Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn y Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol roedd Llywodraeth Cymru yn amlinellu cynigion gwreiddiol ar gyfer diwygio Llywodraeth Leol, gan gynnwys uno Llywodraethau Lleol. Mae'r Papur yn cynnwys uchelgeisiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru: Awdurdodau Lleol sy'n ymateb i gymunedau lleol ac yn canolbwyntio ar berfformiad a gwasanaethau o ansawdd uchel. Daw'r ymgynghoriad ar y cynigion hyn i ben ar 1 Hydref.

Nodwyd y byddem yn croesawu cynigion gan Awdurdodau Lleol sydd am uno'n wirfoddol cyn y prif raglen uno. Bydd yr Awdurdodau hynny y caiff eu cynnig am uno'n wirfoddol ei dderbyn, yn hollol weithredol ddwy flynedd cyn y gweddill, ac felly byddant yn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd ac i'w staff llawer yn gynt. Byddant yn arwain ac yn llywio eu proses ddiwygio eu hunain ac yn gwireddu'r cyfleoedd ar gyfer arbedion a thrawsnewid gwasanaethau yn gynt. Bydd Awdurdodau Lleol yn cadw'n lleol unrhyw arbedion a wneir gan y broses o uno'n wirfoddol.

Heddiw rwy'n cyhoeddi prosbectws yn amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddisgwyl gan Awdurdodau Lleol sydd am fanteisio ar uno cynnar a'r hyn a wnawn ni i'ch cefnogi. Mae Gwahoddiad i Brif Awdurdodau Lleol yng Nghymru gyflwyno cynigion ar gyfer uno gwirfoddol yn amlinellu camau'r broses, y dyddiadau allweddol a'r mathau o gymorth a allai fod o fudd i Awdurdodau Lleol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi Awdurdodau sydd am uno'n gynnar.  Bydd y gefnogaeth hon yn cynnwys defnyddio'r ffrydiau cyllid presennol ar sail angen ac, er nad ydym eto'n gwybod faint fydd y gyllideb a ddyrennir inni ar ôl 2015-16, ymrwymiad i nodi adnoddau ariannol priodol er mwyn gallu dechrau'r broses uno yn gynnar.