Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Mae gwasanaeth rheilffordd newydd rhwng Glynebwy a Chasnewydd bellach yn gweithredu diolch i fuddsoddiad o £70 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am fuddsoddiadau mewn seilwaith rheilffyrdd, ond i ddangos ein hymrwymiad i wella gwasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru, rydym wedi camu i'r adwy i sicrhau'r gwelliannau i'r trac a'r gorsafoedd a fydd yn caniatáu gwasanaeth trên bob awr rhwng Tref Glynebwy a Chasnewydd, yn ogystal â'r gwasanaeth presennol i Gaerdydd sy'n rhedeg bob awr.
Bydd dyblu amlder y trenau yn gwneud gwahaniaeth i'r holl gymunedau ar hyd y llwybr.
Mae gennym hanes hir o fuddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd yng Nglyn Ebwy, gydag ailagoriad cychwynnol y llinell yn 2008, yr orsaf newydd yn Pye Corner yn 2014 a'r gwaith a wnaed i estyn y llinell i Dref Glynebwy yn 2015.
Wrth gyflawni'r pecyn uwchraddio seilwaith, dangoswyd cydweithio rhagorol rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Blaenau Gwent, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru. Mae'r gwaith wedi cael ei alluogi gan fuddsoddiadau Network Rail mewn uwchraddio signalau a gwaith adnewyddu pontydd.
Gan weithio gyda'n gilydd, mae'r gwaith i uwchraddio seilwaith wedi cael ei gwblhau ar amser ac o fewn y gyllideb. Hoffwn i ddweud diolch yn swyddogol i Gyngor Blaenau Gwent, Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru.