Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Yn dilyn colli cyllid yr UE, cyhoeddais ym mis Mai 2022 ymrwymiad Llywodraeth Cymru o £20.9m y flwyddyn, hyd at fis Mawrth 2025, i barhau â gwasanaeth cymorth Busnes Cymru. Yn dilyn diweddariad llawn o'r gwasanaeth, rwy'n falch o gyhoeddi fod y gwasanaeth yn gwbl weithredol.
Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn cyflawni ein huchelgeisiau a amlinellir yn y Genhadaeth Economaidd ddiweddar ac ar ein hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, decach a gwyrddach.
Rwy’n gallu cadarnhau bod gwasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru yn gonsortiwm sy'n cynnwys Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaeth Datblygu Cymru, UnLtd, CGGC ac a arweinir gan Cwmpas i ddarparu cyngor busnes arbenigol i'r sector.
Dyfarnwyd Gwasanaeth Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes Cymru i Bartneriaeth Menter Cymru (EPC), partneriaeth consortia rhwng Busnes mewn Ffocws, M-Sparc a Menter Môn.
Hefyd, ers mis Ebrill 2023, mae Gyrfa Cymru yn arwain y gwaith o gyflwyno Syniadau Mawr Cymru mewn ysgolion i gael mwy o integreiddio entrepreneuriaeth â chyfleoedd cyflogaeth prif ffrwd ac alinio darpariaeth i gefnogi yr ysgol wrth weithredu'r cwricwlwm newydd. Mae integreiddio pellach o dan Warant Pobl Ifanc wedi galluogi'r Biwro Cyflogaeth a Menter gyda addysg bellach a chymorth grant pellach i addysg uwch i gyflymu entrepreneuriaeth myfyrwyr tan fis Mawrth 2025.
Cafodd contract gwasanaeth Datblygu Busnes a Thwf Busnes Cymru ei ddyfarnu ym mis Mehefin 2023 i Fenter Partneriaeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn agored i unrhyw fusnes micro neu fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, sy'n ceisio creu gwydnwch, gwella cynhyrchiant neu wireddu uchelgeisiau ar gyfer twf. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cymorth cynghori arbenigol gan gynnwys cyflogaeth, sgiliau a gwaith teg, cyngor datgarboneiddio, ochr yn ochr â'n cynllunio busnes ac ariannol ar gyfer twf busnes.
Cafodd contract Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, ei ddyfarnu i Newable International Ltd. Bydd y contract hwn yn dechrau o 1 Ebrill 2024 a bydd y gynulleidfa darged ar gyfer y gwasanaeth hwn yn cynnwys busnesau twf uchel cyn-refeniw a sefydledig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru, a all ddangos y potensial ar gyfer twf uchel cyflym mewn ffordd gynhwysol a chynaliadwy, trwy gyflogaeth o ansawdd, allforio a buddsoddi dros y 5 mlynedd nesaf.
Mae'r gwasanaeth yn darparu hyblygrwydd i addasu i flaenoriaethau llywodraeth ac economaidd newydd. Bu'r pontio rhwng contractau yn llyfn heb unrhyw doriad mewn gwasanaeth i gleientiaid.
Hyd yn hyn, yn ystod tymor y llywodraeth hon, mae Busnes Cymru wedi cynorthwyo 6,564 o unigolion i ddatblygu cynigion busnes, helpu i ddechrau 2,901 o fusnesau newydd, cynorthwyo 3,490 o entrepreneuriaid a busnesau bach a chanolig i ddiogelu 4,525 o swyddi a helpu i greu 9,909 o swyddi newydd. Yn ystod yr un cyfnod mae Llinell Gymorth Busnes Cymru wedi ymdrin â dros 33,500 o ymholiadau, ymwelwyd â gwefan Busnes Cymru bron 10.3 miliwn o weithiau, ac mae gwasanaeth Busnes Wales wedi cefnogi dros 94,500 o fentrau drwy ddarparu gwybodaeth iddynt a’u cyfeirio at wasanaethau eraill. Ers lansio'r Warant i Bobl Ifanc, mae dros 509 o bobl ifanc wedi dechrau busnes ac mae dros 403 wedi derbyn Grant Dechrau Busnes i Bobl Ifanc.
Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn parhau i gael effaith gadarnhaol gyda phob £1 a fuddsoddir yn darparu hyd at £18 o werth ychwanegol, a busnes newydd a gefnogir gan Busnes Cymru ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn gweithredu ar ôl pum mlynedd o'i gymharu â busnes heb gefnogaeth.
