Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae Law yn Llaw at Iechyd yn nodi fy ngweledigaeth ar gyfer y GIG yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Hefyd, mae’n cadarnhau fy ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau iechyd sydd gystal â goreuon y byd. I gyflawni hyn, rwy’n bendant o’r farn bod pob un ohonom yn allweddol - Llywodraeth Cymru, y GIG a phobl Cymru. 
Mae Law yn Llaw at Iechyd yn dangos y bwriad i ddatblygu ‘compact’ gyda phobl Cymru mewn perthynas â’u hiechyd a gwasanaethau iechyd. Rwy’n ystyried bod dwy ran i’r compact hwn - cytundeb sy’n datblygu ynghylch cyfrifoldebau’r Llywodraeth, y GIG a phobl o bob cwr o Gymru; a thrafodaeth barhaus ynghylch y ffordd y gall pobl gyfrannu’n fwy at reoli eu hiechyd eu hunain a gwella gwasanaethau iechyd. Ar 1 Awst 2012, cyhoeddais bapur ymgynghori o dan y teitl Gwasanaeth Iechyd y Bobl. Wrth gyhoeddi’r papur, cychwynnwyd proses ymgynghori a fydd yn dod i ben ar 24 Hydref 2012.
Nid cynhyrchu dogfen sgleiniog yw nod y broses hon. Y bwriad yn hytrach yw cynnal trafodaethau ystyrlon, gan sicrhau bod y Llywodraeth, y GIG a’r cyhoedd yn rhan o’r trafodaethau hynny. Byddwn yn gwrando ar farn y bobl sy’n defnyddio’r GIG ynghylch yr hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn sydd ddim yn gweithio cystal. Byddwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ddylanwadu ar wella gwasanaethau.  At hynny, rydw i eisiau annog trafodaeth ar gyfrifoldebau - a hynny ar lefel Llywodraeth Cymru, ar lefel y GIG ac ar lefel unigolion -  gan ystyried sut y gall yr holl bartneriaid hyn helpu pobl i chwarae rôl fwy effeithiol o ran diogelu, hybu a rheoli eu hiechyd eu hunain.  
Fel rhan o’r broses ymgynghori, mae fy swyddogion wrthi’n cynnal trafodaethau a chyfarfodydd ag amrywiaeth o unigolion a sefydliadau ledled Cymru er mwyn cael gwybod beth mae pobl Cymru yn ei ddisgwyl oddi wrth eu gwasanaeth iechyd. Ymhlith y rhai yr ymgynghorir â hwy mae Cynghorau Iechyd Cymuned,  Byrddau Iechyd Lleol a grwpiau sydd mewn cysylltiad â’r cyhoedd ac yn eu cynrychioli. Cefnogir nifer bychan o grwpiau ffocws ledled Cymru hefyd.  
Fel yr wyf wedi’i nodi eisoes, dechrau’r broses yw hyn. Ni fydd y gwaith wedi’i gwblhau pan ddaw’r broses ymgynghori i ben. Bydd rhaid i ni wneud yn siŵr bod systemau ar waith i alluogi’r trafodaethau i barhau, fel bod modd inni grisialu profiadau a sylwadau pobl Cymru a gwrando arnynt. Yn eu tro, bydd rhaid i Lywodraeth Cymru a’r GIG ddangos sut y mae’r gwasanaethau’n newid ac yn gwella, a sut y maent yn rhoi canlyniadau gwell i gleifion a’u teuluoedd ble bynnag a phryd bynnag y bo modd gwneud hynny. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle cychwynnol i bobl ledled Cymru ddweud eu dweud ynglŷn â sut y gallem ac y dylem ddatblygu gwasanaethau iechyd. Mae hefyd yn rhoi’r cyfle i drafod sut y gall pawb ohonom gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ein hiechyd ein hunain ac iechyd pobl eraill.