Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddechrau'r flwyddyn hon, sefydlodd fy rhagflaenydd Grŵp Gorchwyl a Gorffen allanol i ystyried cyd-ddarparu'n lleol yng Nghyfnod Allweddol 4 (CA4), yn dilyn argymhelliad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru; a gynhaliodd ymchwiliad i weithredu'r Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Mai 2012).  Erbyn hyn, mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cwblhau ei drafodaethau ac wedi cyflwyno ei ganfyddiadau. Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad y Grŵp yn llawn ac ymateb y Llywodraeth i'w argymhellion.

Rwy'n croesawu canfyddiadau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a hoffwn ddiolch hefyd i Gadeirydd ac aelodau'r Grŵp am eu gwaith caled a'u hymroddiad i gasglu ynghyd gyfres o argymhellion cydlynol a chadarn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a gyflwynodd tystiolaeth i'r Grŵp i'w bwydo i'r broses hon. Mae'r Grŵp wedi ceisio codi'r bar yn nhermau ansawdd y ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghyfnod Allweddol 4. Mae hefyd wedi ceisio llywio newidiadau a fydd yn adlewyrchu'r esblygiad sylweddol sydd wedi bod yn y dirwedd addysgol yng Nghymru o dan y llywodraeth hon.

Gyda chefnogaeth athrawon a phobl broffesiynol eraill, mae gan bobl ifanc Cymru gyfle i astudio amrywiaeth o bynciau ar ben meysydd hanfodol megis Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth. Rydym hefyd wedi sicrhau bod amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol yn cael eu cynnig, a allai gynnwys profiad gwaith a dysgu y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol. Yn yr ysgol, coleg neu mewn hyfforddiant, mae pobl ifanc wedi elwa ar amrywiaeth o weithgareddau a chyrsiau i ddatblygu eu sgiliau, gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r byd.  Mae'r Llywodraeth hon yn ymroddedig o hyd i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn cael eu paratoi yn y ffordd orau bosibl ar gyfer byd gwaith ac ar gyfer dysgu yn y dyfodol.  

Amlygwyd yn adroddiad y Grŵp yr effaith gadarnhaol a gafwyd ar ddysgwyr yn sgil cynnig darpariaeth fwy hyblyg yn CA4.  Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw sicrhau bod y cwrs a gynigir yn un o safon; yn nhermau cynnwys y cyrsiau a pherthnasedd y ddarpariaeth i fodloni anghenion y dysgwr ac anghenion lleol. Mae'r Grŵp hefyd yn tynnu sylw at y faith bod isafswm cyfreithiol y cyrsiau a gynigir, sef 30 ar hyn o bryd, yn rhoi pwysau ar ysgolion (yn arbennig ysgolion llai / ysgolion gwledig) yn nhermau'r nifer o ddewisiadau a gynigir. Golyga hynny bod llai o ystyriaeth yn cael ei rhoi i ansawdd yr hyn a gynigir.

Rydym am i'n holl ysgolion ganolbwyntio ar ansawdd y ddarpariaeth leol ar gyfer CA4 ac ar gyflenwi amrediad priodol o gyrsiau wedi'u targedu at fodloni anghenion y dysgwyr a chyflogwyr. Dyna pam yr wyf i o'r farn y dylid derbyn argymhellion y Grŵp i gwtogi isafswm y cynnig o 30 o gyrsiau i 25, ac i ymgynghori yn ddi-oed ar newidiadau i ddeddfwriaeth. Rwy'n disgwyl i'r rhan fwyaf o ysgolion barhau i gynnig mwy o ddewis i'w dysgwyr nag isafswm yr hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Ond, rhaid inni ymddiried yng ngweithwyr proffesiynol y byd addysg a rhoi'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i ganolbwyntio mwy ar ansawdd y ddarpariaeth ac ar fodloni anghenion eu dysgwyr. Rwy'n disgwyl i'r cyfnod ymgynghori agor ddechrau mis Tachwedd.