Gweithgareddau Busnes Cymru fesul ardal awdurdod lleol (Mai 2021 i Ionawr 2024)
Ardal awdurdod lleol | Unigolion wedi’u helpu | Mentrau newydd wedi’u creu | Swyddi wedi’u diogelu | Swyddi wedi’u creu (cyfwerth ag amser llawn) | Mentrau wedi’u helpu |
---|---|---|---|---|---|
Sir y Fflint | 258 | 100 | 65 | 356 | 92 |
Wrecsam | 228 | 92 | 195 | 295 | 107 |
Conwy | 292 | 155 | 195 | 395 | 153 |
Sir Ddinbych | 264 | 101 | 66 | 201 | 106 |
Gwynedd | 270 | 148 | 138 | 414 | 148 |
Ynys Môn | 145 | 89 | 74 | 198 | 61 |
Powys | 309 | 178 | 741 | 497 | 270 |
Ceredigion | 140 | 90 | 470 | 272 | 100 |
Sir Gaerfyrddin | 489 | 354 | 304 | 954 | 315 |
Castell-nedd Port Talbot | 302 | 124 | 103 | 298 | 128 |
Sir Benfro | 205 | 132 | 130 | 1,069 | 142 |
Abertawe | 578 | 221 | 832 | 841 | 253 |
Caerdydd | 849 | 289 | 805 | 1,424 | 446 |
Sir Fynwy | 203 | 82 | 8 | 273 | 123 |
Casnewydd | 324 | 119 | 47 | 310 | 151 |
Bro Morgannwg | 248 | 101 | 81 | 198 | 156 |
Blaenau Gwent | 170 | 67 | 2 | 205 | 49 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 309 | 127 | 96 | 373 | 161 |
Caerffili | 293 | 115 | 50 | 423 | 191 |
Merthyr Tudful | 99 | 40 | 12 | 173 | 46 |
Rhondda Cynon Taf | 392 | 109 | 67 | 569 | 205 |
Torfaen | 197 | 68 | 44 | 171 | 87 |
Cyfansymiau rhanbarthol
Rhanbarth | Unigolion wedi’u helpu | Mentrau newydd wedi’u creu | Swyddi wedi’u diogelu | Swyddi wedi’u creu (cyfwerth ag amser llawn) | Mentrau wedi’u helpu |
---|---|---|---|---|---|
Gogledd | 1,457 | 685 | 733 | 1,859 | 667 |
Canolbarth | 449 | 268 | 1,211 | 769 | 370 |
Gorllewin | 1,574 | 831 | 1,369 | 3,162 | 838 |
De-ddwyrain | 3,084 | 1,117 | 1,212 | 4,119 | 1,615 |
Cymru gyfan | 6,564 | 2,901 | 4,525 | 9,909 | 3,490 |
Gweithgaredd Gwarant Pobl Ifanc fesul ardal awdurdod lleol
Ardal awdurdod lleol | Busnesau wedi’u dechrau gan bobl o dan 25 (Mai 2021 – Ion 2024) | Nifer y Grantiau i Ddechrau Busnes i Bobl Ifanc (ers Gorffennaf 2022) |
---|---|---|
Sir y Fflint | 21 | 18 |
Sir Ddinbych | 9 | 24 |
Conwy | 19 | 16 |
Gwynedd | 25 | 11 |
Wrecsam | 14 | 13 |
Ynys Môn | 15 | 9 |
Powys | 25 | 18 |
Ceredigion | 36 | 25 |
Sir Gaerfyrddin | 40 | 22 |
Abertawe | 46 | 35 |
Castell-nedd Port Talbot | 21 | 13 |
Sir Benfro | 40 | 18 |
Sir Fynwy | 12 | 5 |
Caerdydd | 53 | 50 |
Bro Morgannwg | 18 | 17 |
Casnewydd | 15 | 15 |
Rhondda Cynon Taff | 25 | 22 |
Merthyr Tudful | 7 | 6 |
Pen-y-bont ar Ogor | 24 | 15 |
Torfaen | 11 | 15 |
Caerffili | 22 | 25 |
Blaenau Gwent | 11 | 11 |
Cyfansymiau rhanbarthol
Rhanbarth | Busnesau wedi’u dechrau gan bobl o dan 25 (Mai 2021 – Ion 2024) | Nifer y Grantiau i Ddechrau Busnes i Bobl Ifanc (ers Gorffennaf 2022) |
---|---|---|
Gogledd | 103 | 91 |
Canolbarth | 61 | 43 |
Gorllewin | 147 | 88 |
De-ddwyrain | 198 | 181 |
Cymru gyfan | 509 | 403 |