Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) adroddiad (dolen allanol) o'i arolygiad wedi'i gynllunio a gynhaliwyd, ym mis Gorffennaf eleni, ar Wasanaethau Cymdeithasol i Blant Cyngor Sir Powys . Nododd yr arolygiad amrywiaeth eang o ddiffygion a nifer sylweddol o bryderon difrifol. Canolbwyntiodd arolygiad AGGCC ar safon y trefniadau arwain, rheoli a llywodraethu i ddatblygu a chefnogi gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc. Roedd yr arolygiad yn ymchwilio i’r ffordd y mae plant a theuluoedd yn cael mynediad at wasanaethau gofal a chymorth. Ystyriwyd hefyd ansawdd y canlyniadau a gyflawnwyd i blant sydd angen cefnogaeth, gofal a chymorth a/neu'r trefniadau ar gyfer amddiffyn plant, gan gynnwys y rheini sy'n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Mae gennyf bryderon difrifol am Wasanaethau Plant Powys, a heddiw rwy’n rhoi Hysbysiad Rhybuddio i Gyngor Sir Powys. Mae hwn yn gam difrifol ond mae canfyddiadau'r adroddiad yn golygu ei bod yn ofynnol cymryd camau gweithredu llym.

Rhoddir yr hysbysiad rhybuddio (dolen allanol) o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, adrannau 150-161. Mae'r Hysbysiad yn cynnwys:

  • gofyniad i lunio a chyflwyno Cynllun Gwella sy'n canolbwyntio ar gyflawni, sy'n nodi cerrig milltir ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir a bod y Cynllun hwn yn cael ei gyhoeddi o fewn 20 diwrnod i heddiw. Bydd y Cynllun Gwella yn cynnwys amserlen ar gyfer gwella yn achos pob un argymhelliad;
  • gofyniad i sefydlu Bwrdd Gwella i oruchwylio'r Cynllun
  • gofyniad i benodi Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro
  • gofyniad i ddatblygu strategaeth i lenwi swyddi gwag yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, a hynny o fewn cyfnod penodedig.

Rwyf wedi cyfarfod ag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Powys i bwysleisio pa mor ddifrifol y mae Llywodraeth Cymru’n ystyried y sefyllfa, ac i drafod gofynion yr Hysbysiad. Rwyf o'r farn bod yr Hysbysiad yn darparu strwythur a ffocws, o fewn amserlen bendant, er mwyn i'r Cyngor fynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn arolygiad AGGCC. Mae Cyngor Sir Powys wedi derbyn canfyddiadau'r adroddiad arolygu ac mae wrthi'n paratoi Cynllun Gwella ar hyn o bryd.

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod copi o'r Hysbysiad Rhybuddio gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 21 diwrnod i'r dyddiad y'i rhoddir i Gyngor Sir Powys ac yna adrodd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn 90 diwrnod i roi'r Hysbysiad ar y camau a gymerwyd gan y Cyngor. Rwyf wedi gosod copi o'r Hysbysiad heddiw ac fe fyddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y mater i’r Aelodau o fewn 90 diwrnod.

Os na fyddaf yn fodlon â chynnydd Cyngor Sir Powys yn cydymffurfio â’r Hysbysiad Rhybuddio, ni fyddaf yn oedi cyn defnyddio’r pwerau sy’n cael eu darparu i Lywodraeth Cymru dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i ymyrryd yn fwy uniongyrchol.