Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyddhau ar y cyd Ddatganiad o Werthoedd ac Egwyddorion ar gyfer Gwasanaethau Gofal Iechyd Trawsffiniol y GIG i Gymru a Lloegr wedi'i ddiweddaru, sy'n amlinellu'r egwyddorion cyffredinol sy'n llywio'r ddarpariaeth o ofal trawsffiniol ar hyd y ffin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda GIG Lloegr ac Adran Iechyd San Steffan, ynghyd â chynrychiolwyr o Fyrddau Iechyd Lleol Cymru, Grwpiau Comisiynu Clinigol yn Lloegr, Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a byrddau sy'n cynrychioli cleifion i adnewyddu'r Protocol Trawsffiniol y GIG presennol, a oedd wedi bod ar waith ers 2013.
Mae'r Datganiad yn amlinellu egwyddorion cyffredinol, gan gynnwys safonau a hawliau cyfreithiol, egwyddorion ariannol a sut y bydd y fframwaith yn cael ei adolygu a'i ddiwygio o bosibl yn y dyfodol. Mae'r atodiadau i'r Datganiad yn darparu manylion gweithredu'r llif cleifion trawsffiniol.
Bydd Cylchlythyr Iechyd Cymru hefyd yn cael ei anfon at Gadeiryddion a Phrif Weithredwyr GIG Cymru yn gofyn iddynt hwy a'u sefydliadau lynu at yr egwyddorion a gyflwynir yn y Datganiad.