Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith
Mae'r datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth i aelodau am ein cynlluniau o ran cerbydau ar gyfer contract gwasanaethau rheilffyrdd nesaf Cymru a'r Gororau.
Mae cael gwasanaeth rheilffordd safonol a dibynadwy sy’n rhan o system drafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig ledled Cymru yn hollbwysig er mwyn helpu ein heconomi i dyfu, caniatáu i’n cymunedau gysylltu a datblygu, caniatáu i’n dysgwyr gael cyfleoedd addysgol a sicrhau bod pobl yn gallu cyrraedd gwasanaethau gofal iechyd.
Mae'r hyn y mae teithwyr yn ei feddwl am ansawdd y trenau y maent yn teithio arnynt bob dydd yn agwedd sylfaenol ar eu boddhad cyffredinol â’r gwasanaeth a ddarperir. Mae'n bwysig bod cerbydau o ansawdd sy'n cwrdd â disgwyliadau teithwyr yn cael eu darparu fel rhan o'r contract gwasanaeth rheilffyrdd nesaf.
Mae'r twf mewn teithwyr wedi bod yn sylweddol uwch na'r hyn a ragwelwyd pan gafodd y contract presennol ei osod gan Awdurdod Rheilffyrdd Strategol Llywodraeth y DU, a hynny’n gynnar ar ddechrau’r ddegawd ddiwethaf. Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y contract hwn, yr ydym bellach wedi'i etifeddu, ar gyfer twf mewn teithwyr. Felly, er gwaethaf buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau a cherbydau ychwanegol, ni ddarparwyd digon o gapasiti ar bob adeg i gwrdd â'r galw gan deithwyr. Mae ein cynlluniau ar gyfer y contract nesaf yn cael eu llunio gyda hyn mewn cof. Bydd angen i gynigwyr gynnwys capasiti digonol i gwrdd â'r galw gan deithwyr. Disgwylir y bydd y galw hwnnw'n cynyddu 74% ymhellach erbyn 2030.
Nid yw’r contract cyfredol yn caniatáu ar gyfer twf ac nid yw ychwaith yn gorfodi’r Cwmni Trên i ddarparu cerbydau newydd. O ganlyniad, mae ein trenau mwyaf newydd yn fwy nag 20 mlwydd oed a'r hynaf yn agos iawn at fod yn 40 oed. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn cydymffurfio â'n gofynion o ran hygyrchedd, ac mae hynny ynddo’i hun yn her anferth. Mae’n flaenoriaeth gennym wella'r fflyd presennol o gerbydau nad ydynt yn addas at y diben o gyflenwi rhwydwaith rheilffyrdd modern, effeithlon a glân.
Mae'r contract gwasanaeth rheilffyrdd nesaf yn gyfle i bobl ledled Cymru weld newidiadau go iawn i ansawdd y trenau y maent yn eu defnyddio'n ddyddiol. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd gennym yn gynharach eleni, roedd pobl yn bendant eisiau gweld amrywiaeth o welliannau.
Yn dilyn cyfnod cyncymhwyso llwyddiannus y broses gaffael, rydym wedi gwahodd y cynigwyr i lunio eu hatebion amlinellol. Bydd yr atebion amlinellol hyn yn sail i gam nesaf y gwaith o ddatblygu'r contract – y Ddeialog Gystadleuol. Mae’r weithdrefn Ddeialog Gystadleuol yn broses lle’r ydym yn gweithio gyda’r cynigwyr i lunio contract sy’n sicrhau bod ein hamcanion lefel uchel yn cael eu cyflawni, gan ganiatáu i gynigwyr lunio eu atebion unigryw eu hunain er mwyn cwrdd â chyfres o ofynion manwl, sy’n gyffredin i bob cynigwr. Yn y pen draw, bydd pob cwmni’n cyflwyno cynigion ar sail y gofynion hynny.
Fel rhan o'r broses hon, rydym wedi nodi rhai o'r blaenoriaethau allweddol y byddem yn gofyn i'r cynigwyr eu darparu, man lleiaf, wrth iddynt gyflwyno’u hatebion arfaethedig o ran cerbydau.
