Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy'n sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol ar ffurf grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn ystyried strwythurau llywodraethu presennol GIG Cymru ac yn rhoi sylwadau ar unrhyw gryfderau neu wendidau, ynghyd â’r strwythurau atebolrwydd. Bydd y grŵp, a fydd yn cael ei gefnogi gan ysgrifenyddiaeth ac aelodau sy’n annibynnol ar y llywodraeth, yn rhoi barn ynghylch a yw’r atebolrwydd yn glir ac yn briodol , a bydd yn cynghori ar unrhyw argymhellion sy'n angenrheidiol er mwyn eu cryfhau.
O ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers cyflwyno'r strwythur llywodraethu presennol yn Neddf GIG Cymru yn 2006, a’r ffaith fod Gweithrediaeth GIG Cymru wedi’i chyflwyno’n ddiweddar yn ogystal â’r ffyrdd newydd o ysgogi gwelliannau mewn perfformiad, byddaf yn cynnal adolygiad o'n trefniadau presennol i sicrhau eu bod yn addas i'r diben o ystyried yr heriau sydd o'n blaenau o ran ein system gofal iechyd.
O dan strwythur llywodraethu presennol byrddau Iechyd GIG Cymru, mae ymddiriedolaethau'r GIG ac awdurdodau iechyd arbennig yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol drwy eu cadeiryddion.
Daeth Gweithrediaeth GIG Cymru yn weithredol ar 1 Ebrill 2023. Roedd hwn yn ymrwymiad a gafodd ei wneud yn Cymru Iachach, fel yr argymhellwyd gan yr Adolygiad Seneddol o Ddyfodol Hirdymor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gyda'r nod o gydgrynhoi gweithgarwch cenedlaethol a chreu dull gweithredu cyson ar gyfer cynllunio, pennu blaenoriaethau ar sail canlyniadau, rheoli perfformiad ac atebolrwydd. Cafodd yr ymrwymiad ei ailgadarnhau yn y Rhaglen Lywodraethu.
Nid yw sefydlu Gweithrediaeth GIG Cymru wedi newid y mecanweithiau atebolrwydd statudol. Mae holl sefydliadau'r GIG yn parhau i fod yn atebol yn uniongyrchol i’r Gweinidogion drwy eu cadeiryddion, a bydd Llywodraeth Cymru a’r Gweinidogion yn parhau i osod blaenoriaethau, targedau a mesurau canlyniadau ar gyfer y GIG.
Gofynnir i'r grŵp archwilio'r ysgogiadau ar gyfer newid sydd â'r bwriad o ddarparu rhai ffyrdd newydd o ysgogi gwelliannau mewn perfformiad a chanlyniadau. Mae hyn yn rhan o nod Gweithrediaeth GIG Cymru o roi arweiniad cryfach drwy atebolrwydd cliriach a chadarnach, drwy drefniadau uwchgyfeirio a thrwy ddarparu cefnogaeth, arweiniad a help ychwanegol i’r gwasanaeth.
Bydd y grŵp rhoi gwybod imi beth yw ei argymhellion erbyn 31 Mawrth 2024.