Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf roi gwybod i’r Aelodau o’r Senedd fy mod wedi cynrychioli Llywodraeth Cymru mewn cyfarfod o’r Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru ar 4 Tachwedd.

Cafodd y cyfarfod ei gynnal o bell a’i gadeirio ar yr achlysur hwn gennyf i gan fod Gweinidogion wedi cytuno o flaen llaw i gylchredeg y trefniadau cadeirio. Yn bresennol oedd Kemi Badenoch AS, y Gweinidog Gwladol, Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau, Conor Burns, Gweinidog Gwladol Gogledd Iwerddon, George Adam ASA, Gweinidog Llywodraeth yr Alban dros Fusnes Seneddol a’r Arglwydd True CBE, y Gweinidog Gwladol, Swyddfa’r Cabinet.

Cyhoeddwyd Cyd-hysbysiad ar ôl y cyfarfod, sydd ar gael yn: https://llyw.cymru/cyfarfod-grwp-rhyngweinidogol-ar-gyfer-etholiadau-a-chofrestru-4-tachwedd-2021

Byddwn yn parhau i gydweithio â’n gilydd a’r bwriad yw cynnal cyfarfodydd bob chwarter, a byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.