Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Lansiais ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu’ yn 2011. Mae’r fframwaith hwn yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol, a sut y byddwn yn cydweithio â’n partneriaid i gyflawni’r gweddnewidiad hwn.

Ers hynny, mae rhaglen waith sylweddol wedi’i sefydlu yn Llywodraeth Cymru i gyflawni’r  ymrwymiadau sydd yn y fframwaith ‘Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy’. Er mwyn sicrhau bod gennym arweiniad ar y cyd i fwrw ymlaen â’r newid a monitro’r cynnydd, rwyf wedi sefydlu Fforwm Partneriaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, sy’n cynnwys Llywodraeth Leol, Cyngor Gofal Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Iechyd, ac aelodau o’r trydydd sector a’r sector annibynnol.

Ym mis Mawrth 2011, ysgrifennais at Gyngor Gofal Cymru ac at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn gofyn am eu cynigion ar gyfer rhoi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy ar waith.  

Rwy eisoes wedi dweud y byddaf yn eich hysbysu am y gwaith hwn wrth i’r gwaith fynd rhagddo, ac mae’n bleser gennyf roi gwybod i mi dderbyn un ymateb ar y cyd, ymateb oedd yn ffrwyth ystyriaeth ofalus, oddi wrthynt ym mis Rhagfyr 2011, fel ymateb i’m cais am gynigion ar gyflenwi Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy.

Cafodd yr ymateb ei ystyried gan fy Fforwm Partneriaeth, ac rwyf wedi cyfarfod â’r ddau sefydliad. Ar ôl ystyried yr ymateb yn ofalus, rwyf bellach wedi ysgrifennu at Gyngor Gofal cymru ac at Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn nodi fy ymateb i’w cynigion. Amgaeir copi o’m llythyr.