Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ym mis Awst mi gyhoeddais fy mwriad i sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i adolygu gweithgareddau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac i wneud argymhellion ar y ffordd ymlaen. Bydd yr adolygiad yn llywio penderfyniadau polisi a chyllido ynghyn a’r Coleg i’r dyfodol.
Fel rhan o gylch gorchwyl y grŵp roeddent i archwilio’r posibilrwydd o ehangu cylch
gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach, mewn ymateb i ymrwymiad o fewn rhaglen Llywodraeth Cymru ar gyfer y 5 mlynedd nesaf; Symud Cymru Ymlaen.
Mae adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen yn cael ei gyhoeddi heddiw. Mae'n gyfraniad meddylgar ac adeiladol tuag at ddatblygiad astudio cyfrwng Cymraeg ar draws y sectorau ôl-16, yn enwedig yng nghyd-destun ein diwygiadau Diamond ac addysg drydyddol ehangach, a phwyslais ar fwy o ymgysylltiad prifysgolion-ysgolion.
Byddwn yn ymateb yn llawn i’r holl argymhellion maes o law.
Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i’r cadeirydd Delyth Evans ac aelodau canlynol y Grŵp gorchwyl a gorffen am eu holl waith wrth gynhyrchu’r adroddiad a’r argymhellion.
- Barry Liles, Prifathro Coleg Sir Gâr;
- Heledd Bebb, cyn ddarlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a bellach yn Gyfarwyddwr gyda chwmni Ymchwil OB3;
- Bethan Guilfoyle, cyn brifathrawes Ysgol Gyfun Treorci;
- Rhun Dafydd, wedi ei enwebu fel cynrychiolydd myfyrwyr gan UCM Cymru;
- Yr Athro Mari Lloyd-Williams, darlithydd ym Mhrifysgol Lerpwl, a’r
- Yr Athro Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.