Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gwasanaethau bws lleol rheolaidd yw sail ein system trafnidiaeth gyhoeddus.  Mae mwy o bobl yng Nghymru yn defnyddio bysiau yn lle ceir preiftat i deithio i’r gwaith ac at ddibenion hamddena. Yn 2014-15, roedd y gwasanaethau bws lleol yng Nghymru yn cyfrif am fwy na 101 miliwn o deithiau, llawer mwy na’r teithiau ar ein rhwydwaith trenau.  Mae oeddeutu hanner y teithiau bws hyn wedi’u gwneud gan bobl anabl neu fel rhan o’n cynllun teithio am ddim.  Mae hyn yn dangos y cyfraniad pwysig y mae ein gwasanaethau bws lleol yn ei wneud wrth sicrhau fod pobl yn gallu byw yn annibynnol, gan gynnal y gymuned a llesiant cyffredinol.  

Yr haf hwn, er gwaethaf y cyllid a ddarperir drwy gynlluniau megis ein Grant Cymorth ar gyfer Gwasanaethau Bysiau a’n cynlluniau teithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn, roeddwn yn drist o weld tri cwmni bysiau lleol mewn ardaloedd gwledig yn dod i ben.  Rydym yn poeni wrth gwrs am y gyrrwyr, staff y gweithdai a’r swyddfeydd a’u teuluoedd yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan hyn.  Ond mae’n rhaid inni hefyd ystyried effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach y cymunedau yr effeithir arnynt drwy inni golli’r gwasanaethau pwysig hyn.    

Ers fy mhenodi yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a’r Seilwaith, rwyf wedi bod yn awyddus i ddeall sut y gallaf gefnogi’r diwydiant bysiau i sicrhau dyfodol hyfyw a chynaliadwy iddynt yn ariannol, nid yn unig yn y tymor byr, ond hefyd yn y tymor hwy, fel bod gennym rwydwaith bysiau integredig sy’n gwasanaethu pob cymuned yng Nghymru yn yr un ffordd.  

Rwy’n awyddus i weithio gyda’r diwydiant bysiau, grwpiau llywodraeth leol a theithwyr i sicrhau bod gennym rwydwaith bysiau sefydlog llewyrchus, sydd yn fy marn i yn hollbwysig i roi hyder i bobl i ddewis y bws.   Rwy’n gwybod fod angen cymeryd camau i fynd i’r afael â thagfeydd ar ein ffyrdd i wella amseroedd teithio, dibynadwyedd a chadw amser.  Mae tagfeydd, yn enwedig ar yr amseroedd brig, yn broblem fawr i nifer o gwmnïau bysiau.  

Rwy’n croesawu’r ymrwymiad gan gwmnïau bysiau yng Nghymru i wella ansawdd a hygyrchedd ein gwasanaethau bws lleol.  Mae’r rhain yn heriau y mae’n rhaid inni eu hwynebu mewn partneriaeth, ac mae’n rhaid inni gydnabod y pwysau ychwanegol ar ein cwmnïau bysiau llai.  Rwy’n bendant fod gan gwmnïau bysiau llai gyfraniad pwysig i’w wneud i system drafnidiaeth integredig yng Nghymru.  Rwyf am sicrhau fod y cwmnïau bysiau bach a chanolig yn gallu dod o hyd i’r cyngor a’r cymorth fydd yn eu helpu i ddod yn   fusnesau gwell a mwy cadarn.  

Heddiw felly, rwy’n cyhoeddi cynllun pum pwynt i gefnogi’r diwydiant bysiau – a BBaCh yn benodol – i ddod yn fwy cynaliadwy a gallu goresgyn heriau economaidd dros dro.  

Yn gyntaf, byddaf yn cynnig y cymorth y gall Busnes Cymru a Chyllid Cymru ei ddarparu i bob cwmni bws  yng Nghymru.  Cymorth proffeisynol penodol, i edrych ar rwydweithiau bws cwmnïau ar hyn o bryd er mwyn cynllunio rhwydweithiau gwell, mwy effeithiol.  Yn gysylltiedig â hynny, byddaf yn gofyn i awdurdodau lleol wneud pob ymdrech i ddiogelu y cymorth y caiff y cwmnïau bysiau mewn hinsawdd economaidd yr wyf yn cydnabod sy’n heriol, gan sicrhau fod y broses gaffael o fewn y sector cyhoeddus yn cadw at yr egwyddor o sicrhau fod lles pawb yn cael ei ystyried wrth lunio cytundebau.
 
Yn eilbeth, byddaf yn gweithio’n broactif gydag awdurdodau lleol i nodi gwasanaethau bws sy’n fregys o bosibl, a sefydlu strategaeth leol i ymateb i unrhyw wasanaethau y bwriedir eu dirwyn i ben, sy’n cael eu hysytried yn wasanaethau sy’n hanfodol i gynaliadwyedd a lles y gymuned leol.  

Yn drydydd, byddaf yn cyfarfod arweinwyr awdurdodau lleol yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn ogystal â Rheolwyr-gyfarwyddwyr eu cwmnïau bws trefol, i gasglu gwybodaeth ar sut y gellir cynnal y rhwydweithiau bws tra’n sicrhau bod y gymdeithas yn elwa’n ariannol o’r sefyllfa.  Gan gydweithio â Chydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, rwy’n awyddus i sicrhau nodweddion gorau y sector masnachol preifat gyda chyfrifoldeb cymdeithasol y sector cyhoeddus yng Nghymru.  

Yn bedwerydd, byddaf yn darparu cyllid i sefydlu swydd cydgysylltydd bysiau newydd o fewn un o awdurdodau lleol Gogledd a De Cymru.  Bydd hyn yn helpu i ddod ag amrywiol haenau polisi a buddsoddi at ei gilydd, ac yn helpu i ddatblygu y model statudol Partneriaeth Bysus o Ansawdd o fewn yr ardaloedd, y gellid ei ddatblygu ledled Cymru.    

Yn olaf, heddiw byddaf yn cyhoeddi bod yr Uwch-gynhadledd Gwasanaethau Bysiau i’w chynnal ar ddechrau 2017.  Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gydag awdurdodau lleol, cwmnïau bysiau, Defnyddwyr Bysiau Cymru, Cymdeithas Cludiant Cenedlaethol, grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod yr uwchgynhadledd yn llwyddiant.  

Fy uchelgais yw cefnogi rhwydwaith bysiau teg a chynaliawy o safon, sy’n cynnig y gwasanaeth y mae cymunedau ac unigolion ei angen, ac sy’n rhoi gwerth am arian i’r arian cyhoeddus yr ydym yn ei ddaparu.