Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ionawr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 19 Tachwedd, bûm yn cadeirio seminar i ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion yng Nghymru. Roedd cynrychiolwyr nifer o randdeiliaid allweddol yn bresennol yn y seminar, ac yn eu plith roedd ysgolion, y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol, y sector Addysg Bellach, y sector Addysg Uwch, sefydliadau dyfarnu, y diwydiant a'r cyfryngau.

Ar ôl trafodaeth fywiog a difyr, daeth nifer o themâu allweddol i'r amlwg ac maent yn rhai yr wyf yn awyddus iddynt gael eu hystyried ymhellach. Dyma rai ohonynt:

  • Mae angen i 'TGCh' mewn ysgolion gael ei hailfrandio a'i hailwampio ac mae angen sicrhau ei bod yn berthnasol i'r presennol ac i'r dyfodol;   
  • Man cychwyn yn unig yw llythrennedd digidol – mae angen addysgu dysgwyr i greu yn ogystal â defnyddio
  •  Dylid cyflwyno cyfrifiadureg yn yr ysgol gynradd a'i datblygu yn holl gyfnodau'r cwricwlwm er mwyn i ddysgwyr fedru symud ymlaen i ddilyn gyrfa yn y sector;
  • Dylai sgiliau, megis datrys problemau mewn modd creadigol, fod yn rhan o'r cwricwlwm; 
  • Mae angen mynd ati, mewn partneriaeth ag ysgolion, y sector Addysg Uwch a'r diwydiant, i ddatblygu cymwysterau diwygiedig.  

Rwyf wedi sefydlu Grŵp Llywio i fwrw ymlaen â'r gwaith o ystyried dyfodol cyfrifiadureg a TGCh mewn ysgolion. Bydd y grŵp yn ystyried canfyddiadau allweddol y seminar, yn datblygu cynigion ar gyfer rhoi'r canfyddiadau hynny ar waith, ac yn paratoi adroddiad ar y ffordd ymlaen.

Mae croestoriad o randdeiliaid allweddol yn cael eu cynrychioli ar y grŵp, ac ymhlith yr aelodau y mae'r unigolion a ganlyn:

  • (Cadeirydd) Stuart Arthur – Box UK
  • (Cadeirydd) Y Dr Tom Crick – Prifysgol Fetropolitan Caerdydd
  • (Cadeirydd) Janet Hayward – Ysgol Gynradd Tregatwg, Bro Morgannwg
  • Gareth Edmondson – Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe 
  • Simon Pridham – Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe
  • Lucy Bunce – Ysgol Gyfun y Pant, Rhondda Cynon Taf
  • Maldwyn Pryse – Estyn
  • Peter Sishton – e-Skills UK
  • Chris Britten – Ysgol Arbennig Ashgrove 
  • Glyn Rogers – Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl
  • Ben Lidgey – Monitise
  • Charlie Godfrey – Fujitsu
  • Yr Athro Khalid Al-Begain – CEMAS, Prifysgol Morgannwg
  • Hannah Mathias – Coleg Dewi Sant, Caerdydd

Bydd y grŵp yn cyflwyno'i adroddiad i mi erbyn mis Gorffennaf 2013 ac yn gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.

Bydd yr argymhellion yn llywio'r adolygiad ehangach o asesu a'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru, a gyhoeddwyd gennyf ar 1 Hydref. Bydd unrhyw newidiadau y bydd angen eu gwneud yn hyn o beth yn cael eu hystyried ar yr un pryd ag unrhyw ddiwygiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.