Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:
Bydd yr Aelodau'n gwybod erbyn hyn am y datganiad a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf dros y 24 awr ddiwethaf mewn perthynas â gwasanaethau mamolaeth. Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cadarnhau bod nifer o ddigwyddiadau difrifol, gan gynnwys marwolaethau rhai babanod, wedi dod i'r amlwg yn dilyn adolygiad mewnol o brosesau’r Bwrdd ar gyfer cofnodi digwyddiadau, Mae materion hyn bellach wedi’u cofnodi ac yn destun ymchwiliad manwl.

Mae gennyf yr un pryderon â phawb ynglŷn â difrifoldeb y mater a’r angen am sicrwydd. Mae diogelwch cleifion o'r pwys mwyaf i mi ac i GIG Cymru.  Lles mamau a babanod sydd flaenllaw yn ein meddyliau.

Mae fy swyddogion yn cadw mewn cysylltiad â'r Bwrdd Iechyd er mwyn cael sicrwydd uniongyrchol o ran yr ymchwiliad a'r camau y mae angen eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel i fenywod a babanod.

Rydym yn trafod gyda'r Bwrdd Iechyd i gytuno ar y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn cefnogi’r gwasanaeth mamolaeth, ar hyn o bryd ac yn y dyfodol. Rwyf hefyd wedi siarad â'r Cadeirydd er mwyn mynegi fy mhryderon a chael sicrwydd uniongyrchol ei fod ef a’r Bwrdd yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol. Mae'n hanfodol bwysig bod pob un sy'n defnyddio gwasanaethau Cwm Taf yn gwybod y byddant yn cael gofal ardderchog, diogel a thosturiol.

Rwy’n cydnabod y camau gwahanol sy’n cael eu cymryd a’r gwaith sy’n mynd rhagddo o fewn y Bwrdd Iechyd ac yn benodol y camau y mae’n eu rhoi yn eu lle i sicrhau bod y gwasanaethau’n cael eu cefnogi ar unwaith. O ystyried difrifoldeb y sefyllfa, rwy wedi penderfynu y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad allanol annibynnol. Felly, rwy wedi gofyn i Brif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Nyrsio Cymru gysylltu'n uniongyrchol â Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd i ofyn iddynt gychwyn a chynnal adolygiad llawn o'r hyn sydd wedi digwydd a pha gamau y mae’n rhaid eu cymryd er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau mor ddiogel â phosibl, a hynny cyn gynted â phosibl.  

Byddaf hefyd yn gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad yn gynnar yr wythnos nesaf er mwyn rhoi rhagor o fanylion ar y camau sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â'r mater hwn.