Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae adroddiad gan Goleg Brenhinol Llawfeddygon Lloegr (RCS) wedi cael ei gyhoeddi, sy’n trafod gwasanaethau fasgwlaidd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gallwch weld copi o’r adroddiad yma. Yr adroddiad hwn yw ail ran yr adolygiad o’r gwasanaeth y gwahoddwyd yr RCS i’w gynnal, ac adroddwyd ar y rhan gyntaf ym mis Mai y llynedd. Gallwch weld copi o’r adroddiad hwnnw yma.[1]
Mae’r adroddiad diweddaraf hwn wedi achosi siom a phryder imi. Ynddo, adolygwyd 44 o setiau o nodiadau achos a darganfuwyd diffygion mewn gofal, y drefn cadw cofnodion, cael cydsyniad ac apwyntiadau dilynol mewn nifer o’r achosion a archwiliwyd. Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r cyfnod o cyn yr ad-drefnu hyd at fis Gorffennaf y llynedd. Gwn y bydd pobl leol ac Aelodau’r Senedd yn rhannu fy mhryderon, ac eisiau atebion am y materion hyn, yn ogystal â dyfodol y gwasanaeth hwn.
Mae’r achosion sy’n cael eu hadolygu yma yn ymdrin â phobl go iawn a’u teuluoedd, a bydd llawer o bobl eraill yn poeni am ansawdd y gofal maent wedi’i dderbyn neu ar fin ei dderbyn, a ph’un a yw’r gwasanaeth hwn yn ddiogel. Rwy’n disgwyl i’r bwrdd iechyd fynd i’r afael â’r materion hyn ar unwaith, a rhoi cynllun a phrosesau ar waith i gysylltu â chleifion a’u hadolygu mewn modd priodol a sensitif, er mwyn rhoi gwybodaeth a sicrwydd iddynt yn ogystal ag ymdrin â’r argymhellion eraill a wnaed gan yr RCS.
Gwn fod llawer wedi bod yn poeni am y newidiadau a wnaed i wasanaethau fasgwlaidd yn y Gogledd. Dydy newidiadau i wasanaethau byth yn hawdd, ac rwy’n deall y pryderon. Fodd bynnag, y model o ofal ar gyfer gwasanaethau fasgwlaidd, lle caiff y triniaethau mwyaf cymhleth eu cynnal mewn canolfan arbenigol, gyda chefnogaeth canolfannau lleol sy’n cynnal triniaethau symlach, yw’r model cywir. Mae’r Gymdeithas Fasgwlaidd a Choleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cymeradwyo’r model "prif ganolfan a lloerennau" hwn, a dyma’r ffordd i sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy yn y dyfodol. Disgwylir y bydd 20 y cant o achosion yn cael eu trin yn y ganolfan arbenigol ac 80 y cant yn lleol. Mae apwyntiadau cleifion allanol, adolygiadau o atgyfeiriadau fasgwlaidd cleifion mewnol a rhai triniaethau llai arbenigol yn parhau i gael eu cynnal ar draws y Gogledd i gyd.
Hoffwn felly annog pawb i beidio â chael eu dylanwadu i dderbyn awgrymiadau y dylai’r hen fodel gwasanaeth gael ei ailgyflwyno, oherwydd ni all hynny ddigwydd, ac ni fyddai Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn cefnogi hynny. Yn ogystal, mae buddsoddiad sylweddol wedi’i wneud yn y gwasanaeth hwn, yn arbennig yn y theatr hybrid a’r cyfleusterau radioleg ymyriadau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Fodd bynnag, fel y mae adolygiad mewnol y bwrdd iechyd ei hun a dau adroddiad yr RCS wedi dangos, rydym wedi wynebu anawsterau sylweddol wrth weithredu’r model newydd, ac ar sawl cyfrif, mae wedi cael ei weithredu’n wael. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod Adroddiad blynyddol y Gofrestrfa Fasgwlaidd – sef archwiliad o ofal a chanlyniadau – wedi dangos canlyniadau anghyson, sydd hefyd yn peri pryder.
Rwy’n llawn sylweddoli pa mor heriol yw newid llwybr gofal hirsefydlog, a sicrhau bod pawb yn hapus gyda newid system gyfan, yn arbennig ynghanol pandemig; ond mae llawer o bethau sydd heb eu gwneud yn dda, ac nid oes esgus dros hyn. Rwyf hefyd yn sicr nad yw’r siarad negyddol cyhoeddus diddiwedd wedi helpu, ac mae hyn wedi taflu cysgod ar unrhyw effeithiau cadarnhaol sydd wedi codi yn sgil ad-drefnu’r gwasanaeth, ac o bosibl wedi effeithio ar forâl staff. Cafodd hyn ei nodi yn adroddiad cyntaf yr RCS.
Er mwyn pobl y Gogledd sydd angen y gwasanaeth hwn, a’r staff sy’n gweithio i ddarparu’r gofal hwn, rhaid inni nawr wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y bwrdd iechyd yn ei weithredu’n briodol, i wneud y llwybr yn un di-dor a gwella canlyniadau. Mae’r gwasanaeth hwn wedi’i fwriadu i fod yn wasanaeth blaenllaw, ac rwy’n benderfynol mai dyna y bydd.
Yn ogystal â chamau eraill, mae’r bwrdd iechyd yn cymryd camau ar unwaith i gryfhau’r arweinyddiaeth glinigol ac ymrwymo i gytundeb gyda gwasanaeth fasgwlaidd mwy yn Lloegr, a fydd yn darparu trosolwg a chymorth traws-ddisgyblaethol. Mae fy swyddogion wedi derbyn sicrwydd cryf gan swyddogion gweithredol yn y bwrdd iechyd ar yr holl argymhellion, ac rwyf hefyd wedi ysgrifennu at Gadeirydd y bwrdd iechyd heddiw i ddatgan fy nghefnogaeth i’r gwaith sy’n cael ei wneud. Ond rwyf hefyd yn nodi fy nisgwyliadau clir fod yn rhaid i’r materion hyn gael blaenoriaeth amlwg, ac nad yw’r materion a godwyd, gan gynnwys cadw cofnodion a chydsyniad yn endemig o fewn y sefydliad. Bydd fy swyddogion hefyd yn ystyried p’un a fydd mesurau uwchgyfeirio neu arolygu pellach yn ofynnol, ac rwyf wedi gofyn i wasanaethau fasgwlaidd gael eu trafod yn y cyfarfod nesaf rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Yn olaf, i’r staff sy’n gweithio yn y gwasanaeth hwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd yn y sefyllfa anodd hon, hoffwn ddweud ein bod yn eich gwerthfawrogi chi, yn eich cefnogi chi ac rydym am eich gweld yn llwyddo. Fodd bynnag, bydd angen i bawb weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn llwyddo i gleifion. Rwy’n dibynnu ar bawb i helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd, ac rwy’n edrych ymlaen at gael eich cefnogaeth barhaus.
[1] Tudalen 456 o bapurau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai 2021