Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydw i'n cyhoeddi'r datganiad hwn i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch ein cefnogaeth barhaus i wasanaethau cynghori ac ar y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno gwelliannau hirdymor a fydd yn golygu bod gwasanaethau cynghori ledled Cymru yn fwy cynaliadwy ac yn cydgysylltu'n well.

Gwyddom fod gwaith gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn hynod bwysig i helpu pobl i ddatrys problemau â'u tai, eu budd-daliadau a'u hymrwymiadau ariannol. Os nad ydynt yn cael eu datrys, mae'r problemau hyn yn aml yn rhwystro pobl rhag cael gwaith, maent yn gallu achosi tlodi ar aelwydydd, a gallant gael effaith negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Gwyddom hefyd y bydd y diwygiadau lles sy'n mynd rhagddynt, yn enwedig y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol, yn parhau i gynyddu nifer y bobl ledled Cymru sydd angen cyngor. 

Mae'n bwysicach nag erioed, felly, bod gennym sector cynghori yng Nghymru sy'n defnyddio adnoddau mor effeithiol â phosibl a lle bo darparwyr â sicrwydd ansawdd yn cyflawni gwasanaethu sy'n canolbwyntio ar y bobl yn ein cymunedau sydd fwyaf eu hangen. 

Mae'r Cynllun Gweithredu o ran Gwybodaeth a Chyngor (IAAP) ar gyfer Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i sicrhau bod darpariaeth gydgysylltiedig, gynaliadwy a chost-effeithiol o wasanaethau gwybodaeth a chyngor am les cymdeithasol ar gael ledled Cymru a chanddynt sicrwydd ansawdd.

Rydym yn gwneud cynnydd da wrth weithredu llawer o'r pedwar cam gweithredu ar bymtheg sydd yn y cynllun. Fodd bynnag, rhaid i ni, ochr yn ochr â'n partneriaid, gynnal y momentwm hwn dros y tair blynedd sy'n weddill o'r cynllun pum mlynedd.

Rydw i wedi darparu crynodeb isod o fannau allweddol y gwnaed cynnydd ynddynt.

1. Sicrhau bod gwasanaethau cynghori o ansawdd yn cael eu darparu i bobl Cymru

Er mwyn sicrhau cysondeb o ran diffiniad 'gwasanaeth cynghori o ansawdd' yng Nghymru, ymrwymwyd Llywodraeth Cymru gan y Cynllun Gweithredu o ran Gwybodaeth a Chyngor i ddatblygu'r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor  (IAQF). Mae ansawdd darparwyr cyngor yng Nghymru yn cael ei sicrhau yn erbyn nifer o wahanol Safonau Ansawdd ar gyfer gwasanaethau cynghori. Caiff y safonau hyn wneud cais nawr am achrediad IAQF. Mae'r IAQF yn asesu sut mae Perchennog Safon ansawdd yn archwilio cydymffurfedd darparwyr gwasanaethau cynghori â saith maes ansawdd allweddol y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn elfennau hanfodol o wasanaeth cynghori da. Pan fo asesiad yn dangos bod proses archwilio Safon Ansawdd yn cydymffurfio â'r meysydd ansawdd allweddol hyn, yna dyfernir statws achrediad IAQF i'r Safon honno.

Dechreuodd gwasanaeth achredu'r IAQF ar ei waith ym mis Rhagfyr 2018 a disgwylir y dyfernir statws achrededig i dri o Safonau Ansawdd annibynnol ym mis Mai 2019. Mae gwaith wedi cychwyn yn ddiweddar ar brosesu ceisiadau chwe Safon Ansawdd arall am achrediad IAQF.

Hefyd, mae rhaglen o gefnogaeth yn cael ei chynnig i ddarparwyr gwybodaeth a chyngor i'w helpu i ddatblygu eu polisïau a'u gweithdrefnau at lefel a fydd yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Achrededig yr IAQF. Pan fydd gan ddarparwyr Safon Ansawdd wedi'i hachredu gan IAQF, gall pobl Cymru fod yn hyderus eu bod yn cael cyngor diduedd a ddarperir er eu lles gorau nhw yn unig, a hynny oddi wrth ddarparwr sy'n bodloni'r elfennau hanfodol a nodir gan IAQF ar gyfer gwasanaeth cynghori da.

2. Cefnogaeth ataliol yn rhan annatod o ymyriadau cynghori

Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo datblygu atebion ataliol i helpu pobl i ddangos gwydnwch yn wyneb problemau lles cymdeithasol, a fydd ar yr un pryd yn lleihau'r pwysau parhaus ar wasanaethau cynghori i fynd i'r afael â'r un argyfyngau dro ar ôl tro. Gwelwyd cynnydd da o ran yr isod:

  1. annog gwell dealltwriaeth o hawliau lles cymdeithasol unigolyn drwy addysg gyfreithiol i'r cyhoedd
  2. hybu ymyrryd yn gynnar i atal problemau lles cymdeithasol rhag gwaethygu
  3. cynyddu gallu a gwydnwch pobl er mwyn sefydlu datrysiadau cynaliadwy i atal problemau lles rhag digwydd eto.

