Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Fis Chwefror eleni, cyhoeddais y byddai panel arbenigol newydd yn cael ei greu i adolygu'r goblygiadau i Gymru yn sgil datblygu gorsaf bŵer newydd Hinkley Point C.
Bydd y grŵp cyfeirio rhanddeiliaid Hinkley Point C yn cael ei gadeirio gan Jane Davidson, Dirprwy is-ganghellor emeritws ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a bydd yn darparu barn annibynnol ar ystod eang o faterion sy’n codi yn sgil datblygiad adweithydd niwclear Hinkley er mwyn cynorthwyo gweinidogion i ddiogelu pob agwedd ar les yng Nghymru.
Bydd y Grŵp yn cynnwys:
- Yr Athro Roger Falconer, athro emeritws, Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd
- Dr Rhoda Ballinger, darllenydd, Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr Prifysgol Caerdydd
- Dr Justin Gwynn, cadeirydd Pwyllgor OSPAR ar Sylweddau Ymbelydrol
- Dr Huw Brunt, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Rachel Sharp, Prif Swyddog Gweithredol Ymddiriedolaethau Natur Cymru
- Dr James Robinson, Cyfarwyddwr Cadwraeth, WWT
Bydd y Grŵp yn cynnig arbenigedd a gwybodaeth mewn sawl maes amgylcheddol gan gynnwys yr amgylchedd ac ecoleg gydag arbenigedd yng nghyd-destun Aber Afon Hafren; peirianneg hydro a pheirianneg sifil ac asesiadau amgylcheddol dŵr yng nghyd-destun Aber Afon Hafren ac yr economi ac economeg gymdeithasol yng nghyd-destun trawsffiniol De-ddwyrain Cymru/De-orllewin Lloegr. Bydd hefyd yn darparu arbenigedd ym maes iechyd y cyhoedd, cynhyrchu ynni niwclear ac ynni ar raddfa eang a sectorau a phrosesau rheoleiddiol mewn cyd-destun trawsffiniol.
Bydd disgwyl i’r Grŵp fynd ati’n rheolaidd i fanteisio ar arbenigedd pan fo’n berthnasol i’r materion dan sylw.
Bydd y Grŵp yn cwrdd ar gyfer ei sesiwn waith gyntaf ar 20 Gorffennaf 2020.