Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau fy mod yn bresennol yn y Grŵp Masnach Rhyngweinidogol ar 7 Medi.

Yn bresennol yn y cyfarfod roedd:

  • Y Gweinidog Huddleston, Adran Busnes a Masnach Llywodraeth y DU.
  • Y Gweinidog Lochhead, y Gweinidog Busnesau Bach, Arloesi a Masnach, Llywodraeth yr Alban.
  • Roedd gweinidogion Swyddfa Cymru a Swyddfa Gogledd Iwerddon hefyd yn bresennol.

Mae'r Grŵp Masnach Rhyngweinidogol yn darparu'r prif fforwm i drafod materion polisi masnach rhwng Llywodraeth y DU, Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru.

Yn y cyfarfod, buom yn trafod llofnodi'r Cytundeb Partneriaeth Traws-Môr Tawel Cynhwysfawr a Chynyddol yn ddiweddar, yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf ar drafodaethau'r Cytundeb Masnach Rydd parhaus gydag India a Chanada.