Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 1 Hydref 2024, rhoddais ddatganiad yn cyhoeddi penodiad Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG. Grŵp allanol fydd hwn a fydd yn darparu adolygiad annibynnol o’r trefniadau presennol sydd ar waith i gefnogi gwelliannau yn GIG Cymru.

Cyfarfu’r grŵp am y tro cyntaf ar 25 Hydref 2024 ac roeddwn yn falch o gael y cyfle i fod yn bresennol mewn rhan o’r cyfarfod hwnnw i nodi fy ymrwymiad i’r Grŵp a’m disgwyliadau ohono.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r cylch gorchwyl ac fel y nodwyd yn flaenorol rwy’n disgwyl i’r Grŵp roi eu cyngor annibynnol imi erbyn 31 Mawrth 2025.