Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae clefydau fasgwlaidd yn cynnwys unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar y rhwydwaith o bibellau gwaed sy’n cael eu hadnabod fel y system fasgwlaidd neu gylchrediad y gwaed. Prif nod y gwasanaethau fasgwlaidd yw ailadeiladu, datgloi, neu ddargyfeirio’r rhydwelïau er mwyn adfer llif y gwaed i organau. Yn aml bydd y rhain yn driniaethau untro, gan mwyaf i leihau’r risg o farwolaeth sydyn neu i atal strôc, neu leihau’r risg o orfod colli aelod o’r corff neu i wella sut mae’n gweithio. Mae gwasanaethau fasgwlaidd hefyd yn rhoi cymorth i gleifion sydd â phroblemau eraill megis clefyd yr arennau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaethau fasgwlaidd ar y cyd yn y De-ddwyrain, gan gynnwys ar gyfer cleifion o Bowys. Bydd angen triniaeth fasgwlaidd ar oddeutu 1,250 o gleifion bob blwyddyn ar draws y De-ddwyrain, ac felly mae hwn yn wasanaeth pwysig.

Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn y De-ddwyrain wedi bod yn wynebu nifer cynyddol o heriau ers llawer o flynyddoedd, gan gynnwys y ffaith bod canran y boblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu o hyd a bod y galw am wasanaethau’n tyfu. Roedd gwasanaethau yn eu fformat presennol, lle mae’r holl ofal yn cael ei ddarparu ar draws tri bwrdd iechyd ar wahân, yn mynd yn fwyfwy anghynaliadwy. Ers blynyddoedd, bu llawer o drafod am y modd y mae gwasanaethau fasgwlaidd yn cael eu trefnu, gan edrych ar wahanol opsiynau, a chyflwyno cyfres o argymhellion fel rhan o’r achos o blaid newid.

Mae llawdriniaeth fasgwlaidd yn mynd yn fwyfwy arbenigol, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod cleifion yn cael gwell ganlyniadau os ydynt yn cael eu triniaeth mewn canolfannau arbenigol mwy o faint. Mae’r Colegau Llawdriniaeth Brenhinol a Chymdeithas Fasgwlaidd Prydain ac Iwerddon yn cefnogi’r farn nad yw’n ddymunol bellach i ddarparu llawdriniaeth fasgwlaidd frys neu argyfwng y tu allan i wasanaeth sydd wedi ei ganoli’n llawn neu rwydwaith clinigol ffurfiol sydd ag un ganolfan rhydwelïol ddynodedig sy’n darparu gwasanaeth 24 awr ar y safle.

Ar ôl cwblhau gwaith helaeth, mae’r byrddau iechyd wedi cytuno i sefydlu gwasanaeth fasgwlaidd rhanbarthol a fydd yn weithredol o 18 Gorffennaf 2022. 

Ar ôl sefydlu Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru ac ailgynllunio gwasanaethau fasgwlaidd y De-ddwyrain, bydd pob llawdriniaeth rydwelïol yn cael ei gwneud mewn Prif Ganolfan Rydwelïol newydd, sydd wedi ei lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Bydd y rhan fwyaf o’r gofal yn cael ei ddarparu’n nes i gartrefi pobl, mewn canolfannau lleol llai o faint nad ydynt yn ganolfannau rydwelïol, yn Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg. Bydd y canolfannau hyn yn darparu gofal megis asesiadau cyn cael llawdriniaeth, archwiliadau, mân driniaethau, a gofal adfer, a byddant yn gweithio o fewn y model clinigol cytûn sy’n cynnwys nifer o lwybrau llawdriniaeth ac adsefydlu, a manyldeb wasanaeth glir. Ni fydd pa mor gyflym y ceir mynediad at archwiliadau ac asesiadau fasgwlaidd brys yn dibynnu ar ffactorau megis a yw’r claf yn dod i mewn i’r system drwy’r Brif Ganolfan Rydwelïol  neu drwy ganolfan nad yw’n ganolfan rydwelïol.

Bydd y Brif Ganolfan Rydwelïol yn trin pob achos fasgwlaidd brys lle mae angen ymyrraeth fasgwlaidd neu endofasgwlaidd, ochr yn ochr â darparu’r holl ofal fasgwlaidd brys ar gyfer cleifion mewnol. Bydd ganddi welyau dynodedig ar gyfer cleifion fasgwlaidd mewn ward sy’n cael ei staffio gan nyrsys sydd â diddordeb mewn llawdriniaeth fasgwlaidd. Caiff ei staffio gan dîm fasgwlaidd sy’n cynnwys llawfeddygon fasgwlaidd, anesthetyddion fasgwlaidd, radiolegwyr fasgwlaidd ymyriadol, nyrsys clinigol arbenigol, ymarferwyr gofal llawfeddygol, podiatryddion, nyrsys hyfywedd meinwe, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr, ac aelodau o’r tîm prostheteg.

Pan fydd claf yn cychwyn ar ei daith adfer ac adsefydlu, bydd ei ofal yn cael ei ddarparu o ysbyty neu leoliad cymunedol sydd mor agos i’w gartref â phosibl.

Mae’r byrddau iechyd wedi bod yn siarad â staff y GIG ar draws y De-ddwyrain drwy gydol y broses o ddatblygu’r cynlluniau hyn, a byddant yn parhau i ymgynghori â staff yn ystod y cyfnod gweithredu.

Bydd lansio Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yn gwella canlyniadau i gleifion, gan sicrhau hefyd bod gwasanaethau’n gynaliadwy ac yn deg i’r boblogaeth ar draws y De-ddwyrain. Mae hyn yn ffrwyth gwaith diflino, gan gynnwys gwaith cynllunio, a thrwy weithredu ar y cyd mae’r byrddau iechyd yn hyderus bod ganddynt bellach y model gorau posibl a’r cymorth mwyaf priodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth cadarn a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.