Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Yn sgil sefydlu’r ardaloedd twf lleol arloesol ym Mhowys, rwyf wedi penderfynu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen byrdymor i ystyried sut mae mynd ati i ddilyn yr un model yn Nyffryn Teifi. Bydd y Grŵp hwn yn ystyried yr opsiynau polisi a allai annog a chefnogi swyddi a thwf economaidd, ac yn cynnig cyfle i brofi gwahanol ymyriadau sy’n briodol i amgylchiadau a heriau economaidd penodol y Dyffryn ac yn rhoi lle amlwg i’r Gymraeg. Bydd y Grŵp yn ystyried y dull gweithredu a fabwysiadwyd ym Mhowys fel man cychwyn ond byddant yn canolbwyntio ar y materion penodol sy’n effeithio ar Ddyffryn Teifi – dyffryn sy’n croesi rhannau o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.
Rwyf wedi gofyn i’r Grŵp gyflwyno adroddiad interim i mi cyn diwedd mis Gorffennaf 2013. Rwy’n disgwyl y bydd y Grŵp hwn yn gwneud canfyddiadau pwysig a fydd yn berthnasol i rannau eraill o Gymru. Byddaf yn sicrhau bod y gwersi a ddysgir o’r gwaith hwn yn cael eu rhannu’n eang ac yn llywio ein gwaith y dyfodol.
Bydd aelodaeth y Grŵp yn adlewyrchu meysydd penodol ym myd busnes y sector preifat: datblygu economaidd ac adfywiad gwledig a busnesau bach mewn sectorau allweddol megis gweithgynhyrchu, twristiaeth a manwerthu. Rwy’n falch iawn bod Delyth Humphreys MBE, Cadeirydd Undeb Credyd Gorllewin Cymru, wedi cytuno i gadeirio’r Grŵp. Yr aelodau eraill fydd Kevin Davies, Cawdor Cars; Laurence Harris, Daioni-Trioni; Carwyn Adams, Caws Cenarth; Jayne Ludgate, Arcade; Dafydd Lewis, WD Lewis & Son and Cris Tomos, Castell Aberteifi.