Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n cyhoeddi'r datganiad hwn i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ar ein cymorth ariannol parhaus ar gyfer y Gwasanaethau Cynghori.

Yn y datganiad ysgrifenedig, a anfonwyd gennyf ar 24 Ebrill 2019, cyhoeddais bod cyllid grant gwerth £8.04 miliwn ar gael drwy Gronfa Gynghori Sengl newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau cynghori ar les cymdeithasol yn ystod y cyfnod 1/01/2020 - 31/12/2020. Gan ddefnyddio gwaith ymchwil, wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru (Modelu yr angen am gyngor ar bynciau lles cymdeithasol yng Nghymru - 2017) ar yr angen am gyngor ar les cymdeithasol yng Nghymru, mae'r cyllid wedi'i ddyrannu i chwe rhanbarth a gwasanaeth cynghori o bell.

Mae'r ymrwymiad o fewn y Cynllun Gweithredu o ran Gwybodaeth a Chyngor i Gymru, i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei chyllid grant i gefnogi gwasanaethau cynghori ar gyfer lles cymdeithasol sydd wedi'i gynllunio'n strategol, yn gost effeithiol, yn gydweithredol ac integredig, ac yn cael eu cyflawni drwy weithredu'r Gronfa Gynghori Sengl.

Cafodd proses ymgeisio am grant agored y Gronfa Gynghori Sengl ei lansio ar 24 Ebrill 2019, ac roedd gan geiswyr gyfnod o 12 wythnos i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid.  Derbyniwyd tri-deg-chwech o geisiadau am gyllid ac rwy'n diolch i bawb gyflwynodd eu cynigion.  Cafodd pob un o'r ceisiadau eu gwerthuso yn erbyn meini prawf sgorio gwrthrychol i benderfynu pa mor effeithiol fyddai model cyflenwi gwasanaeth arfaethedig yn bodloni prif amcanion y Gronfa Gynghori Sengl.

Rwy'n sylweddoli y bydd y darparwyr gwasanaethau hynny fu’n aflwyddiannus yn eu ceisiadau, yn hynod siomedig. Fodd bynnag, roedd cyfanswm y cyllid y gwnaethpwyd cais amdano yn uwch na'r cyllid oedd ar gael, ac mewn proses cais agored, ni all Llywodraeth Cymru warantu y caiff grant ei ddyfarnu i bob cais.  Rwy'n cymryd na fydd y ymgeiswyr hynny nad oedd yn llwyddiannus y tro hwn, yn teimlo fel peidio â cyflwyno cynigion ar gyfer cyllid grant yn y dyfodol.

Drwy'r Gronfa Gynghori Sengl, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid grant i nifer o Gonsortia Cynghori (consortia yw cyfuniad o Bartneriaid Darparu Cyngor a Phartneriaid Mynediad. Mae manylion llawn y partneriaid sy'n rhan o bob Rhwydwaith wedi'i atodi er gwybodaeth yn Atodiad 1) a gyflwynodd geisiadau oedd yn cyd-fynd ag uchelgais Llywodraeth Cymru i ddarparwyr ddatblygu cynigion cydweithredol ar gyfer modelau cyflenwi gwasanaethau arloesol. Bydd y modelau cyflenwi hyn nid yn unig yn datrys problem lles cymdeithasol person, ond hefyd yn cynnig mynediad iddynt i wasanaethau fydd yn ychwanegu at eu gallu a'u hyder ac yn eu gwneud yn gryfach er mwyn osgoi problemau lles cymdeithasol yn y dyfodol.

Bydd y Consortia Cynghori yn darparu eu gwasanaethau drwy amrywiol ddulliau trafod (wyneb yn wyneb, dros y ffôn ac ar y we). Bydd mwyafrif y gwasanaethau yn y chwe rhanbarth wyneb yn wyneb, drwy leoliadau yng nghanol cymunedau lleol, ble y bydd darparwyr yn cyrraedd y grwpiau hynny sydd yn draddodiadol yn wynebu rhwystrau ychwanegol i dderbyn cymorth. 

Bydd swyddogion yn monitro perfformiad y Consortia Cynghori yn fanwl i sicrhau bod darparwyr yn dangos pa mor effeithlon yw eu gwasanaethau, drwy gofnodi yn erbyn cyfres gynhwysfawr o fesurau perfformiad pwysig.

