Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddais fy mod yn bwriadu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi i oruchwylio’r dull o gyflawni’r argymhellion yn yr adroddiad gwreiddiol ac argymhellion Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’r adroddiad. Bydd y Grŵp yn helpu i sefydlu’r Ardal Twf Lleol yn Nyffryn Teifi er mwyn ysgogi ffyniant a thwf economaidd yno. Bydd y Grŵp yn bodoli am hyd at ddeunaw mis.
Mae Cadeirydd y Grŵp blaenorol, Delyth Evans MBE, wedi derbyn y gwahoddiad i Gadeirio’r Grŵp Gweithredu newydd er mwyn sicrhau parhad a chynnal momentwm.

Cytunwyd mai’r unigolion isod fydd aelodau’r Grŵp:

Kevin Davies, Ceir Cawdor a Gwesty’r Emlyn

Lawrence Harris, Daioni

Keith Evans, Gŵr Busnes Lleol

Jacqui Weatherburn, Coleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Steve Jones, Tai Ceredigion

Ben Giles, Ultima Cleaning

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp cyn bo hir.