Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
Drwy ‘Ffyniant i bawb − y strategaeth genedlaethol’ ac ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein cenedl’, mae Llywodraeth Cymru wedi ailddatgan ei hymrwymiad i sicrhau bod pob un o’n pobl ifanc yn cael cymorth i oresgyn rhwystrau at gyflawni eu potensial llawn.
Mae gan waith ieuenctid ansawdd uchel, drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg yn ôl anghenion yr unigolion, ran hanfodol i’w chwarae i gyflawni’r uchelgais hwn. Drwy ddulliau addysgol anffurfiol a heb fod yn ffurfiol, mae ymarfer gwaith ieuenctid effeithiol yn adeiladu sgiliau, dyheadau a gwydnwch pobl ifanc, a gall newid eu bywydau er gwell. Wedi dweud hynny, mae ein pobl ifanc yn tyfu mewn byd cynyddol gymhleth a chyd-destun cymdeithasol ac economaidd sy’n esblygu’n gyflym. Felly mae angen adnewyddu ein hagwedd at gynllunio a chyflwyno’r gwasanaethau hanfodol hyn nawr yn fwy nag erioed.
Heddiw rydym ni’n nodi moment o bwys i waith ieuenctid yng Nghymru wrth i ni ddechrau datblygu cyfeiriad strategol newydd. Bydd yr ymdrechion hyn, a gaiff eu datblygu mewn partneriaeth gyda phobl ifanc a’r sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol a statudol, yn arwain at ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd i Gymru. Er fy mod yn glir y bydd yn seiliedig ar weledigaeth hirdymor, bydd hefyd yn parhau’n ddigon hyblyg i allu ymateb i dirweddau cymdeithasol ac economaidd newidiol. Bydd felly’n cael ei chynllunio a’i hadolygu’n fanwl yn flynyddol.
Heddiw mae cynrychiolwyr o’r sector yn dechrau ar y gwaith datblygu hwn yn ein Cynhadledd Gwaith Ieuenctid flynyddol yng Nghaerdydd. Wrth fynd ati rwyf i wedi gofyn iddynt ddysgu o’r gorffennol, datblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol a dechrau nodi sut y gallwn greu’r amgylchiadau angenrheidiol i sicrhau llwyddiant i bawb.
Fel rhan o’r ymdrechion i ddysgu o’r gorffennol comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil annibynnol i ganfod beth oedd yn gweithio, a beth nad oedd yn gweithio; ymchwil oedd wedi’i wreiddio yn llais pobl ifanc a’r sector. Rwyf i wedi ymrwymo i rannu’r dysgu hwn, a heddiw rwyf i’n cyhoeddi’r canfyddiadau. Mae’r rhain yn cynnwys adolygiadau o’n ffrydiau cyllid grant gwaith ieuenctid ac, yn bwysig, adolygiad sylfaenol o effaith y Strategaeth Gwaith Ieuenctid gyfredol. Mae’r adroddiadau hyn yn cynnig negeseuon hanfodol am ein dulliau gweithredu yn y gorffennol ac rwyf i’n ymrwymo i fyfyrio arnynt a dysgu ganddynt. Maent yn hanfodol i’n datblygiad.
Ar yr un pryd rwyf i’n cyhoeddi adroddiad a baratowyd gan Margaret Jervis, MBE DL. Gofynnwyd iddi adolygu ein dulliau yng nghyd-destun Ymestyn Hawliau1 a, thrwy wneud hynny, gynnig argymhellion ar ffordd ymlaen i waith ieuenctid yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i Margaret am weithio gyda phobl ifanc a’r sector gwaith ieuenctid i lunio ‘Ein Dyfodol: Adolygiad o Ymestyn Hawliau’ ac am yr argymhellion y mae’n eu cynnig, a ystyriwyd yn ofalus ganddi. Mae adroddiad Margaret, a’r adroddiadau’n ymwneud â’r strategaeth gwaith ieuenctid bresennol a’r ffrydiau cyllid grant gwaith ieuenctid ar gael isod:
Ein Dyfodol: Adolygiad o Ymestyn Hawliau
Bydd y cynrychiolwyr yn y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid flynyddol heddiw yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’r adroddiadau hyn wrth iddynt weithio i ddatblygu gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer dyfodol gwaith ieuenctid yng Nghymru. Byddaf i’n siarad yn eu cynhadledd ac yn ailddatgan ymrwymiad y llywodraeth hon i’r agenda hwn. Byddaf hefyd yn egluro’r egwyddorion a’r gweithredoedd fydd yn helpu i greu’r amgylchiadau sy’n angenrheidiol i sicrhau ein llwyddiant.