Casgliad

Mae'r hinsawdd economaidd ansicr sydd o'n blaenau, yn ogystal â gweithredu parhaus rhaglen Diwygio Lles Llywodraeth y DU, yn cynyddu'r galw am wasanaethau cynghori ledled Cymru. Bydd y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Consortia Cynghori yn helpu Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn datblygu sector cynghori lles cymdeithasol yng Nghymru, ble y defnyddir adnoddau mor effeithiol â phosibl, a bod darparwyr â sicrwydd ansawdd yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n sicrhau y canlyniadau mwyaf cynaliadwy i'r rhai hynny sydd angen cyngor.

Atodlen 1

Cyfle am Gyllid

Rhanbarth 1

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaethau Cynghori yn y Gymuned

Rhwydwaith Cynghori Cwm Taf

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori 

Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr; Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful; Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf; Shelter Cymru.

Partneriaid Mynediad

Barnardo’s Cymru; Gofal a Thrwsio Cwm Taf.

(Bydd partneriaid ychwanegol yn cael eu nodi drwy'r Gronfa Datblygu Partneriaeth)

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol

Rhwydwaith Cynghori Cwm Taf

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Pen-y-bont ar Ogwr; Cyngor ar Bopeth Merthyr Tudful; Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf; Shelter Cymru; Cyngor ar Bopeth Casnewydd; SNAP Cymru.

Partneriaid Mynediad

Barnardo’s Cymru; Gofal a Thrwsio Cwm Taf.

(Bydd partneriaid ychwanegol yn cael eu nodi drwy'r Gronfa Datblygu Partneriaid)

Cyfle am Gyllid Rhanbarth 2

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaethau Cynghori yn y Gymuned

Rhwydwaith Cynghori Gorllewin y Canolbarth

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Powys; Cyngor ar Bopeth Ceredigion; Cyngor ar Bopeth Sir Benfro; Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin; Shelter Cymru.

Partneriaid Mynediad

(I'w nodi drwy Gronfa Datblygu Partneriaeth.)

Kaleidoscope, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol

Rhwydwaith Cynghori Gorllewin y Canolbarth

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Powys; Cyngor ar Bopeth Ceredigion; Cyngor ar Bopeth Sir Benfro; Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin; Cyngor ar Bopeth Casnewydd; Shelter Cymru, SNAP Cymru.

Partneriaid Mynediad

(I'w nodi drwy'r Gronfa Datblygu Partneriaeth) i gynnwys Banciau Bwyd, Canolfannau Teuluoedd, Canolfannau Ieuenctid a Chymuned, Mencap, Canolfan Byw’n Annibynnol Ceredigion, Croesffyrdd Hafal, Y Groes Goch Brydeinig

Cyfle am Gyllid Rhanbarth 3

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaethau Cynghori yn y Gymuned

Rhwydwaith Cynghori Gogledd Cymru

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Conwy; Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych; Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint; Cyngor ar Bopeth Gwynedd; Cyngor ar Bopeth Wrecsam, Cyngor ar Bopeth Ynys Môn.

Partneriaid Mynediad

Cymorth i Fenywod, Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru; Prosiect Ieuenctid Dinbych; Age Connects; Cymdeithas Alzheimer; Y Lleng Brydeinig Frenhinol, Prosiect Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych, Cynnal Gofalwyr/Crossroads, Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru; CAIS, Remploy; Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig; Home-Start; Gorwel.

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol

Rhwydwaith Cynghori Gogledd Cymru

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Conwy; Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych; Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint; Cyngor ar Bopeth Gwynedd; Cyngor ar Bopeth Wrecsam, Cyngor ar Bopeth Ynys Môn, Shelter Cymru, SNAP Cymru.

Partneriaid Mynediad

Cymorth i Fenywod, Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig Gogledd Cymru; Prosiect Ieuenctid Dinbych; Age Connects; Cymdeithas Alzheimer; Y Lleng Brydeinig Frenhinol; Mind Conwy, Sir Ddinbych a Dyffryn Clwyd; Prosiect Eiriolaeth Iechyd Meddwl Conwy a Sir Ddinbych; Cynnal Gofalwyr/Crossroad; Gwasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd-ddwyrain Cymru; CAIS; Remploy; Cymunedau ARC Bae Colwyn; Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig; Home-Start; Gorwel.

