Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gan i gyhoeddi fy mod yn sefydlu Grŵp Rhanddeiliaid Cyfiawnder. Bydd y Grŵp yn dod ag ymarferwyr arbenigol ac academyddion ynghyd sydd â gwybodaeth a phrofiad eang yn y sector cyfiawnder a'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, ac sydd hefyd yn meddu ar ddealltwriaeth graff o sefyllfa gyfansoddiadol Cymru. Mae cylch gwaith lefel uchel y Grŵp yn cynnwys edrych ar y materion sy’n codi wrth i fwy a mwy o gyfreithiau Cymru a Lloegr dyfu ar wahân, a rhoi cyngor i Weinidogion Cymru am y goblygiadau, a'r blaenoriaethau i Gymru ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n hynod falch bod Mick Antoniw AC wedi cytuno i gadeirio'r Grŵp. Mae’n berson da i ymgymryd â'r rôl hon o ystyried ei brofiad helaeth fel ymarferydd cyfreithiol mewn practisau preifat yng Nghymru, ei gefndir fel Aelod Cynulliad er 2011 a'i rôl fel cymrawd ar ymweliad gyda Phrifysgol De Cymru.  

Bydd aelodau eraill o'r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o drawstoriad cytbwys o sefydliadau, gan gynnwys:

  • Ymarferwyr Cyfreithiol
  • Ysgolion y Gyfraith
  • Cymdeithas y Gyfraith, Cymru 
  • Cymdeithas Cyfreithwyr Anafiadau Personol
  • Cyngor y Bar
  • Darparwyr Cyngor Amgen

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ysgrifenyddol i'r Grŵp.  

Cafodd y Grŵp ei sefydlu yn bennaf i edrych ar faterion a goblygiadau yn ymwneud â'r corff penodol o gyfreithiau yng Nghymru sy'n datblygu o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Er mai ychydig o gyfreithiau sydd gan Gymru yn unig o gymharu â chyfreithiau Cymru a Lloegr gyda’i gilydd, mae'r sefyllfa'n newid o hyd a bydd y cydbwysedd yn newid dros amser. Bydd y Grŵp yn fy nghynghori am oblygiadau'r sefyllfa hon ac yn amlinellu'r blaenoriaethau i Gymru ar gyfer y dyfodol. Bydd y Grŵp yn ystyried materion allweddol, gan gynnwys:

  • Natur a graddfa'r gwahaniaeth mewn cyfreithiau rhwng Cymru a Lloegr
  • Ymwybyddiaeth o'r gwahaniaeth ymhlith gweithwyr proffesiynol y gyfraith
  • Y goblygiadau o ran hyfforddi cyfreithwyr 
  • Datblygiad awdurdodaeth i Gymru ac amserlenni ar gyfer newid yn raddol o'r awdurdodaeth ar y cyd ar gyfer Cymru a Lloegr
  • Yr egwyddorion sylfaenol sy'n sail i gyfraith Cymru  
  • Yr achos dros ddatganoli cyfrifoldeb am yr holl system gyfiawnder neu ran ohoni.

Disgwylir y bydd y Grŵp, a sefydlwyd ar sail gorchwyl a gorffen, yn cynnal cyfres o bedwar cyfarfod, gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2015 a bydd yn crynhoi'r rhaglen waith erbyn mis Mawrth 2016.  Nid yw aelodau'r Grŵp yn derbyn tâl, ond bydd costau teithio a chynhaliaeth rhesymol a ysgwyddir gan yr aelodau wrth fynd i gyfarfodydd, yn cael eu had-dalu gan Lywodraeth Cymru ar yr un raddfa ag aelodau Pwyllgorau'r Llywodraeth ar hyn o bryd.  

Bydd y Grŵp yn rhannu safbwyntiau gwerthfawr gan arbenigwyr cyfreithiol ac academyddion ar faterion sy'n bwysig i'r system gyfiawnder yng Nghymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddangos fy ngwerthfawrogiad i'r aelodau sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y gwaith hwn.  

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.