Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn ymdrin â’r gwelliannau diweddaraf i wasanaethau rheilffyrdd y Gogledd.

Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf am wella lein Halton Curve, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth i ofyn am ragor o wybodaeth am y prosiect.  Yn ei ymateb, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth bod y Llywodraeth yn neilltuo £10.4 miliwn i helpu ‘Growth Deal’ Dinas-ranbarth Lerpwl i dalu am adfer yr Halton Curve.  Diolch i’r prosiect, bydd gwasanaethau teithwyr o’r Gogledd a Gorllewin swydd Caer yn gallu mynd yn syth i Ganol Dinas Lerpwl a Maes Awyr Lerpwl John Lennon.

Mae’r cynllun wrthi’n cael ei ddatblygu gan Network Rail a disgwylir y cynigion manwl yn fuan flwyddyn nesaf.  O’i gymeradwyo, mae Llywodraeth y DU yn disgwyl gweld y cynllun yn dod i fwcwl yn 2016/17.

Mae’r Tasglu Gweinidogion sy’n canolbwyntio ar Drafnidiaeth yn y Gogledd yn gweld y cynllun yn flaenoriaeth ac y bydd yn debygol o wneud gwahaniaeth go iawn i deithwyr ddwy ochr y ffin.  Bydd ailagor lein Halton Curve yn caniatáu i wasanaethau rheilffyrdd yr ardal fod yn hyblyg ac rydym wedi comisiynu astudiaeth ar y cyd â MerseyTravel i asesu’r galw ac mae MerseyTravel wedi comisiynu gwaith pellach eu hunain i ddatblygu opsiynau.

At hynny, dros yr haf ymatebais i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar Ffransieis y TransPennine Express a Northern Rail.  Mae cysylltiadau da rhwng Cymru a Gogledd Lloegr yn bwysig iawn i gynnal a datblygu economïau rhanbarthol ac rwy’n awyddus i fanteisio ar bob cyfle i gryfhau’r cysylltiadau hyn yn ystod y broses o adnewyddu’r ffransieis.  Yn fy ymateb, codais bwyntiau am eu cysylltiadau â gwasanaethau i ac o Gymru, gwasanaethau Cymru a’r Gororau i ac o Fanceinion, gwasanaethau TransPennine Express, diogelwch, profiad y teithiwr a Theithio Llesol.