Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Fe lansiais Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn 2011. Mae’r ddogfen yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu’r maes gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol a sut y byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i gyflawni’r newid trawsffurfiol yma.

Ers hynny, sefydlwyd rhaglen sylweddol o waith o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn cyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd yn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. I sicrhau bod gennym arweiniad ar y cyd i lywio’r newid ac i fonitro cynnydd, rwyf wedi sefydlu Fforwm Partneriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n cynnwys aelodau o Lywodraeth Leol, Iechyd, y Trydydd sector a’r sector annibynnol.

Ym mis Mawrth 2011, ysgrifennais at Lywodraeth Leol yn gofyn am eu cynigion ar gyfer sicrhau Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Mae eu hymrwymiad i ddarparu cynllun gweithredu wedi’i ymgorffori’n gadarn o fewn ymrwymiadau y Compact Llywodraeth Leol ehangach.

Yn dilyn fy nghais am gynigion ar gyfer sicrhau Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, rwy’n falch o ddweud fy mod wedi derbyn ymateb cyfun gan Lywodraeth Leol. Cafodd ei baratoi ar y cyd gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. Gyda’r arweiniad gwleidyddol a’r arweiniad proffesiynol sydd gennym, ac wrth i Lywodraeth Leol yn ehangach fwrw ymlaen â’r agenda, rwy’n credu y gallwn sicrhau newid gwirioneddol a chyflawni ein gweledigaeth.

Rwyf wedi cyfarfod â rhanddeiliaid ac wedi trafod y cynigon â hwy.  Ar ôl ystyried eu hymatebion adeiladol a defnyddiol yn ofalus, rwyf bellach wedi ysgrifennu atynt yn nodi fy ymateb i'w cynigion.

Rwy’n disgwyl derbyn y fersiwn gyntaf o’r cynlluniau gweithredu erbyn 31 Mawrth oddi wrth Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Edrychaf ymlaen at weld y cynlluniau pendant a fydd yn allweddol er mwyn inni allu cyflawni’r nodau sy’n gyffredin i ni i gyd - sef y canlyniadau gorau posibl i bobl mewn angen yng Nghymru.