Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
CYFRANIAD GWASANAETHAU BYSIAU YNG NGHYMRU
Ddechrau 2012, rhoddais gychwyn ar adolygiad sylfaenol o’r ffordd y byddaf yn defnyddio arian cyhoeddus i gynnal gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol yng Nghymru. Mae’r Adolygiad wedi dod i ben, a byddaf yn cyhoeddi fy mhrif benderfyniadau mewn Datganiad i’r Wasg yfory.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Byddaf yn dyrannu cyfanswm o oddeutu £100m y flwyddyn, drwy gyfrwng y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol a’r Grant i Weithredwyr Gwasanaethau Bysiau, i gynorthwyo gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol, ac i dalu am gost ein cynllun teithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn a phobl anabl, sy'n gynllun eithriadol o lwyddiannus. Mae hyn yn swm sylweddol iawn o arian cyhoeddus.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gorfodi toriadau sylweddol arnom o ran ein hariannu – rhyw £1.7bn dros dair blynedd – ac mae’n debygol y bydd llai o arian ar gael yn y dyfodol rhagweladwy. Er gwaethaf y toriadau hyn, mae'r arian yr wyf yn ei ddarparu i gynnal trafnidiaeth gyhoeddus yn cyfateb i oddeutu hanner cyfanswm fy nghyllideb ar gyfer trafnidiaeth, a rhaid ei wario’n effeithiol.
Mae'r ffaith bod teithwyr yng Nghymru wedi gwneud oddeutu 115m o deithiau ar fysiau yn 2011, llawer o'r rheini'n bobl y mae'r bws yn wasanaeth cymdeithasol hanfodol iddynt, yn dangos pa mor arwyddocaol yw'r Adolygiad. Rydym i gyd yn gyfarwydd ag effeithiau’r hinsawdd economaidd bresennol. Ar adegau fel hyn, mae gwasanaeth bysiau lleol yn bwysicach nag erioed er mwyn i bobl gael cysylltiad â byd addysg, hyfforddiant a chyfleoedd i gael gwaith, ac mae'n elfen amlwg o’n hymrwymiadau yn Trechu Tlodi.
Blaenoriaeth bennaf un y Llywodraeth yn y cyfnod anodd hwn yw creu swyddi a galluogi twf. Mae’n deg i bawb gael safon byw sy'n dderbyniol a gallu gofalu am eu teuluoedd. Nid ydym yn derbyn tlodi ac anghydraddoldeb nac ychwaith yr erydu ar wasanaethau cyhoeddus. Rydym yn credu bod angen i'r gwasanaethau hyn fod yn fodern ac yn gynaliadwy.
Rydym yn cymryd camau i gyflawni'r pethau sy’n gwneud gwahaniaeth. Er enghraifft, mae gan oddeutu 83% o oedolion sy’n 60 oed neu’n hŷn docyn bws, ac maent yn gwneud tua 50m o deithiau rhatach ar fysiau bob blwyddyn, sef dros 40% o’r holl deithiau ar fysiau lleol.
Mae Deddf Trafnidiaeth 2000 a Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 yn rhoi pwerau i awdurdodau lleol greu Cynlluniau Partneriaeth Ansawdd a Chontractau Ansawdd statudol ar gyfer bysiau. O dan gynlluniau o’r fath, gall awdurdodau gydweithio’n glos â gweithredwyr bysiau i gynllunio a darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol. Bydd Cynllun Partneriaeth Ansawdd yn sicrhau bod awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau’n ymrwymo'n gyfreithiol gan rannu'r nod o wneud teithio ar fws yn ddewis mwy deniadol i bawb. Fe allai’r rhain gynnwys pennu’r pris uchaf ar gyfer tocyn a chydlynu amserlennu.
