Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 21 Chwefror, rhoddais wybod i’r Aelodau bod grŵp arbenigol yn cael ei sefydlu, a fyddai'n llunio adroddiad ac argymhellion ynglŷn â’r camau tuag at greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Mae hyn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Ynghyd ag Aelod Dynodedig Plaid Cymru Cefin Campbell, fe wnes i a’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, gytuno ar gylch gorchwyl y grŵp arbenigol. Roedd ei aelodaeth yn cynnwys unigolion â chefndiroedd mewn gofal cymdeithasol, llywodraeth leol, cyllid ac economeg, y mudiad undebau llafur, y byd academaidd a'r rhai â phrofiad o ofalu a'r rhyngwyneb rhwng gofal cymdeithasol a'r GIG.
Rydym bellach wedi derbyn adroddiad terfynol y grŵp arbenigol.
Hoffwn ddiolch o galon i'r cyd-gadeiryddion ac i holl aelodau'r grŵp arbenigol am eu cyfraniadau i'r gwaith hollbwysig a heriol hwn.
Mae'r grŵp arbenigol wedi llunio adroddiad trylwyr a manwl sy’n cynnwys argymhellion pellgyrhaeddol ynghylch sut y gellid datblygu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Bydd yr argymhellion hyn nawr yn cael eu hystyried a'u trafod yn briodol, yn enwedig yng nghyd-destun y sefyllfa ariannol anodd iawn sydd wedi codi ers i'r gwaith hwn ddechrau.
Byddaf yn gwneud datganiad pellach yn amlinellu'r camau nesaf, unwaith y bydd Aelod Dynodedig Plaid Cymru a minnau wedi cael cyfle i ystyried yr adroddiad a'r argymhellion.