Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar wahoddiad y Prif Weinidog, mae’n bleser gennyf gadeirio Grŵp o Weinidogion sy'n ystyried materion sy’n ymwneud â thalu am ofal cymdeithasol. Bydd hyn yn datblygu'r gwaith a ddechreuwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fel rhan o'r ddadl genedlaethol ar syniadau ar gyfer trethi newydd. Roedd ardoll gofal cymdeithasol ar restr fer y syniadau hynny.

Bydd y grŵp yn ystyried materion sy'n ymwneud â pholisïau ar gyfer cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol, gan gynnwys y modelau gofal cymdeithasol sy'n cael eu datblygu. Bydd hefyd yn ystyried y gwaith ar ardoll gofal cymdeithasol a wnaed gan yr Athro Gerald Holtham.

Mae aelodaeth y grŵp yn adlewyrchu’r ffocws a roddir i’r mater hwn ar draws y llywodraeth, ac felly mae’n cynnwys Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'r Gweinidog Tai ac Adfywio.  Yng nghyfarfod cyntaf y grŵp ar 27 Mehefin, cytunodd yr aelodau ar ei gylch gorchwyl a'i raglen waith gychwynnol, sy'n cynnwys pum ffrwd waith benodol.

Mae'r ffrydiau hyn yn ymwneud â chodi, dosbarthu, a defnyddio cyllid ychwanegol i helpu i sicrhau gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig a di-dor, sy'n gydnaws â'r weledigaeth a ddisgrifir yng nghynllun Cymru Iachach, sef cynllun tymor hir ar gyfer ein gwasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymdeithasol. Maent hefyd yn cynnwys datblygu strategaeth gyfathrebu i ymgysylltu â dinasyddion a'r sector gofal cymdeithasol, yn ogystal â meithrin cysylltiadau gyda Llywodraeth y DU gan fod llawer o gyd-ddibyniaethau rhwng yr agenda hon yng Nghymru a system les ehangach y DU. Fel rhan o hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a finnau wedi anfon llythyr ar y cyd at y Gweinidogion perthnasol yn Llywodraeth y DU i amlinellu ein dull gweithredu ac i geisio deialog adeiladol rhwng ein dwy lywodraeth.  

Bydd yr Athro Holtham yn dod i gyfarfod nesaf y grŵp yn nes ymlaen y mis hwn i drafod yr adroddiad y mae wedi ei gyhoeddi'n ddiweddar, sef Talu am Ofal Cymdeithasol, sy'n cynnwys dadansoddiad economaidd sy’n sail i’w gysyniad ar gyfer gweithredu ardoll gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael clywed yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt gwaith y Grŵp o Weinidogion ar Dalu am Ofal Cymdeithasol.