Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn 2018, bydd Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb yn llwyr am Wasanaethau Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau.  Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda'r gweithredwr presennol, Trenau Arriva Cymru a chyda Network Rail i ddod o hyd i ffyrdd o ddarparu mwy o gapasiti ar drenau prysur.

Rydym hefyd yn ymrwymedig i greu rhaglen barhaus ar gyfer moderneiddio seilwaith rheilffyrdd Cymru a byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu'n brydlon ar hyn.

Fel rhan o’m hymrwymiad i wella perfformiad gwasanaethau trên Cymru, rwy'n cwrdd yn rheolaidd â swyddogion Network Rail a Threnau Arriva Cymru, a hynny mewn cyfarfodydd ar wahân, i drafod y materion sy'n eu hwynebu ar hyn o bryd a’u cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Cyfarfyddais y llynedd â'r ddau gwmni i'w herio i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael ar y cyd â'r enghreifftiau o wasanaeth gwael a ddarperir i deithwyr yng Nghymru. I gyflawni hynny, sefydlwyd Bwrdd Gweithredu a Llywodraethu sy'n gyfrifol am sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo ar y cyd i wella perfformiad ar draws Llwybr Cymru. Mae'r Bwrdd, erbyn hyn, wedi cwrdd ddwywaith ac mae’r cynnydd cychwynnol yn galonogol o ran nodi sut y gellir gwella profiadau teithwyr.

Yn gynharach y mis hwn, cyfarfyddais ag Andy Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybr Cymru Network Rail i drafod y gwasanaethau rheilffyrdd. Cytunom y dylai gwasanaeth i gwsmeriaid a budd teithwyr chwarae rhan flaenllaw yn ein hymgais i ddatblygu a darparu prosiectau yng Nghymru. Rwy'n falch o weld Llwybr Cymru Network Rail yn cael ei sefydlu, a'r annibyniaeth gynyddol sydd gan y cwmni.  Gall Andy a'i dîm yn awr hoelio mwy o sylw penodol ar yr heriau sy’n ein hwynebu, ac rwy'n falch o'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU yn dal i wrthwynebu datganoli mwy o bwerau dros y seilwaith rheilffyrdd a chyllidebau tecach ar ei gyfer. Mae hynny yn parhau i roi Cymru dan anfantais, yn enwedig gan ein bod cael llai o fuddsoddiad mewn seilwaith rheilffyrdd hanfodol nag ardaloedd eraill o'r DU.  Bydd y Llywodraeth hon, felly, yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ymrwymo i ddatganoli mwy o bŵer dros y rheilffyrdd i Gymru fel yr argymhellwyd gan y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru.

Pan fo buddsoddiad yn cael ei wneud, er enghraifft ,yn system arwyddion newydd de-ddwyrain Cymru, mae Cledrau'r Cymoedd wedi perfformio'n well. Mae angen y lefel hon o fuddsoddiad ledled rhwydwaith rheilffyrdd Cymru fel bod pob defnyddiwr yn ein gwlad yn elwa ar berfformiad gwell.

Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan Drenau Arriva Cymru i wella capasiti ar Gledrau'r Cymoedd sy'n golygu y bydd yn dyblu faint o deithwyr sy'n gallu teithio i Gaerdydd ar y trenau mwyaf prysur.

Rwyf hefyd yn falch bod Trenau Arriva Cymru a Network Rail yn cynllunio i ddatrys y materion yn gysylltiedig â dail yn cwympo a berodd lawer o broblemau i'r rhwydwaith yr hydref ddiwethaf. Yn benodol, nodaf y gwaith sydd wedi'i wneud ar reilffordd Wrecsam-Bidston megis arolygiadau rheolaidd ohoni a'r cynllun rheoli llystyfiant sydd yn ei le.

Mae ein buddsoddiad yn y prosiect £49.1 miliwn i wella rheilffordd Wrecsam i Gaer, a ddarperir gan Network Rail, yn tynnu at ei derfyn Mae Network Rail wedi cadarnhau y bydd y seilwaith yn cael ei gomisiynu yn y misoedd nesaf.

Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar opsiynau i wella capasiti a hyblygrwydd rhwng Wrecsam a Chaer ac yn y gorsafoedd gan ddefnyddio'r £10 miliwn o gyllid a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth flaenorol.

Mae Network Rail a Llywodraeth y DU yn datblygu cynllun Llwybr Cymru ar gyfer Cyfnod Rheoli 6 ac rwyf wedi pwysleisio ei bod yn hanfodol ein bod yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddatblygu'r cynllun. Ers 2011, dim ond tua 1 y cant o'r arian a neilltuwyd ar gyfer cynlluniau i wella rheilffyrdd y mae Llywodraeth y DU wedi'i wario ar wasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, er eu bod yn 6% o rhwydwaith rheilffordd y DU.

Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol ac rydym am weld cyfran fwy teg o arian yn cael ei wario ar wella rheilffyrdd yng Nghymru yn y dyfodol. Yn benodol, hoffwn weld cyllid mwy teg yn cael ei roi i ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog, sy'n rhan allweddol o'n huchelgeisiau ar gyfer Metro De Cymru. Rwy'n gofyn eto i Lywodraeth y DU fod ar flaen y gad a gweithio mewn partneriaeth â'r sector preifat a'r sector cyhoeddus i fuddsoddi mewn ailwampio gorsafoedd prysuraf Cymru.  Yn ystod cylch cyllido nesaf Llywodraeth y DU,  rydym yn disgwyl y bydd, man lleiaf, yn cyflawni'r flaenoriaeth hon, ynghyd â moderneiddio prif reilffordd gogledd Cymru a bodloni'r ymrwymiad i drydaneiddio gwasanaethau rhwng Caerdydd ac Abertawe.