Yn gyntaf, byddwn yn gosod pobl ifanc yng nghanol popeth a wnawn. O gynllunio a dylunio’r gwasanaethau maen nhw’n eu dymuno, drwy gyflwyno, a hyd yn oed fel rhan o’r ffordd rydym ni’n monitro ac yn adolygu ein hymdrechion.
Yn ail, ac fel rhan o’r strategaeth newydd, rydym ni’n cyhoeddi camau gweithredu clir, mesuradwy fydd yn ein symud yn agosach at ein gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Yn drydydd, byddwn yn glir ynghylch cyfraniad gwaith ieuenctid, nid yn unig mewn perthynas â’n pobl ifanc, ond hefyd ein huchelgais cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ehangach yng Nghymru. Drwy wneud hyn ein nod fydd dyrchafu’r proffesiwn fel bod gwaith ieuenctid yn cael ei weld yn wasanaeth strategol fydd yn helpu i gyflawni llewyrch i bawb.
Mae hyn yn cynnwys rôl gwaith ieuenctid yn cynnig cefnogaeth i ni gyflawni ein nod uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Cynllun y Gymraeg mewn Addysg yn pwysleisio’r angen i bawb gydweithio’n agosach a gwella cynllunio tymor hir. Rwyf i am weld yr un egwyddorion yn cael eu mabwysiadu mewn gwaith ieuenctid, gan sicrhau darpariaeth eang sy’n hygyrch i’r holl siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ar hyd y continwwm iaith.
Yn bedwerydd, byddwn ni’n gweithio gyda gwasanaethau gwirfoddol a statudol i sicrhau cydraddoldeb parch a chydnabyddiaeth wrth gynllunio a chyflwyno darpariaeth gwaith ieuenctid yng Nghymru. Byddwn yn cydnabod ac yn dathlu’r gwahaniaethau a’r hyn sy’n gyffredin rhwng y ddwy ran o’r sector. Drwy wneud hyn byddwn yn gwneud y defnydd gorau o’r holl adnoddau sydd gennym yn lleol ac yn genedlaethol.
Yn olaf byddwn yn dod â chynrychiolwyr o faes gwaith ieuenctid at ei gilydd i’n helpu ni i gadw’n driw i’n gweledigaeth wrth ddatblygu a chyflawni ein strategaeth. Bydd y Bwrdd Gwaith Ieuenctid hwn yn cynrychioli pobl ifanc a’r sector ac yn cynnig cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru. Gan weithredu ar sail interim ar y dechrau, byddant hefyd yn cynghori ar beth, os o gwbl, yw’r camau ffurfiol a allai fod yn angenrheidiol i gyflawni’r rôl hon yn y dyfodol. Heddiw rwyf i wedi cyhoeddi hysbyseb ar gyfer Cadeirydd y Bwrdd hwn a fydd, yn ei dro, yn ein cynorthwyo i ganfod a phenodi’r aelodau ehangach. Gweler y ddolen isod:
Penodiadau cyhoeddus | beta.llyw.cymru
Bydd y Bwrdd yn cynorthwyo gyda datblygu a chyflenwi ein Strategaeth Gwaith Ieuenctid newydd, gan gyfrif am amrywiaeth o dystiolaeth, gan gynnwys adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ‘Pa fath o wasanaeth ieuenctid sydd ei eisiau ar Gymru?’.
I grynhoi, rwyf i’n credu bod y camau hyn yn gosod rhaglen waith uchelgeisiol a heriol. Byddaf i’n bersonol yn goruchwylio’r ymdrechion hyn, a gynhelir mewn partneriaeth gyda phobl ifanc a’n rhanddeiliaid. Gyda’n gilydd byddwn yn gweithio i sicrhau cyfeiriad strategol gwaith ieuenctid yng Nghymru, er mwyn i’n pobl ifanc allu manteisio ar wasanaethau hanfodol sy’n parhau i gefnogi eu datblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol.
1http://gov.wales/topics/educationandskills/skillsandtraining/youth-work/extending-entitlement-support-for-11-to-25-year-olds-in-wales/?skip=1&lang=cy