- Mae'n rhaid darparu cerbydau o ansawdd uchel er mwyn cwrdd â disgwyliadau a galwadau cynyddol gan deithwyr. Mae hyn yn cynnwys mynd ati i hwyluso ffyrdd o weithio wrth deithio, sicrhau cysylltedd, gwybodaeth i deithwyr a darparu digon o le i storio bagiau a beiciau.
- Mae'n rhaid i'r holl gerbydau gydymffurfio â Rheoliadau'r Fanyleb Dechnegol ar gyfer Rhyngweithredu i Bobl â Symudedd Is. Rhaid darparu Toiledau sy’n Rheoli Allyriadau pan fo'n briodol.
- Rhaid sicrhau cynnydd mewn capasiti er mwyn cefnogi'r twf presennol yn nifer y teithwyr a'r twf a ragfynegir at y dyfodol er mwyn sicrhau na fydd angen i deithwyr sefyll am fwy nag 20 munud, hyd yn oed ar y gwasanaethau mwyaf prysur.
- Yn ardaloedd y Metro yn benodol, mae'n rhaid i gerbydau allu caniatáu i bobl fynd i mewn iddyntac allan ohonynt yn sydyn.
- Ar Reilffyrdd Craidd y Cymoedd (h.y. y gorsafoedd hynny i'r gogledd o Orsaf Stryd y Frenhines, ynghyd â rheilffordd Bae Caerdydd), bydd gwasanaethau i deithwyr sy'n defnyddio tyniant disel yn unig yn dod i ben yn raddol. Caiff systemau trydaneiddio confensiynol, systemau storio ynni a systemau hybrid eu hystyried.
Yn ystod cam nesaf y broses gaffael, bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda'r cynigwyr i edrych ar y modd y gellir datblygu'r gofynion sylfaenol hyn ymhellach yn y fanyleb gynhwysfawr ar gyfer y contract gwasanaeth rheilffyrdd.
Bydd disgwyl i bob cynigydd leihau’r effaith y mae'r cerbydau'n ei chael ar yr amgylchedd, p'un ai’r trenau neu’r cyfleusterau yn y depo sy’n gyfrifol am yr effaith honno. Gellir defnyddio technoleg i helpu yn hyn o beth, gan gynnwys cynhyrchu ynni drwy’r systemau brecio, a thrwy osod systemau monitro ynni ar drenau. Gallai’r atebion posibl yn y depos gynnwys paneli solar a chasglu dŵr, a lleihau’r effaith ar gymunedau lleol drwy reoli sŵn a golau’n effeithiol.
Credwn fod y cwmnïau sy'n cyflwyno cynigion i ddarparu a rhedeg ein trenau am y 15 mlynedd nesaf yn y lle gorau i’n cynorthwyo i ddatblygu’r atebion gorau ar gyfer cerbydau yn ardal Cymru a’r Gororau. Mae pob un o’r cwmnïau hyn wedi darparu gwasanaethau rheilffyrdd ledled y byd ac mae ganddynt arbenigedd, partneriaid a chysylltiadau â rhwydweithiau’r diwydiant a fydd, o’u sianelu drwy broses gystadleuol, yn caniatáu i’r rhai sy’n defnyddio gwasanaeth wedi’i foderneiddio elwa ar y gorau sydd gan y diwydiant rheilffordd byd-eang i’w gynnig.
Bydd y dull cydweithredol hwn o weithio gyda'r cynigwyr yn arwain at atebion fforddiadwy y gellir eu cyflenwi ac a fydd wedi’u teilwra ar gyfer cerbydau yng Nghymru. Bydd hynny’n cyd-fynd â’n dyheadau ni ac anghenion defnyddwyr y rhwydwaith.
Yn y cyfamser, rydym yn parhau i weithio gyda Trenau Arriva Cymru, y gweithredwr presennol i nodi opsiynau ar gyfer darparu capasiti ychwanegol ar wasanaethau prysur. Er mai nifer cyfyngedig iawn o gerbydau disel sydd ar gael, mae fy swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda'r diwydiant rheilffyrdd i geisio dod o hyd i atebion a allai sicrhau capasiti ychwanegol yn y tymor byr.