Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar ôl cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi ym mis Gorffennaf, rwyf bellach yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen arall i roi ymateb Llywodraeth Cymru ar waith a sefydlu’r Ardal Twf Lleol. Bydd y Grŵp yn weithredol am ddeunaw mis.

Bydd Grŵp Sefydlu Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi yn cynorthwyo gyda’r gwaith o sefydlu Ardal Twf Lleol ac yn fy nghynghori ynghylch unrhyw faterion a chyfleoedd sy’n codi.

Rwyf wedi gwahodd Cadeirydd gwreiddiol Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi, Delyth Humfryes MBE, i Gadeirio’r Grŵp newydd er mwyn sicrhau cysondeb a chynnal momentwm. Bydd y Grŵp yn cynnwys unigolion sydd â gwybodaeth leol am ardal ac economi Dyffryn Teifi, ac yn defnyddio dealltwriaeth leol i lywio’r gwaith o sefydlu’r Ardal.

Bydd y Cadeirydd yn ystyried pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd ei angen i helpu gyda’r gwaith, ac yn fy nghynghori ynghylch aelodaeth y Grŵp. Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp yn gynnar yn 2015.