Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau fy mod yn bresennol yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach ar 22 Ionawr.
Mae'r Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach yn darparu fforwm gweinidogol i drafod materion polisi masnach. Yn y cyfarfod hwn fe wnaethom drafod ymgysylltu rhwng Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig, strategaeth fasnach y DU, a chawsom y newyddion diweddaraf ar nifer o drafodaethau masnach gweithredol.