Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn ddiolch i’r Athro Elizabeth Treasure, cadeirydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, a’r holl aelodau, am eu gwaith caled i ddarparu cyngor imi a hynny mewn cyfnod byr o amser. Darparwyd adroddiad beirniadol ymarferol ar fy nghyfer gyda ffocws amlwg, a set glir o argymhellion.

Yn sgil yr argymhellion hyn, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion sefydlu bwrdd rhaglen i fwrw ymlaen â cham tri i roi’r argymhellion ar waith, a gweithio tuag at sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y Gogledd.

Mae’r Gogledd yn wynebu problemau mawr o ran gweithlu’r GIG a chadw staff, a dyna pam fy mod yn falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi cytuno i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr ar gyfer rhaglen C21 Gogledd Cymru i 25 ym mis Medi 2021 a 40 ym mis Medi 2022.

Bydd y cynnydd hwn yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen hon hyd yma, ac yn rhoi cyfle i hyd yn oed fwy o fyfyrwyr astudio yng nghalon cymunedau’r Gogledd; gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i ddarparu gofal mor agos â phosibl i gartrefi pobl.

Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cadarnhau ein haddewid i sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd, ac rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda’r holl randdeiliaid i wireddu ein huchelgais i wella iechyd a gofal yn y rhanbarth.

Mae’n bleser gen i hefyd gyhoeddi y bydd 25 o fyfyrwyr yn ychwanegol yn cael eu derbyn ar gwrs meddygaeth i raddedigion Prifysgol Abertawe yn 2021; y rhaglen hon yw’r ffordd gyflymaf o hyfforddi meddygon yng Nghymru, gan fod myfyrwyr yn graddio ar ôl pedair blynedd yn hytrach na phump.

Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio mewn partneriaeth gyda byrddau iechyd prifysgol Hywel Dda a Bae Abertawe i adeiladu ar eu cynlluniau mentora a datblygu presennol, i sefydlu cyfres mwy uchelgeisiol o fentrau cadw i sicrhau bod myfyrwyr meddygaeth sydd wedi’u haddysgu yng Nghymru yn aros yng Nghymru am amser hir wedi iddynt raddio.

Un peth rydym wedi’i ddysgu yn sgil pandemig COVID-19 yw pa mor anhygoel yw ein Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, a heb y rheini sy’n dewis ymrwymo i ofalu am unigolion yn ein cymdeithas, ni fyddai gan bobl Cymru wasanaeth y gallant hwy a’u teuluoedd ddibynnu arno.

Felly, mae’n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i feithrin addysg broffesiynol mewn gofal iechyd ac annog graddedigion i aros a gweithio yng Nghymru am amser hir wedi iddynt raddio.

Yn ogystal â hynny, rydw i wedi gofyn i’m swyddogion gynnal adolygiad o Gynyddran y Gwasanaeth Meddygol ar gyfer Dysgu (SIFT) a Bwrsariaeth GIG Cymru.

Taliad ychwanegol yw SIFT a wneir i sefydliadau GIG Cymru i helpu gyda chostau addysg feddygol a deintyddol israddedigion; mae sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd yn gyfle i sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cael y gefnogaeth briodol, ac yn rhoi’r addysg arloesol o ansawdd i’n myfyrwyr meddygol a deintyddol sydd ei hangen i greu meddygon a deintyddion o’r radd flaenaf i Gymru.

Rydym wedi cadw’r y pecyn bwrsariaeth llawn ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau ar eu hastudiaethau yn y flwyddyn academaidd 2021-22 a 2022-23 yng Nghymru. Mae’n darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr i’w cymell i weithio o fewn y sector gofal iechyd yng Nghymru ar ôl iddynt gymhwyso. Nawr, mae’n bryd adolygu’r bwrsariaeth i sicrhau ei bod yn cynnig manteision tebyg i wledydd eraill y DU, er mwyn sicrhau mai yng Nghymru y mae myfyrwyr yn dewis astudio.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os byddai’r aelodau’n hoffi imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.