Lesley Griffiths A.C., Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Heddiw rwy'n cyhoeddi Gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol: gweithio gyda chymunedau allai fod yn fodlon cynnig lleoliad. Mae'r polisi hwn yn rhoi amlinelliad o'r broses drafod gyda chymunedau yng Nghymru sy'n dymuno trafod cynnal cyfleuster gwaredu daearegol (CGD).Mae cyhoeddiad heddiw yn  nodi cam olaf proses datblygu polisi cynhwysfawr a hirfaith, gan gynnwys ymgynghoriad a ddaeth i ben fis Ebrill 2018.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru bolisi o gefnogi gwaredu daearyddol er mwyn rheoli  gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd (GUA) yn y tymor hir ers 2015. Mae mabwysiadu'r polisi hwn yn cynnig ateb parhaol ar gyfer rheoli GUA yn hytrach na'i adael yn broblem i'w datrys gan genedlaethau'r dyfodol.  Mae'r polisi o waredu GUA yn ddaearegol wedi'i fabwysiadu ledled y byd fel yr opsiwn gorau a mwyaf diogel ar gyfer rheoli GUA yn y tymor hir, ac mae'n cyd-fynd â chyngor y Pwyllgor arbenigol annibynnol ar Reoli Gwastraff Ymbelydrol (CoRWM).

Fodd bynnag, nid yw hyn o angenrheidrwydd yn golygu y bydd CGD yn cael ei adeiladu yng Nghymru.  Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried na chlustnodi safleoedd neu gymunedau posibl ar gyfer CGD yng Nghymru, nac yn debygol o wneud hynny.  Mae ein polisi yn glir iawn: ni fydd CGD yn cael ei sefydlu yng Nghymru oni bai bod cymuned yn fodlon croesawu cyfleuster o'r fath.

Mae'r rhaglen i ddarparu un CGD ar gyfer y GUA o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU a bydd yn cael ei gyflenwi gan Radioactive Waste Management Ltd (RWM), is-gwmni yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear.

Dyma amlinelliad o'r camau sy'n cael eu cynnwys yn y polisi, cyn i CGD gael ei ystyried yn bosibilrwydd yng Nghymru:

  • Mae'n rhaid i'r rhai sydd â diddordeb gynnal trafodaethau gyda RWM ynghylch cynnal CGD.
  • Pe byddai'r rhai sydd â diddordeb am wneud ymholiadau pellach yna byddai angen iddynt ddechrau ar drafodaethau ffurfiol a ffurfio Partneriaeth Gymunedol i gynrychioli y gymuned ehangach.
  • Gallai'r trafodaethau hyn bara hyd at ugain mlynedd, ond gallai'r gymuned dan sylw dynnu ei chynnig yn ôl unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwnnw.
  • Cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch cynnal CGD, byddai angen mesur cefnogaeth y cyhoedd yn y gymuned dan sylw.
  • Byddai'n ofynnol i CGD gael caniatâd cynllunio, trwydded diogelwch gan y Swyddfa Dros Reoli Niwclear a'r trwyddedau amgylcheddol perthnasol gan Cyfoeth Naturiol Cymru. 

Byddai cymunedau sydd mewn trafodaethau ynghylch croesawu CGD o bosibl yn gymwys am Gyllid Buddsoddi Cymunedol o hyd at £1 miliwn y flwyddyn, gan gynyddu i uchafswm o £2.5 miliwn y flwyddyn os bydd tyllau turio yn rhan o'r broses.  Bydd y CGD yn fuddsoddiad o sawl biliwn yn y seilwaith a bydd yn cynnig swyddi crefftus a manteision i'r gymuned sy'n ei gynnal am dros 100 mlynedd.

Ochr yn ochr â'r papur polisi, rwyf hefyd yn cyhoeddi'r ymatebion heddiw i'n hymgynghoriad ar y polisi hwn ochr yn ochr â'r ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r prif faterion a godwyd. O ganlyniad i'r ymatebion i'r ymgynghoriad , mae'r polisi terfynol yn cynnwys swyddogaeth gryfach i'r Awdurdodau Lleol (ALlau), sy'n galw iddynt fod yn rhan o'r trafodaethau er mwyn i unrhyw ardaloedd y cynghorau cymuned o fewn eu ffiniau gael eu hystyried fel lleoliadau posibl ar gyfer CGD.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu polisi cyfatebol ar gyfer Lloegr ar 19 Rhagfyr 2018.  Mae yn gyson â pholisi Llywodraeth Cymru ar y prif faterion megis yr Hawl i Dynnu'n Ôl a'r Prawf o Gefnogaeth y Cyhoedd ond mae'n wahanol o ran bod ein polisi yn adlewyrchu anghenion a buddiannau'r cymunedau yng Nghymru (e.e. mewn perthynas â'r iaith, strwythur awdurdodau lleol a'r system gynllunio yng Nghymru).

O heddiw ymlaen bydd amrywiol ddogfennau dwyieithog ar gael ar wefan RWM ar gyfer rhanddeiliaid ac aelodau'r cyhoedd. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am waredu daearyddol, canllawiau ar sut y bydd yr RWM yn gweithio gyda chymunedau a manylion y ffactorau fydd yn cael eu hystyried wrth werthuso safleoedd posibl ar gyfer CGD.

Prif Ddogfennau

Gwaredu Daearyddol Llywodraeth Cymru: Polisi Gweithio gyda Chymunedau

Ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad a'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad

Polisi Llywodraeth Cymru ar Reoli a Gwaredu Gwastraff Ymbelydrol Uwch ei Actifedd (Mai 2015) a gwaredu gwastraff ymbelydrol uwch ei actifedd yn Ddaearyddol: Trafodaethau cymuendol a phrosesau lleoli (Rhagfyr 2015)

Polisi Llywodraeth y DU

Gwefan RWM