Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Ym mis Rhagfyr 2020 sefydlodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Niwed sy'n Gysylltiedig â Gamblo i ymchwilio i'r materion sy'n ymwneud â gamblo cymhellol a rhoi cyngor i'r Prif Swyddog Meddygol a Gweinidogion Cymru ar y camau y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r niwed a achosir gan gamblo a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt yng Nghymru.
Nodau'r Grŵp oedd:
- Adolygu, monitro a chefnogi'r gwaith o weithredu'r argymhellion a wnaed gan y Prif Swyddog Meddygol yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17 'Gamblo â’n Hiechyd' a rhoi cyngor ar ble y dylid cymryd camau pellach.
- Adolygu'r gwasanaethau trin gamblo presennol a chynghori ar strwythur gwasanaethau a chymorth yn y dyfodol i'r rhai y mae gamblo cymhellol yn effeithio arnynt yng Nghymru.
- Cynghori ar safbwynt Cymru mewn perthynas ag Adolygiad cynhwysfawr Llywodraeth y DU o Ddeddf Gamblo 2005.
Cyfarfu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen, sy'n cynnwys rhanddeiliaid allweddol yn y trydydd sector, clinigwyr, academyddion a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, bedair gwaith yn ystod 2021/22 ac yn ystod ei gyfarfodydd ystyriodd nifer o feysydd mewn perthynas â gamblo a niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Yn ogystal â'r trafodaethau ar wasanaethau trin gamblo, Adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Gamblo 2005 ac Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol, edrychodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn fwy eang hefyd ar addysg, ymyrraeth gynnar ac atal, cynllunio, casglu data a systemau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, codi ymwybyddiaeth o niwed gamblo i leihau stigma a chefnogaeth i eraill yr effeithir arnynt.
Wrth ystyried addysg a mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, clywodd y grŵp gorchwyl a gorffen gan arbenigwr yn Awstralia. Yn Awstralia, mae niwed sy'n gysylltiedig â gamblo yn cael ei ystyried yn fater iechyd y cyhoedd gyda gwasanaethau triniaeth wedi'u hintegreiddio o fewn y model iechyd cyhoeddus. Mae eu system wedi bod yn symud i ffwrdd o naratif gamblo cyfrifol a mwy diogel tuag at helpu pobl i ddeall y ffyrdd y mae'r diwydiant gamblo yn marchnata ei gynnyrch a natur gaethiwus a niweidiol y rhain. Mae ymgyrchoedd iechyd y cyhoedd a gynhaliwyd yn Awstralia wedi tynnu sylw at effeithiau niweidiol gamblo ac maent yn gwneud gwahaniaeth o ran lleihau'r stigma a'r cywilydd sy'n gysylltiedig â gamblo cymhellol.
Ym mis Mawrth 2021, ymatebodd y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg i alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth yn nodi safbwynt polisi Llywodraeth Cymru ar gamblo. Nododd y Gweinidog farn y Llywodraeth y dylid mynd i'r afael â gamblo fel mater iechyd y cyhoedd ac fe roddodd ein safbwynt ar nifer o feysydd y mae angen eu cryfhau er mwyn amddiffyn pobl yn well rhag niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen am reoleiddiwr cadarn, mwy o gyfyngiadau ar hysbysebu, cynhyrchion mwy diogel a chyflwyno ardoll statudol i gefnogi lleihau niwed, atal, opsiynau triniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil i niwed sy'n gysylltiedig â gamblo. Ers hynny, rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog Technoleg a'r Economi Ddigidol i ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru wrth aros i ganlyniad yr Adolygiad gael ei gyhoeddi a manylion cynigion Llywodraeth y DU.
Cyfarfu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am y tro olaf ar 30 Mawrth 2022 ac mae wedi darparu pedwar argymhelliad ar gyfer gwaith pellach. Rwyf yn derbyn y pedwar argymhelliad yn llawn.
Y rhain yw:
Argymhelliad 1
Llywodraeth Cymru i barhau i ddadlau o blaid diwygio Deddf Gamblo 2005 a chefnogi system yn y dyfodol sy'n defnyddio dull iechyd y cyhoedd ar lefel y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar atal a lleihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, yn enwedig i blant, pobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed. Pan fydd canlyniad Adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Gamblo 2005 yn hysbys, dylai Llywodraeth Cymru ystyried mecanweithiau ar gyfer derbyn cyngor parhaus gan randdeiliaid.
Argymhelliad 2
Llywodraeth Cymru i barhau i weithredu'r argymhellion a wnaed gan y Prif Swyddog Meddygol yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2016/17 ‘Gamblo â'n Hiechyd’.
Argymhelliad 3
Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu adnoddau a rhaglenni addysgol i Gymru, yn enwedig ar gyfer plant a phobl ifanc, i'w cynnwys yn y cwricwlwm newydd i Gymru sy'n anelu at gynyddu ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â gamblo, lleihau stigma a chefnogi'r farn bod gamblo yn gynnyrch caethiwus a niweidiol. Wrth ddatblygu deunyddiau a negeseuon iechyd y cyhoedd, dylid mynd ati i ddadnormaleiddio gamblo yn ogystal ag ystyried egwyddorion y dull gweithredu yn Awstralia.
Argymhelliad 4
Yn seiliedig ar yr asesiad o anghenion iechyd o ran gamblo, dylai Llywodraeth Cymru geisio datblygu llwybr atgyfeirio clir a pharhau i weithio gyda Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a GIG Cymru i ddatblygu a darparu gwasanaeth trin gamblo arbenigol i Gymru.
Mae gwaith eisoes ar y gweill i gyflawni argymhellion y Grŵp. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda'r rhai yn Llywodraeth y DU a byddaf yn ystyried y mecanweithiau ar gyfer cael cyngor parhaus gan randdeiliaid ar gamblo pan fydd cwmpas unrhyw ddiwygiadau yn hysbys. O ran argymhelliad 2, mae fy swyddogion yn parhau i fabwysiadu dull trawslywodraethol o ran y gwaith ar niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ac i weithredu'r argymhellion a wnaed gan y Prif Swyddog Meddygol yn ei adroddiad blynyddol 2016/17 ‘Gamblo â’n Hiechyd’. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid ac yn ceisio gwneud cynnydd mewn perthynas â'r rhain.
Mewn perthynas ag argymhellion 3 a 4, mae lleihau stigma a chynyddu ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig â gamblo yn hanfodol, yn ogystal â chefnogi athrawon gyda'r deunyddiau priodol y gallant eu defnyddio i roi gwybod i ddysgwyr am y materion sy'n ymwneud â gamblo. Felly, mae swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid ar ddulliau addysgol priodol. Mae'r asesiad o anghenion iechyd yn cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar hyn o bryd a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn yr haf. Bydd y gwaith hwn wedyn yn llywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau triniaeth arbenigol yng Nghymru. Mae trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal ar ddatblygu llwybr ar gyfer gwasanaethau gyda chydweithwyr yn Lloegr.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Aelodau'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen am niwed sy'n gysylltiedig â gamblo am eu hamser, eu cyngor a'u cefnogaeth.