Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ym mis Tachwedd 2012, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) adroddiad am wasanaethau cymdeithasol plant yng Nghastell-nedd Port Talbot. Ynddo, nodwyd bod heriau sylweddol yn yr awdurdod, a dywedodd y Prif Arolygydd fod sail i bryderon difrifol, gan alw ar ddefnyddio'r protocol pryderon difrifol er mwyn cadw at yr ymrwymiad corfforaethol cyffredinol i wneud y gwelliannau sydd eu hangen.
Mae cymryd camau mewn da bryd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc yn cael cymorth effeithiol i'w galluogi i fyw bywydau positif a llawn. Mae gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc yn hanfodol er mwyn sefydlu gwasanaethau o ansawdd - a rhaid i hyn gael ei atgyfnerthu ymhellach. Mae ein gwaith i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yn golygu ein bod yn rhoi pobl yn y canol.
Rydyn ni wedi ymrwymo ac wedi buddsoddi llawer o egni i fynd i'r afael â'r heriau yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae aelodau etholedig a staff wedi gweithio ar yr argymhellion ac wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae AGGCC wedi gweithio gyda'r awdurdod lleol, gan fonitro cynnydd a pherfformiad yn agos i sicrhau bod ansawdd a chysondeb gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn bodloni'r safonau disgwyliedig.
Mae AGGCC wedi cynnal arolygiad pellach o wasanaethau plant yr awdurdod. Mae wedi llunio adroddiad yn nodi pedair thema - rhoi cyfarwyddyd; darparu gwasanaethau cymdeithasol; llunio gwasanaethau a rheoli asesiadau o ofal. O dan pob thema, mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud. Ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau, ac mae argymhellion wedi'u nodi a fydd yn sicrhau gwelliant parhaus.
Yn seiliedig ar ganfyddiadau'r adroddiad ar y gwaith a wnaed yn yr awdurdod lleol dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf, bydd y Prif Arolygydd heddiw'n cyhoeddi bod y protocol pryderon difrifol wedi'i ddiddymu. Mae'r datblygiad hwn wedi fy mhlesio, ac rwy'n croesawu yn arbennig y camau cadarnhaol sydd wedi’u cymryd gan aelodau o staff i wella safon gwasanaethau. Rwy'n disgwyl gweld arweinyddiaeth gref a gwelliannau yn parhau yng Nghastell-nedd Port Talbot i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.