Mae Llywodraeth Cymru'n ariannu dau brosiect peilot sy'n cynnig modelau newydd ar gyfer darparu cyngor a chefnogaeth i aelwydydd â dyledion tanwydd sy'n cyflwyno ceisiadau am gymorth ariannol i'r Gronfa Cymorth Dewisol dro ar ôl tro. Mae aelwydydd yn cael cynnig pecyn cyfannol o wasanaethau i'w helpu i ddatrys problemau lles cymdeithasol sylfaenol a hefyd i fynd i'r afael â gwraidd eu problemau. Bydd yr hyn sy'n cael ei ddysgu o'r prosiectau hyn yn cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu ymhellach gan y darparwyr a fydd yn cael cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Mae gwella gallu ariannol aelwyd yn allweddol er mwyn meithrin gwydnwch. Rydym yn gweithio'n agos â'r gwasanaeth newydd, y Gwasanaeth Arian a Phensiynau (y Gwasanaeth), i sicrhau bod Cymru'n rhan annatod o'i drefniadau llywodraethiant. Sefydliad ledled y DU yw hwn ac mae ei gyfrifoldebau'n cynnwys gwella gallu ariannol aelwydydd ar draws y DU. Bydd hyn yn ein helpu i ddylanwadu ar y Gwasanaeth i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch gwariant ar fentrau gallu ariannol yng Nghymru yn cydweddu â'n dull ni o gyfuno gwasanaethau cynghori a meithrin gallu ariannol ac i helpu aelwydydd i fod yn fwy gwydn.

3. Cyllid grant llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cynghori

Mae Llywodraeth Cymru wedi hen ymrwymo i ariannu gwasanaethau cynghori. Drwy ein Gwasanaethau Gwybodaeth a Chyngor pwrpasol ar gyfer lles cymdeithasol rydym yn darparu tua £6 miliwn y flwyddyn. Defnyddir yr arian hwn i ariannu tri phrosiect, sy'n cefnogi'r bobl fwyaf hyglwyf yn ein cymunedau yn bennaf, ac maent i gyd yn gwneud gwaith da. Fodd bynnag, gan fod y galw am wasanaethau cynghori yn dal i dyfu, rhaid inni sicrhau bod cymaint ag y bo modd o'n cyllid, yn ogystal â ffrydiau cyllid eraill ar gyfer gwasanaethau cynghori, yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaethau cynghori rheng flaen sydd wedi'u cydgysylltu, a bod y rhain yn canolbwyntio ar y rhai sydd eu hangen fwyaf yn ein cymunedau.

Felly, rydym wedi bwrw ymlaen â gwaith i gyfuno'n tair ffrwd cyllid ar gyfer gwasanaethau cynghori yn un Gronfa Cyngor Sengl. Rydym yn annog darparwyr i gynllunio a chyflawni gwasanaethau mewn ffyrdd mwy cydweithredol ac ar sail ranbarthol. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod darparwyr yn esbonio sut y bydd y gwasanaethau rhanbarthol yn cael eu cyflwyno yn unol ag anghenion cymunedau lleol ar draws rhanbarth - nid yw model sy'n cyflwyno gwasanaethau ar y sail bod un dull yn addas i bawb yn briodol bob amser.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithio'n rhanbarthol drwy arwain y broses o sefydlu Rhwydweithiau Cyngor Rhanbarthol newydd. Bydd y rhain yn dod â gwybodaeth leol a rhanbarthol darparwyr cyngor, cynllunwyr a chyllidwyr at ei gilydd, gan gyflwyno gwasanaethau sy'n fwy cydgysylltiedig, sy'n diwallu anghenion yn y modd gorau ac yn sicrhau bod adnoddau'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Mae cynlluniau ar gyfer rhwydweithiau'n cael eu datblygu mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, a rhagwelir y cynhelir cyfarfodydd cyntaf y Rhwydwaith Cyngor Rhanbarthol yn ystod yr hydref 2019.

Mae'r un mor bwysig fod pobl Cymru yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau cynghori y maent eu hangen a bod y gwasanaethau hynny o'r ansawdd gorau, yn ddiduedd ac am ddim i'r cwsmer. Felly, bydd grantiau o'r Gronfa Cyngor Sengl yn agored i bob darparwr â sicrwydd ansawdd. Oherwydd hyn, mae'n bosibl y gellir cynyddu'r amrywiaeth o gyngor cyfreithiol arbenigol ynghylch hawliau y mae ei angen ar bobl i ddatrys problemau cymhleth, hirhoedlog a disymud.

