ar ein gwasanaethau tân.  Gwn fod gan ein Hawdurdodau Tân ac Achub gynlluniau manwl eisoes i gael gafael ar y cyfarpar hwn, ac i'w ddefnyddio lle y mae'r galw mwyaf amdano.

Mae hyn yn rhan o raglen lawer ehangach o arallgyfeirio’r gwasanaeth tân.  Mae'r Awdurdodau Tân ac Achub eisoes wedi llwyddo i leihau nifer yr achosion o dân, a'i ddifrifoldeb.  Byddai'n hollol anghywir, yn ogystal â bod yn beryglus, i'w cosbi am eu llwyddiant drwy orfodi toriadau arnynt.  Yn lle hynny, gallwn gefnogi ein diffoddwyr tân fel y gallant ymateb i risgiau eraill ac anghenion unigolion a chymunedau, megis llifogydd ac argyfyngau meddygol gyda'r un dewrder, proffesiynoldeb ac ymroddiad y maent bob amser wedi'u dangos.  Rwy'n falch o wneud hyn.  

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/dyletswydd-statudol-ar-awdurdodau-tan-ac-achub-cymru-i-ymateb-i-ddigwyddiadaun-ymwneud