Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae’r fframwaith llywodraethu ysgolion presennol wedi bod ar waith ers sawl blwyddyn bellach.  Dros y blynyddoedd, mae swyddogaethau a chyfrifoldebau llywodraethwyr wedi newid, gyda’r ffocws yn amlwg bellach ar fonitro a gwerthuso, a chodi safonau a pherfformiad.  O ystyried y newid sydd yng nghyfrifoldebau llywodraethwyr, rwyf wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i edrych ar swyddogaethau a chyfrifoldebau ym maes llywodraethu ysgolion.  


Pwrpas y grŵp gorchwyl yw ystyried y fframwaith llywodraethu ysgolion presennol ac a yw’n addas at y diben.  Yn benodol, bydd y grŵp yn ystyried y dull o rannu cyfrifoldebau rhwng gwahanol elfennau’r system, gan gynnwys cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol,  a ddylid diwygio hyn ac ailddosbarthu cyfrifoldebau, a natur a graddfa’r cymorth y dylid ei roi i gyrff llywodraethu ac eraill i’w helpu i gyflawni eu swyddogaethau.  


Fel rhan o’u hadolygiad bydd y Grŵp llywodraethu ysgolion yn ystyried casgliadau ac argymhellion yr Adroddiad ar ‘Strwythur y Gwasanaethau Addysg yng Nghymru’ a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011 gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Vivian Thomas. Bu’r Grŵp yn adolygu’r strwythurau oedd wedi’u sefydlu i ddarparu addysg o safon uchel yng Nghymru, ac a oeddent yn effeithiol, yn effeithlon ac yn addas at y diben, gan edrych ar swyddogaeth y Consortia Rhanbarthol, Estyn, Gwasanaeth Cynghori Awdurdodau Lleol, ac addysg uwch.  


Roedd yr Adroddiad ‘Strwythur y Gwasanaethau Addysg yng Nghymru’ yn cynnwys dau argymhelliad penodol i lywodraethwyr ysgolion.  Yn gyntaf, bod hyfforddiant gorfodol a safonol ar gyfer llywodraethwyr a chlercod  cyrff llywodraethu yn hanfodol, gan roi blaenoriaeth i hyfforddiant cynefino i lywodraethwyr newydd a hyfforddiant i gadeiryddion neu lywodraethwyr.  Yn ail, roedd y Grŵp yn argymell bod pob llywodraethwr yn derbyn set safonol o ddata perfformiad fel bod modd iddynt herio’r canlyniadau a monitro a gwerthuso’r data yn effeithiol.  


Mae’r ddau argymhelliad hwn wedi’u bodloni.  Mae’n bosib i Lywodraethwyr bellach weld holl setiau data craidd Cymru gyfan ac rwyf yn y broses o lunio rheoliadau sy’n gysylltiedig â hyfforddiant gorfodol.  Mae’r meysydd o hyfforddiant gorfodol sy’n cael eu nodi gan y Grŵp Gwasanaethau Addysg yr un fath â’r rhai a nodwyd ar gyfer darpariaethau hyfforddiant gorfodol yn y Mesur Addysg (Cymru) 2011.  Mae’r Mesur yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyflwyno hyfforddiant cynefino gorfodol, hyfforddiant i gadeiryddion a hyfforddiant i bob llywodraethwr ar ddefnyddio a deall y data.  Mae gan Weinidogion Cymru hefyd y pŵer i bennu cwmpas a chynnwys yr hyfforddiant hwnnw i sicrhau bod hyfforddiant cyson, cynhwysfawr ac o safon uchel yn cael ei gynnig i lywodraethwyr ledled Cymru.  O fewn y cyd-destun hwn, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen llywodraethu ysgolion yn edrych ar swyddogaeth a chyfrifoldebau cyrff llywodraethu ysgolion ac awdurdodau lleol ac yn ystyried a ydynt yn briodol neu a ddylid eu hailddiffinio.  


Heddiw, fe fyddaf yn cyhoeddi aelodau y Grŵp Gorchwyl a Gorffen llywodraethu ysgolion. Bydd y grŵp o dan gadeiryddiaeth Glyn Mathias, cyn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol y Bannau, Powys.  Mae gan Mr Mathias dros 30 mlynedd o brofiad fel newyddiadurwr darlledu ar gyfer ITN a BBC Cymru, gan weithio fel Golygydd Gwleidyddol i’r ddau sefydliad.  O 2001 i 2008, ef oedd Comisiynydd Etholaethol Cymru.  Glyn yw awdur adroddiad Mathias 2011 i Gomisiwn Ffiniau Cymru.  


Bydd y Grŵp hefyd yn cynnwys:


Yr Athro Catherine Farrell, Y Gyfadran Busnes a Chymdeithas, Prifysgol Morgannwg, sydd wedi cyhoeddi llawer ar lywodraethu ysgolion, ac sydd ar hyn o byd yn gwasanaethu fel rhiant-lywodraethwr.  Roedd yn gynghorydd arbennig i’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar lywodraethu ysgolion a arweiniodd at Fesur Addysg (Cymru) 2011.  


Marc Belli, Pennaeth Ysgol Uwchradd Mary Immaculate ers 2010 a welodd nifer o welliannau’n digwydd yn gyflym o fewn yr ysgol.  Ym mis Ionawr 2012, ymunodd Marc â’r Bwrdd Gweithredol Interim cyntaf yng Nghymru yn Ysgol Gynradd St Alban’s, wedi iddi gael ei rhoi o dan “fesurau arbennig” gan Estyn.  Mae Marc wedi’i hyfforddi fel Arolygydd Cymheiriaid Estyn, ac mae’n aelod o Banel Ymarferwyr Ysgolion Llywodraeth Cymru.  


Stephen Adamson, Cadeirydd Cymdeithas y Llywodraethwyr ers 2011.  Mae ar hyn o bryd yn gadeirydd llywodraethwyr ysgol gynradd yn Norwich, ac yn gadeirydd Rhwydwaith Llywodraethwyr Norfolk.  Mae wedi ysgrifennu yn rheolaidd ar lywodraethu mewn llyfrau ac ar gyfer cyfnodolion arbenigol.  

Bydd y Grŵp yn cynnal ei gyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd 2012, ac yna’n cyfarfod bob mis.  Bydd y grŵp yn derbyn tystiolaeth gan amryw o randdeiliaid allweddol ac yn cael y rhyddid i gomisiynu neu i ofyn am bapurau o unrhyw ffynhonnell arall y mae’n tybio sy’n angenrheidiol, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.  

Bydd y Grŵp yn trafod y dystiolaeth sydd o’u blaenau, gan ofyn am eglurhad neu dystiolaeth ychwanegol fel y bo angen.  Yna bydd yn cyhoeddi ei gasgliadau a’i argymhellion ar ffurf adroddiad i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn ystod Gwanwyn 2013.