Lansiwyd y broses ymgeisio agored am grantiau ar 24 Ebrill 2019 ac mae gan ddarparwyr 12 wythnos i gyflwyno eu ceisiadau am gyllid.  Bydd y gwasanaethau newydd a ariennir yn cychwyn ar 1 Ionawr 2020. 

O Fis Ionawr 2019, cafodd cyfran o Ardoll Ariannol y DU (taliad blynyddol a gesglir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol, ar ran Trysorlys ei Mawrhydi, oddi wrth sefydliadau ariannol sy'n cynnal eu busnes yn y DU) ar gyfer cyngor ar ddyledion ei datganoli i Lywodraeth Cymru. Mae'r egwyddor o ddatganoli cyllid yr ardoll i'w chroesawu gan ein bod nawr yn integreiddio comisiynu gwasanaethau cyngor ar ddyledion ochr yn ochr ag agweddau eraill ar wasanaethau cynghori am les cymdeithasol y byddwn yn eu hariannu drwy'r Gronfa Cyngor Sengl. Bydd hyn yn sicrhau bod pobl yn cael gwasanaeth cyfannol a fydd yn canfod ac yn datrys yr holl broblemau lles cymdeithasol sydd ganddynt.

Mae'n bwysig fod Cymru'n cael yr arian y mae ei angen i ddiwallu'r galw cynyddol am wasanaethau cyngor ar ddyledion. Yn aml, y diwygiadau lles y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith yw achos y galw hwnnw. Mae'r swm a drosglwyddir o'r Ardoll ar gyfer gwasanaethau cyngor ar ddyledion yn gysylltiedig â phoblogaeth a ffigurau gorddyledusrwydd. Rydw i wedi codi fy mhryderon ynghylch dyraniad Cymru ar gyfer 2019-20 â Llywodraeth y DU, gan ei fod yn llai na'r hyn a ddisgwyliwyd yn wreiddiol.  Y rheswm dros hyn yw gostyngiad tybiedig yn y lefelau gorddyledusrwydd yng Nghymru, mewn termau real ac mewn cymhariaeth â Lloegr. Nid yw'r Gwasanaeth wedi cyhoeddi'r data hyn hyd yn hyn, ond rydym yn herio eu cadernid. Er ei bod yn bleser clywed bod ymchwil yn dangos bod lefelau gorddyledusrwydd yn gostwng yng Nghymru, mae hyn yn groes i adroddiadau gan randdeiliaid allweddol 'ar lawr gwlad', sy'n dangos bod y galw am gyngor ar ddyledion yn cynyddu.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol iawn bod angen y gallu i ymateb i ergydion sydyn sylweddol ac mae hyn yn amlwg o'n gwaith cynllunio ar gyfer Brexit.  Yn ddiweddar, cymeradwyais £1.2 miliwn o Gyllid Pontio'r UE dros ddwy flynedd ar gyfer prosiect Hawliau Dinasyddion yr UE. Bydd hyn yn cynyddu gallu darparwyr cyngor cyffredinol ac arbenigol i fodloni'r cynnydd a ddisgwylir yn yr ymgysylltu  â Dinasyddion yr UE a fydd yn chwilio am gyngor am amrywiaeth eang o faterion a fydd yn cael effaith ar eu bywydau.

I Gloi

Ein partner allweddol wrth roi'r Cynllun Gweithredu o ran Gwybodaeth a Chyngor ar waith yw Rhwydwaith Cyngor Cymru. Cynhaliwyd proses penodiadau cyhoeddus ar gyfer Cadeirydd newydd i gymryd lle'r Cadeirydd presennol, Mr Bob Chapman, a wnaeth arwain y Rhwydwaith yn glodwiw yn ystod ei gyfnod yn y gadair. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penodi Mrs Fran Targett yn Gadeirydd nesaf Rhwydwaith Cyngor Cymru yn ddiweddar. Rwy'n sicr y bydd Mrs Targett yn cynnal swyddogaeth bwysig y Rhwydwaith fel corff cynghori annibynnol sy’n helpu Llywodraeth Cymru i barhau i roi'r Cynllun Gweithredu o ran Gwybodaeth a Chyngor ar waith yn llwyddiannus, er mwyn gwella gwasanaethau gwybodaeth a chyngor ledled Cymru ymhellach.

Yn olaf, mae gan Rwydwaith Cyngor Cymru weledigaeth o Gymru lle mae pob dinesydd yn deall ei hawliau a'i gyfrifoldebau, ac, yn bwysig iawn, yn gallu cael mynediad rhwydd at y gwasanaethau a fydd yn ei helpu i orfodi ei hawliau. Mae gennym gryn ffordd i fynd cyn y gallwn wireddu'r weledigaeth hon; fodd bynnag, rwy'n hyderus ein bod ar y trywydd cywir.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.