Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018, mae gwasanaeth newydd i roi cyngor ar gyflogaeth wrthi'n cael ei ddatblygu.Ar adeg o ansicrwydd i economi Cymru, bydd yn ffordd allweddol o sicrhau bod cymorth cyflogadwyedd ar gael yn haws ac yn gynt i unigolion ym mhob cwr o Gymru.
Yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog, byddaf yn lansio gwasanaeth newydd Cymru'n Gweithio ar 1 Mai 2019.
Bydd Cymru'n Gweithio (y Porth Cyngor Cyflogaeth fel y'i gelwid gynt) yn cael ei ddarparu gan Gyrfa Cymru a bydd yn wasanaeth y gall pobl ledled Cymru droi ato i gael cymorth cyflogaeth.
Rwyf wedi dweud yn glir bod angen i Cymru'n Gweithio hwyluso mynediad fel y bo pobl ifanc ac oedolion yn cael y cymorth priodol, pa rwystrau bynnag sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth. Bydd yn gweithio ar draws nifer o raglenni ac ymyriadau ac mewn partneriaeth â rhwydweithiau cymorth sy'n bodoli eisoes.
Bydd cyngor ac arweiniad yn cael eu cynnig wyneb yn wyneb yn swyddfeydd Gyrfa Cymru, mewn canolfannau gwaith lleol neu mewn hybiau cymunedol, yn ogystal â thros y ffôn ac ar-lein.
Bydd cynghorwyr Cymru'n Gweithio wedi cael hyfforddiant pwrpasol a byddant yn helpu unigolion i nodi'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael cyflogaeth. Byddant hefyd yn trafod amgylchiadau personol a dyheadau'r cwsmeriaid. Ar sail y trafodaethau hyn, bydd y cynghorwyr yn gallu nodi'r llwybr gorau i'r cwsmeriaid ei ddilyn er mwyn cael cyflogaeth, yr addysg a'r hyfforddiant mwyaf priodol a’r cymorth mwyaf addas ar eu cyfer, a’u cyfeirio at y gwasanaeth cywir.
Yn ogystal â datblygu gwasanaeth cyngor a chymorth Cymru’n Gweithio, mae'r gwaith o ddatblygu'n cynllun cyflogadwyedd newydd wedi bod yn dod yn ei flaen yn dda hefyd. Fel yr amlinellwyd yn Ffyniant i Bawb, bydd y rhaglen yn cydgrynhoi'r amryfal raglenni cymorth cyflogadwyedd sy'n cael eu cynnig gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, gan gynnwys:
- Twf Swyddi Cymru
- ReAct
- Mynediad
- Hyfforddeiaethau
- a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd.
Bydd hefyd yn ategu ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol presennol, Cymunedau dros Waith, PaCE a Chymunedau am Waith a Mwy.
Bydd y rhaglen newydd yn cynnig cymorth cyflogadwyedd a chymorth sgiliau mewn ffordd newydd a chydgysylltiedig, a'r nod fydd diwallu anghenion unigolion yn hytrach na dim ond ceisio bodloni meini prawf cymhwysedd y rhaglen.
Bydd y rhaglen yn helpu pobl o bob oed i oresgyn rhwystrau, i ddod o hyd i swyddi cynaliadwy, uchel eu hansawdd, ac i gadw’r swyddi hynny.
Ar ôl i’r broses gaffael ar gyfer y rhaglen newydd gael ei gohirio am gyfnod yn ddiweddar oherwydd bod pryderon am y fethodoleg werthuso, bydd ymarfer caffael newydd yn dechrau yn y man a bydd contractau’n cael eu dyfarnu cyn diwedd y flwyddyn.
Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol ar adegau o ansicrwydd economaidd ac felly, byddwn yn parhau i ddarparu rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod darpariaeth briodol ar gael yn y cyfnod interim. Bydd yn cynnwys ReAct, Twf Swyddi Cymru, Mynediad, Hyfforddeiaethau a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd, a fydd yn parhau i gael eu gweithredu'n llawn tan i'r rhaglen newydd gael ei chyflwyno.
Mae rhaglenni allweddol fel ReAct a Twf Swyddi Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gorffennol pan oedd ansicrwydd yn y farchnad lafur yng Nghymru. Maent yn cynnig dilyniant a dealltwriaeth ddyfnach o'r ddarpariaeth graidd y mae Llywodraeth Cymru yn ei chynnig ym maes cyflogaeth ar draws Cymru, a byddant yn cynnig cymorth pwysig inni yn ystod y misoedd nesaf hyn.
Byddaf yn mynd ati’n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau wrth i'r sefyllfa ddatblygu.