Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod yn y broses o sefydlu grŵp cynghori arbenigol i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru o'r trafodaethau a gynhelir cyn hir ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cynnwys pobl fusnes, gwleidyddion ac arbenigwyr sydd â dealltwriaeth fanwl o'r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y grŵp yn cynghori Llywodraeth Cymru ar yr effaith eang ar Gymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn cynghori ar sut y gall Cymru oresgyn heriau i sicrhau dyfodol ffyniannus a sicrhau bod y berthynas gadarnhaol gydag Ewrop yn parhau.

Yn ogystal, rwy’n sefydlu Is-bwyllgor o'r Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd o fis Medi ymlaen, wrth i'r gwaith trylwyr barhau rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i baratoi at y trafodaethau ynghylch yr UE.

Ers canlyniad refferendwm yr UE, rwyf wedi canolbwyntio yn y lle cyntaf ar amddiffyn ein heconomi a rhoi sicrwydd i gymuned fusnes Cymru. Felly, rydym wedi amlinellu chwe mesur economaidd i roi sylw iddynt ar unwaith ac rydym yn datblygu cynllun i godi hyder busnesau, gyda chymorth ar gyfer allforion o Gymru. Rydym hefyd wedi creu cronfa newydd i roi hwb i gyflogaeth ac i ddenu mewnfuddsoddiadau.

Rwyf wedi gofyn am ymrwymiad sicr na fydd Cymru'n colli ceiniog o arian yr UE sydd wedi'i gyllidebu i ni hyd at 2020. Rwyf hefyd wedi bod yn hollol glir fod parhau i gael mynediad di-dor at y Farchnad Sengl yn hanfodol.

Mae trafodaethau manwl a ffurfiol rhwng ein swyddogion a Llywodraeth y DU wedi bod yn digwydd ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin, a bydd y cydweithio agos hwn yn dwysáu yn ystod yr wythnosau nesaf. Wedi i ni ddangos arweiniad drwy alw cyfarfod brys o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, mae gennym ddealltwriaeth glir iawn o'r materion sy'n wynebu gweinyddiaethau datganoledig a byddwn yn dilyn pob llwybr sydd ar gael i ni er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru.

Fy nghyfrifoldeb i yw llywio dyfodol Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd - ac rwy'n llawn sylweddoli pwysigrwydd y cyfrifoldeb hwn. Byddaf yn cadw llygad barcud ar y ffordd y bydd gadael yr UE yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl Cymru. Bydd y grŵp cynghori yn ein helpu i ddeall y gwir effaith ar ein trefi, ein pentrefi, ein cymunedau ffermio, ein sefydliadau addysg, ein busnesau, ein trydydd sector a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Bydd cydweithio agos gyda phob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn rhoi'r llais cryfaf posibl i Gymru yn y trafodaethau sydd ar fin digwydd. Dyna pam rydym yn cychwyn trafodaeth newydd gyda Phlaid Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, ochr yn ochr â pwyllgorau cyswllt eraill.

Er gwaethaf yr heriau a wynebwn, rydym yn barod i dorchi ein llewys a llywio dyfodol Cymru mewn byd sy'n newid. Byddwn yn sicrhau bod ein buddiannau cenedlaethol wedi'u pennu'n glir a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gael y canlyniad gorau posibl i Gymru.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.