Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad ar Gyfarwyddydau newydd: Cyfarwyddydau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2025 a chanllawiau statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid.
Gyda'i gilydd, mae'r cynigion hyn yn darparu fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid ac yn cynrychioli penllanw nifer o gerrig milltir sy'n dyddio'n ôl i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i waith ieuenctid, a gadeiriais yn 2016.
Yn y blynyddoedd ers hynny, gyda chefnogaeth y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro, a'i olynydd, y Bwrdd Gweithredu cyfredol, rydym wedi mireinio ein dealltwriaeth o'r materion allweddol. Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r ddau Fwrdd am eu gwaith. Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad hwn yn seiliedig ar ein dealltwriaeth o'r hyn y mae angen ei wneud i gryfhau sefyllfa gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Am y tro cyntaf o fewn cyd-destun deddfwriaethol yng Nghymru, mae'r fframwaith statudol newydd yn cynnwys diffiniad clir o waith ieuenctid. Mae hon yn nodwedd allweddol, a'i nod yw sicrhau bod awdurdodau lleol, gan weithio gyda'u partneriaid, yn darparu gwasanaeth gwaith ieuenctid neilltuol o fewn y gwasanaethau cymorth ieuenctid ehangach y maent yn eu darparu i bobl ifanc.
Mae'r cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio ar y cyd â'u partneriaid, gan weithredu o safbwynt 'un sector', gan ystyried tystiolaeth o anghenion pobl ifanc, i gyflenwi cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog a pherthnasol.
Bydd barn pobl ifanc yn parhau i fod yn ganolog i'r penderfyniadau a wneir ynghylch dylunio a darparu gwaith ieuenctid yn eu hardal. Bydd mecanweithiau atebolrwydd cadarn yn sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu hadlewyrchu a bod y ddarpariaeth yn cyd-fynd â'u hanghenion sy'n newid yn barhaus.
Sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael eu cefnogi ac yn cael y cyfle gorau mewn bywyd yw'r cymhelliant mawr i mi bob amser. Mae mynediad at wasanaethau cymorth ieuenctid yn hanfodol i hyn. Mae gwaith ieuenctid yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy'n ymwneud â mynegi, sy'n eu grymuso a'u cefnogi, wedi'u hadeiladu ar gydberthnasau cryf gydag oedolion dibynadwy. Gwyddom, o wrando ar bobl ifanc, fod y cyfleoedd hyn yn eu galluogi i wneud y mwyaf o'u potensial, ac yn rhoi'r hyder iddynt lywio'u ffordd drwy'r heriau sy'n codi yn eu bywyd.
Mae'r cynigion hyn wedi'u hadeiladu ar sail ein huchelgais i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn cyflawni dros bobl ifanc. Rwyf am ddiolch i'r rhai hynny ohonoch sydd wedi llywio ein cynigion. Edrychaf ymlaen at glywed barn a safbwyntiau ystod eang o bartïon sydd â diddordeb, yn enwedig pobl ifanc, yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol.