Edwina Hart AC, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Rwy'n ysgrifennu i gyhoeddi fy mod yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ynni Morol.
Pwrpas y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fydd cynnig cyngor ar ddull cynaliadwy o ddarparu swyddi, twf a chyfoeth yn y sector ynni morol newydd.
Rwyf wedi gofyn i Andy Billcliff gadeirio’r Grŵp, ac mae wedi derbyn y gwahoddiad.
Aelodaeth y Grŵp fydd:
Cadeirydd
- Andy Billcliff – Rheolwr gyfarwyddwr, Billcliff Energy Consulting
Aelodau
- Timothy Cornelius – Prif Swyddog Gweithredol, Atlantis Resources Limited
- David Jones – Prif Swyddog Gweithredol Cwmni Buddiannau Cymunedol Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Chyfarwyddwr Prosiect Ynni Morol Sir Benfro
- Martin Murphy – Rheolwr gyfarwyddwr, Tidal Energy Ltd
- Claire Gibson – Rheolwr gyfarwyddwr, Wave Hub Ltd
- Ioan Jenkins – Cyfarwyddwr Datblygu Bae Abertawe a Bae Colwyn, Tidal Lagoon Power Ltd