Hoffwn weld rhagor o Gynlluniau Partneriaeth Ansawdd statudol i fysiau yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau bysiau. Rwyf yn credu y gall Cynlluniau Partneriaeth Ansawdd statudol i fysiau gyflawni’r hyn y dymunwn i’r diwydiant bysiau ei ddarparu, ond byddaf yn parhau i gadw golwg ar hynny, yn enwedig os na fydd fawr o dystiolaeth bod digon o waith yn cael ei wneud i bwyso a mesur y potensial ar gyfer cynlluniau partneriaeth o'r fath. Byddwn hefyd yn ystyried cefnogi Cynlluniau Contract Ansawdd lle bydd tystiolaeth glir na wnaiff y dull partneriaeth sicrhau’r gwelliannau yr ydym yn dymuno’u gweld, a dylanwadu ar ddarpariaeth a safonau gwasanaethau bysiau, oni eir ati’n ddigon brwd i greu partneriaethau gwirfoddol a statudol.
Byddwn yn disgwyl i’r Tasglu yn y de-ddwyrain a’r gwaith i fwrw ymlaen â’r astudiaeth aml-foddol yn y gogledd-ddwyrain ystyried sut y gall cynlluniau o'r fath gyfrannu at wireddu ein dyheadau am system drafnidiaeth integredig.
Adolygiad o Ariannu Bysiau
Bydd y cynllun Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd a fydd yn disodli'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol a'r Grant i Weithredwyr Gwasanaethau Bysiau o 1 Ebrill 2013 ymlaen yn help i fynd i'r afael ag amddifadedd ac yn gymorth i bobl fyw'n annibynnol ym mhob rhan o Gymru drwy annog gweithredwyr bysiau a thrafnidiaeth gymunedol i sicrhau'r canlyniadau y mae eu hangen ar deithwyr, yn hytrach na'r drefn bresennol, sef, talu iawndal iddynt am y tanwydd y maent yn ei ddefnyddio.
Ar hyn o bryd, telir arian cyhoeddus i weithredwyr bysiau a thrafnidiaeth gymunedol o dan gynllun y Grant i Weithredwyr Gwasanaethau Bysiau, gan dalu iawndal iddynt am gost y tanwydd y maent yn ei ddefnyddio, ni waeth a yw'r cerbyd yn cludo teithwyr neu beidio. Bydd y cynllun newydd yn rhoi pwyslais ar gymell gweithredwyr i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y gymuned ac sy’n ddeniadol i deithwyr.
Bydd y cynllun newydd hefyd yn darparu arian wedi'i neilltuo ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol sydd hyd yn hyn wedi cael eu hariannu drwy'r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Lleol a'r Grant i Weithredwyr Gwasanaethau Bysiau.Yn y flwyddyn ariannol bresennol, disgwylir mai cyfanswm yr arian hwn fydd oddeutu £1.3m. Yr arian a fydd ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol yn 2013-14 fydd £2.5m.
Rwyf yn credu'n gryf ei bod yn rhaid inni sicrhau’r bydd mwyaf posibl i deithwyr yn sgil pob punt o arian cyhoeddus y byddwn yn ei wario a dyna sylfaen yr Adolygiad.Er enghraifft, nid wyf yn barod i adael i sefyllfa barhau lle bydd gweithredwr bysiau, sy’n gyfrifol yn bennaf i’w randdeiliaid, yn cael arian cyhoeddus am y milltiroedd a deithir ar wasanaethau hyd yn oed pan na fyddant yn cludo teithwyr.
Mae’r Adolygiad wedi bod yn ddarn hollbwysig o waith cydweithredol yn cynnwys ein partneriaid yn y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol, Bus Users UK yng Nghymru, Traveline Cymru, Y Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus, y Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru, y diwydiant bysiau, ac eraill.
Dyma fy mhrif benderfyniadau:
- 1 Ebrill 2013 ymlaen, bydd ein pedwar Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gyfrifol am weinyddu cynllun ariannu newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol – y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
- Bydd y Consortia yn gweithio gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pobl sy'n teithio ar fysiau, y diwydiant bysiau ac eraill i ddatblygu Strategaethau Rhwydwaith Rhanbarthol a ddefnyddir i flaenoriaethu eu gwariant ar y Grant yn unol ag amgylchiadau lleol.
- Bydd gwasanaethau masnachol – sy’n cael eu darparu gan weithredwyr ar sail eu hasesiad hwy eu hunain o’r farchnad – yn cael ffi am bob milltir y byddant yn ei theithio. Ni thelir cymhorthdal am filltiroedd gwag – teithiau lle na chludir teithwyr.