Cyfle am Gyllid Rhanbarth 4

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaethau Cynghori yn y Gymuned

Rhwydwaith Cynghori Gwent

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Caerffili Blaenau Gwent; Cyngor ar Bopeth Sir Fynwy; Cyngor ar Bopeth Casnewydd; Cyngor ar Bopeth Torfaen; Shelter Cymru.

Partneriaid Mynediad

Barnado's; Teuluoedd yn Gyntaf; Cymdeithas Alzheimer;  Gofal a Thrwsio; Cysylltwyr Cymunedol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; Presgripsiynu Cymdeithasol, Mind (Gwent, Caerffili a Torfaen a Blaenau Gwent), RNIB; Ymddiriedolaeth Gofalwyr; Cefnogi Pobl; Cymunedau am Waith; Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent.

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol

 

Rhwydwaith Cynghori Gwent

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Caerffili Blaenau Gwent; Cyngor ar Bopeth Sir Fynwy; Cyngor ar Bopeth Casnewydd; Cyngor ar Bopeth Torfaen; Shelter Cymru; SNAP Cymru.

Partneriaid Mynediad

Barnado's; Teuluoedd yn Gyntaf; Cymdeithas Alzheimer's; Gofal a Thrwsio; Cymorth i Fenywod (Gwent); Cysylltwyr Cymunedol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan; Cysylltwyr Cymunedol; RNIB; Ymddiriedolaeth Gofalwyr; Cefnogi Pobl; Cymunedau am Waith; Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent.

Cyfle am Gyllid Rhanbarth 5

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaethau Cynghori yn y Gymuned

Rhwydwaith Cynghori Caerdydd a'r Fro

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro; Canolfan y Gyfraith Speakeasy.

Partneriaid Mynediad

Barnado's Cymru; Llamau; Vision 21; Teuluoedd yn Gyntaf; Gofalwyr Cymru; Gofal a Thrwsio; Cymdeithas Alzheimer's; Cyngor Ffoaduriaid Cymru; POBL Gwalia a Reach.

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol

Rhwydwaith Cynghori Caerdydd a'r Fro

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cynghori

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro; Cyngor ar Bopeth Casnewydd; Canolfan y Gyfraith Speakeasy; SNAP Cymru.

Partneriaid Mynediad

Barnado's Cymru; Llamau; Vision 21; Teuluoedd yn Gyntaf; Gofalwyr Cymru; Gofal a Thrwsio; Cymdeithas Alzheimer's; Cyngor Ffoaduriaid Cymru; POBL Gwalia a Reach.

Cyfle am Gyllid Rhanbarth 6

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaethau Cynghori yn y Gymuned

Rhwydwaith Cynghori Aberatwe Castell-nedd Port Talbot

Partner Arweiniol

 Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot; Age Cymru Gorllewin Morgannwg; Shelter Cymru.

Partneriaid Mynediad

Barnado's; Gweithredu dros Blant; Canolfan Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe; Cymdeithas Awtistiaeth Abertawe; NAS Abertawe; Age Connects; Dove (iechyd meddwl), Gofal (iechyd meddwl), Hafal (iechyd meddwl), Gofal a Thrwsio; Caer Las. Wallich, Maggie’s, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, Cymdeithas Dai Coastal

 

Gwasanaethau Cynghori Arbenigol

 

Rhwydwaith Cynghori Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot; Shelter Cymru; SNAP Cymru; Cyngor ar Bopeth Casnewydd.

Partneriaid Mynediad

Barnado's; Gweithredu dros Blant; Canolfan Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe; Age Connects; Age Cymru; Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig; Dove.

Cyfle i Gyllido

Darparwr(wyr) dan Sylw

Gwasanaeth o Bell Ledled Cymru

Rhwydwaith Cyngor o Bell Cymru

Partner Arweiniol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Partneriaid Cyflenwi ar Gynghori

Cyngor ar Bopeth Caerdydd a'r Fro; Cyngor ar Bopeth Caerffili Blaenau Gwent; Gofal Canser Tenovus; Shelter Cymru; SNAP Cymru; Cyngor ar Bopeth Casnewydd.

Partneriaid Mynediad

Barnado's Cymru; Gofal a Thrwsio Cymru; Cymorth i Fenywod Cymru; Ymddiriedolaeth Trussell; Gofalwyr Cymru; Cymdeithas Alzheimer's.

Partneriaid Cyfeirio

Teithio ymlaen, Stonewall Cymru, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig, y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, y Gronfa Cymorth Dewisol