Neidio i'r prif gynnwy

Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar hyn o bryd, mae gwasanaethau gwybodaeth ac arweiniad gyrfaoedd yn cael eu cynnig i fyfyrwyr ysgol ac addysg bellach yn ogystal ag unigolion nad ydynt yn yr ysgol nac mewn addysg bellach. Mae gwasanaethau o’r fath yn gallu cynnwys gwasanaethau sy’n perthyn i gysylltiadau rhwng addysg a byd busnes, y rhaglen ‘porth ieuenctid’ a gwasanaethau sy’n cynnig arweiniad i oedolion. Chwe chwmni Gyrfa Cymru (sy’n gwmnïau cyfyngedig drwy warant, a phob un ohonynt yn gyfrifol am faes gweithredol penodol) sy’n cyflenwi’r gwasanaethau hyn drwy gontract ar hyn o bryd. 

Ar 28 Ionawr 2010, cyhoeddodd y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes (y Gweinidog Addysg a Sgiliau erbyn hyn) ei fod yn bwriadu ad-drefnu’r modd y caiff gwasanaethau gyrfaoedd eu cyflenwi fel eu bod yn cael eu cynnig drwy gyfrwng un strwythur unedig. Mae’r bwriad hwn yn cyd-fynd yn agos â’r argymhellion a geir yn Uchelgeisiau i’r dyfodol: Datblygu gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru, yr adolygiad annibynnol o wasanaethau gyrfaoedd a gynhaliwyd yn 2009 a 2010. Yn ystod blwyddyn ariannol 2012-13, bydd gwasanaethau gyrfaoedd yn cael eu cyflenwi drwy gontract gydag un cwmni cyfyngedig drwy warant, sef Careers Choices Dewis Gyrfa (CCDG), a fydd yn cael ei ffurfio drwy uno’r chwe chwmni Gyrfa Cymru. 

Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried yr opsiynau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau gyrfaoedd yng Nghymru yn y dyfodol o fis Ebrill 2013 ymlaen. Un o’r ystyriaethau hanfodol yw penderfynu ai cyflenwi drwy gyfrwng y sector cyhoeddus neu drwy’r sector preifat sydd fwyaf priodol.

Er mai cyflenwi drwy’r sector cyhoeddus yw ein hoff opsiwn ar hyn o bryd, rwyf i a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi cytuno y dylid cynnal arfarniad llawn o oblygiadau cyfreithiol ac ariannol yr opsiynau sy’n cael eu hystyried ar gyfer cyflenwi gwasanaethau gyrfaoedd yn y dyfodol (ymarfer diwydrwydd dyladwy) cyn penderfynu’n derfynol pa opsiwn y dylid ei ddewis.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn cysylltiad â Bwrdd CCDG i geisio caniatâd CCDG i ymchwilio i’r opsiynau a dechrau ar yr ymarfer diwydrwydd dyladwy. Mae Bwrdd CCDG wedi rhoi caniatâd inni wneud hynny.

Rwy’n disgwyl gallu rhoi’r diweddaraf am ganlyniad y gwaith hwn i Aelodau’r Cynulliad yn ystod tymor yr haf.