- Bydd gwasanaethau sy'n dod o dan gontractau awdurdodau lleol a gweithdrefnau caffael yn cael arian cyhoeddus o dan delerau contractau gwasanaeth.
- Cyfanswm y gyllideb a fydd ar gael i’r Consortia yn 2013-14 fydd £25m.
- Rwyf eisoes wedi sefydlu Grŵp Gweithredu, unwaith eto gan gynnwys ein partneriaid allweddol, i oruchwylio rhoi’r cynllun newydd ar waith. Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf ar 16 Ionawr.
- Bydd 2013-14 yn flwyddyn bontio, pan fydd y Grŵp Gweithredu yn nodi canlyniadau ansawdd allweddol ar gyfer gwasanaethau masnachol y bydd angen eu cyflawni'n gyfnewid am arian cyhoeddus o 1 Ebrill 2014 ymlaen. Mae’n bosibl y bydd gofyn i wasanaethau sydd o dan gontract gyflawni’r canlyniadau ansawdd hyn hefyd.
- Dyma rai o’r canlyniadau ansawdd yr wyf yn dymuno’u gweld yn cael eu hystyried:
- Hyfforddi gyrwyr ynglŷn â chydraddoldeb i bobl anabl ac ymwybyddiaeth ohono.
- Darparu cyhoeddiadau sain a gweladwy ar fysiau.
- Safoni'r ffordd y dangosir gwybodaeth ar bob arosfan bws.
- Rhoi gyrru diogel ac effeithiol – darbodus – ar waith.
- Rhwydweithiau sy’n ystyried anghenion pobl sy’n dymuno defnyddio bysiau i gyrraedd gwasanaethau iechyd, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
- Gweithredwyr yn darparu cynlluniau tocynnu integredig ar y cyd er mwyn i deithwyr allu defnyddio’u tocynnau ar unrhyw wasanaeth, nid dim ond ar rai.
- Integreiddio amserlennu gyda moddau trafnidiaeth eraill.
Cynllun Tocynnau Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhoi cymorth ariannol i brosiectau peilot y Cynllun Tocynnau Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol ers dros saith mlynedd, er mwyn profi amrywiaeth o ddulliau o wella hygyrchedd i bobl anabl ac i’r rheini nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau bysiau confensiynol. Gwerthuswyd y Cynllun yn 2009, a’i werthuso eto yn 2012 – ac fe aeth fy swyddogion i ymweld â phob un o’r 15 prosiect – gan weld unwaith eto nad oes modd fforddio lledaenu'r Cynllun i Gymru i gyd.
Felly, rwyf wedi penderfynu y daw’r cynllun Tocynnau Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol ar ei ffurf bresennol, i ben ar ôl 12 Ebrill 2013.
Serch hynny, drwy neilltuo 10% o’r Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol newydd, bydd cyfle newydd rhagorol i brosiectau presennol y Cynllun Tocynnau Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol a darparwyr trafnidiaeth gymunedol eraill sicrhau arian ar gyfer eu gwasanaethau. Felly, bydd gofyn i ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol weithio gyda’r pedwar Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol i ddatblygu gwasanaethau sy’n diwallu gofynion pobl leol a hynny’n gyson â Strategaethau Rhwydwaith Rhanbarthol. Bydd y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol yn gyfrifol am benderfynu sut y defnyddir eu dyraniadau o dan y Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol i gynnal bysiau a phrosiectau trafnidiaeth gymunedol.
Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
Mae fy Nghynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol a’i flaenoriaethau’n adlewyrchu pa mor bwysig inni i gyd yw gwella dangosyddion economaidd. Serch hynny, camgymeriad fyddai gwahanu buddion economaidd system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ac effeithlon – ac mae hynny’n golygu bysiau’n bennaf – oddi wrth y buddion amgylcheddol a chymdeithasol. Mae'n ofyniad cyffredinol, strategol o hyd inni ddatblygu system drafnidiaeth integredig sy’n golygu mai’r dewis mwyaf deniadol yw defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Ac ni fyddwn yn anwybyddu’r moddau ategol eraill ychwaith, oherwydd mae angen i bobl sydd wedi gadael eu car gartref allu ystyried taith o ddrws i ddrws. Felly, mae angen inni wneud rhagor i annog mwy o bobl i gerdded a beicio. Er enghraifft, yn ystod 2011 ychydig dros 10% o deithiau i’r gwaith a deithiwyd ar droed a dim ond 1.4% ohonynt ar gefn beic. Nod y Bil Teithio Llesol, a gyflwynir gerbron y Cynulliad yn ddiweddarach eleni yw galluogi mwy o bobl i gerdded a beicio, a thrwy integreiddio llwybrau teithio deniadol â chanolfannau trafnidiaeth gyhoeddus, sicrhau mai cyfuniad o gerdded a beicio yw'r ffordd fwyaf naturiol a normal o symud o le i le.
Gwybodaeth
Rhai o'r elfennau hollbwysig mewn system drafnidiaeth integredig yw darparu gwybodaeth gynhwysfawr am drafnidiaeth gyhoeddus megis mapiau o’r llwybrau, amserlenni wedi’u hargraffu, cyhoeddiadau sain a gweledol, arwyddion ar gyfnewidfeydd, ynghyd â gwasanaethau ar y rhyngrwyd, negeseuon testun a gwasanaethau ar y we. Ac mae sicrhau bod gwybodaeth hwylus, gyfoes a dibynadwy ar gael yn fater allweddol sy'n effeithio ar benderfyniadau pobl ynglŷn â defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu beidio.
Ym mis Ebrill 2012, cyhoeddodd y Pwyllgor Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus ei adroddiad ynglŷn â darparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Canfu’r Pwyllgor fod gwybodaeth ar draws y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn anghyson ac yn ddarniog. Rhestrodd y Pwyllgor nifer o argymhellion er mwyn ceisio gwella ansawdd yr wybodaeth honno a'i gwneud yn haws cael gafael arni. Rydym yn gweithio gyda gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a Bus Users UK yng Nghymru i fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor.
Mae Traveline Cymru yn dal i wneud gwaith rhagorol yn helpu rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf yn darparu tua £1m y flwyddyn er mwyn helpu i gynorthwyo Traveline Cymru i fod yn siop un stop ar gyfer darparu gwybodaeth ynglŷn â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Mae Traveline Cymru yn dal i ymaddasu i ddatblygiadau'r oes ac wedi datblygu gwasanaethau newydd sy’n cynnwys negeseuon testun a gwasanaeth cynllunio taith ar-lein. Ar yr un pryd, mae'n dal i ddarparu gwasanaeth ffonio traddodiadol drwy ganolfan alwadau.
Yn ystod 2012, ymdriniodd Traveline Cymru â mwy na 2 filiwn o ymholiadau am wybodaeth ynglŷn â thrafnidiaeth gyhoeddus. Mae cyfran yr ymholiadau sy’n dod ar ffurf testun drwy ffonau symudol yn dal i dyfu, a nifer y galwadau i’r ganolfan alwadau'n gostwng. Wedi dweud hynny, mae’r ganolfan alwadau’n dal i ddarparu gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan lawer o ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus. Er enghraifft, mae’r arolygon boddhad diweddaraf ymhlith cwsmeriaid yn cadarnhau bod 95% o bobl yn fodlon ar Ganolfan Gyswllt Traveline, ac y bydd 92% yn parhau i ddefnyddio’i gwefan.
Yn ogystal â chysylltu â Traveline Cymru dros y ffôn neu dros y rhyngrwyd, gall teithwyr yn awr gael amserau bysiau ar eu ffonau symudol drwy ddefnyddio'r aps sydd ar gael am ddim ar gyfer iPhone ac Android, Traveline NextBuses a Traveline.txt.
Teithio am ddim ar fysiau
Mae ein cynllun teithio am ddim ar fysiau - sydd hefyd erbyn hyn yn cynnwys aelodau a chyn-aelodau’r lluoedd arfog sydd wedi cael anafiadau difrifol – yn llwyddiant mawr o hyd. Mae’r cynllun yn dal i gynnig lefel o hygyrchedd sy’n destun eiddigedd i ddeiliaid tocynnau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannu difrifol, rydym yn dal i ganiatáu teithio ar unrhyw adeg o’r dydd bob dydd pan fydd gwasanaethau’n rhedeg, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Mae oddeutu 700,000 o ddeiliaid tocynnau yng Nghymru. Mae cost y cynllun wedi cynyddu dros gyfnod, sy’n golygu bod angen oddeutu £70m eleni er mwyn ad-dalu i'r gweithredwyr a thalu am gostau gweinyddol awdurdodau lleol. Mae hyn yn bosibl oherwydd bod gennym gytundeb arloesol gydag awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau sy’n golygu eu bod yn cael eu hariannu’n llwyr am eu holl gostau, a'u bod hwythau'n fy sicrhau i na wnaiff y cynllun gostio mwy na £213 dros y cyfnod 2011-14.
Monitro bysiau
Yr Ysgrifennydd Gwladol Trafnidiaeth sy’n gyfrifol am waith y Comisiynwyr Traffig. Fodd bynnag, rwyf yn darparu swyddfa ar gyfer y Comisiynwyr yn Nhŷ Brunel yng Nghaerdydd, sy'n golygu eu bod yn gallu meithrin perthynas fwy clos a gwell gyda'r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r gweithredwyr bysiau yng Nghymru. Mae’r swyddfa honno ar gael hefyd i’r tri Swyddog Cydymffurfiaeth Bysiau a gyflogir gan Bus Users UK yng Nghymru – ond sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru – er mwyn helpu i gynnal a gwella perfformiad gweithredwyr bysiau ym mhob cwr o Gymru.
Bwcabus
Ers rhai blynyddoedd, rydym wedi bod yn rhoi cymorth ariannol i brosiect cyffrous Bwcabus, gwasanaeth sy'n ymateb i'r galw, yn y De-orllewin. Menter ar y cyd yw hon sydd hefyd yn cynnwys Canolfan Ymchwil Trafnidiaeth Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Ceredigion. Mae Bwcabus yn boblogaidd iawn o hyd gyda'r nifer fawr sy'n ei ddefnyddio i gysylltu â'r canolfannau trafnidiaeth gyhoeddus. Rwyf yn gobeithio y bydd llawer o gymunedau mewn mannau eraill yng Nghymru yn gallu elwa o'r profiad a'i ddefnyddio er budd teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn eu hardaloedd. Dylai hyn fod yn flaenoriaeth gan y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol wrth iddynt lunio eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Rhwydwaith Bysiau TrawsCymru
Un o’m prif flaenoriaethau yn y ddogfen sy’n nodi blaenoriaethau’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol yw datblygu rhwydwaith bysiau teithiau hir TrawsCymru er mwyn darparu gwell gwasanaethau i’n prif drefi nad ydynt bellach wedi'u cysylltu â'i gilydd drwy wasanaethau trenau cysylltiol.
Ym mis Mawrth 2012, lansiais wasanaeth T4 newydd rhwng y Drenewydd a Merthyr sy'n mynd yn ei flaen wedyn i Gaerdydd, drwy fuddsoddi oddeutu £1m mewn chwe cherbyd newydd, llawr isel. Ers ei gyflwyno mae nifer y teithwyr ar y gwasanaeth wedi cynyddu fwy na 22%.
Mae fy swyddogion yn awr yn gweithio’n glos gyda’r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gynllun strategol i sicrhau rhagor o welliannau i’r Rhwydwaith. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hyn maes o law.
Buom yn gweithio gryn dipyn gyda Chyngor Ceredigion a Chyngor Sir Caerfyrddin i ddatblygu Cynllun Partneriaeth Ansawdd statudol i fysiau ar gyfer gwasanaethau Traws Cymru rhwng Aberystwyth ac Aberteifi. Rydym yn dal i drafod â Bysiau Arriva ynglŷn â thelerau’r cynllun hwnnw. Byddwn hefyd yn edrych ar y ddadl o blaid datblygu Contract Ansawdd ar gyfer y coridor hwnnw.