Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Hydref y llynedd cafodd Pont Menai ei chau i'r holl draffig ar ôl i bryderon strwythurol gael eu nodi gan beirianwyr.
Cafodd ei hailagor i 7.5T o gerbydau yn gynharach yn y mis ar ôl i waith dros dro gael ei gwblhau, ond mae'n rhaid gwneud gwaith pellach cyn gallu ailagor y bont i'r holl draffig.
Yn y cam olaf hwn o'r rhaglen, bydd yr holl hangeri ar y bont yn cael eu newid.
Nodwyd dull o weithio a ffefrir a fydd yn tarfu llai, ond rhaid profi'r fethodoleg hon cyn y gallwn gwblhau rhaglen y prosiect.
Mae hyn yn golygu y bydd angen inni gau lôn dros dro ar y bont er mwyn caniatáu i beirianwyr weithio'n ddiogel a phrofi'r system newid hangeri arfaethedig.
Pan fydd lôn ar gau, bydd goleuadau traffig yn gweithredu'n rhan amser ar bob pen i'r bont - gan ganiatáu i gerbydau groesi i'r naill gyfeiriad neu'r llall pan fydd hynny'n cael ei ganiatáu. Bydd y treialu yn dechrau ar y 6 Mawrth a'r bwriad yw ei gwblhau o fewn pedwar diwrnod, er y gallai hyn gymryd mwy o amser os oes tywydd garw neu broblem annisgwyl arall.
Gwnaed pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl yn yr ardal leol a bydd goleuadau traffig ond yn cael eu defnyddio rhwng dydd Llun a dydd Iau, a rhwng 9am a 3pm.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu ar ôl i'r rhaglen newid hangeri gael ei chwblhau'n derfynol. Yn y cyfamser mae rhagor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin i'w cael drwy'r dolen canlynol: A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin