Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Grŵp Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae gan Lywodraeth Cymru agenda uchelgeisiol ar gyfer diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi ei hegluro yn Gwella Gwasanaethau Cyhoeddus i Bobl Cymru ac yn y Papurau Gwyn ar Diwygio Llywodraeth Leol. Mae hon yn agenda sy’n seiliedig ar gynnal llywodraeth leol ac addasu ei ffocws; symleiddio partneriaethau a chysoni cydweithredu; integreiddio gwasanaethau; cryfhau llywodraethu; gweithredu fel ‘un gwasanaeth cyhoeddus’; gwella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus a datblygu modelau newydd ar gyfer y gwasanaethau cyhoeddus.

Er mwyn bwrw ymlaen â’r  ymrwymiad i Un Gwasanaeth Cyhoeddus ac adeiladu a diogelu ymddiriedaeth a hyder yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae angen i ni sbarduno arloesedd a sicrhau arweinyddiaeth wirioneddol, ar sail:

  • Cydnabyddiaeth bod rhaid i newid ddigwydd gydag ymgysylltiad cymunedol helaeth;
  • Bod yn agored ynghylch data a’r posibilrwydd iddo ysgogi newid; 
  • Canolbwyntio ar y system yn ei chyfanrwydd, gan ddeall beth sy’n cael ei wneud yn dda a ble, a helpu i ganfod ble y mae modd i newid wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Rwyf yn sefydlu Panel Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus i roi cyngor a chymorth i mi gyda’r agenda o drawsnewid y gwasanaethau cyhoeddus.

Grŵp gorchwyl a gorffen fydd y panel, yn cynnwys unigolion fydd yn dod â gwybodaeth arbenigol am eu sector gwasanaeth hwy eu hunain ynghyd â hanes o lwyddiant wrth weithio ar draws ffiniau cyfundrefnau a sectorau.

Byddaf yn gofyn iddynt dynnu syniadau at ei gilydd ar draws y sylfaen o dystiolaeth o arferion da; annog a chefnogi cydweithredu arloesol o fewn a rhwng sectorau gwasanaeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar greu gwasanaethau mwy effeithiol; a chyflymu’r symudiad tuag at wasanaethau cyhoeddus digidol. Rhagwelaf hefyd y byddant yn fy nghynghori ynghylch meysydd posibl i arbrofi neu gynnal peilot ar ddulliau newydd o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd y Panel yn cael mynediad at waith a wnaed gan Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru; labordy arloesedd arfaethedig NESTA; grwpiau ar draws y gwasanaethau cyhoeddus megis y rhaglen Gwasanaethau Effeithiol i Grwpiau Bregus; y Panel Gweinidogion ar Wasanaethau Cyhoeddus Digidol, a sefydlais yn ddiweddar gyda’r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, a’r arfer gorau yn rhyngwladol. Efallai y byddant hefyd yn dymuno comisiynu darnau penodol o waith yn sail i’w rhaglen waith.

Bydd y Panel yn eistedd fel rhan o’r strwythurau llywodraethu ehangach yr wyf yn eu sefydlu ar gyfer agenda diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus. Bydd y Cyngor Partneriaeth yn parhau i ddarparu atebolrwydd gwleidyddol ac arweiniad ar gyfer agenda diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus.

Caiff Grŵp Arweinyddiaeth y Gwasanaethau Cyhoeddus (GAGC), a sefydlwyd yn 2011 er mwyn cyflymu datblygiad gwelliannau yn y gwasanaethau cyhoeddus, ei ddirwyn i ben.