Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Gwahardd smygu mewn cerbydau preifat sy'n cario plant iau na 18 oed
Mae canlyniadau ein hymgynghoriad yn dangos bod 86% o ymatebwyr yn cytuno y dylid gwahardd smygu mewn cerbydau preifat pan fydd plant iau na 18 oed yn bresennol.
Ar sail hynny, byddwn yn bwrw ymlaen â Rheoliadau i wneud smygu, neu beidio ag atal smygu, mewn cerbyd preifat caeedig, pan fydd rhywun iau na 18 oed yn bresennol, yn drosedd. Bydd gofyniad hefyd i fwy nag un person fod yn bresennol yn y car i drosedd fod wedi cael ei chyflawni. Bydd hynny'n golygu na fydd trosedd yn cael ei chyflawni os bydd gyrrwr (heb deithwyr) yn smygu (hyd yn oed os yw'r gyrrwr yn iau na 18 oed). Byddai'r newidiadau'n mynd yn rhan o'r cyfreithiau presennol ar wahardd smygu.
Mae amddiffyn plant rhag mwg ail-law yn gallu eu hatal rhag datblygu clefydau cronig sy'n gysylltiedig â smygu goddefol. Bydd cyflwyno Rheoliadau i atal smygu mewn ceir sy'n cario plant iau na 18 oed yn ein helpu i wneud hynny.
Bydd y Rheoliadau hyn yn destun trafod yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ystod yr haf, ac os byddant yn cael eu cymeradwyo, byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2015. Mae hyn yn cyd-fynd â chynigion tebyg yn Lloegr.
Roedd y ddogfen ymgynghori hefyd yn cynnwys cwestiwn ynghylch a ddylid atal y defnydd o e-sigaréts mewn cerbydau preifat sy’n cario plant iau na 18 oed. O’r rhai hynny a atebodd y cwestiwn hwn, cytunodd y mwyafrif â’r cynnig. Byddwn yn ystyried yn awr sut i gymryd y safbwyntiau hyn i ystyriaeth wrth fwrw ymlaen â’r gwaith hwn.