Lesley Griffiths, Gweinidog dros Gymunedau a Threchu Tlodi
Ym mis Ebrill 2014, cyhoeddodd y cyn Weinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert AC, gyllid o £1 miliwn i gefnogi gwasanaethau cynghori rheng flaen yn 2014-15, gyda dyraniadau dangosol o gyllid, ar yr un lefel, ar gyfer y blynyddoedd ariannol 2015-16 a 2016-17. Ym mis Gorffennaf, cynyddodd y gronfa hon i £2 filiwn yn 2014-15, sy'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu ataliol fel bod pobl mewn sefyllfa well i reoli eu materion eu hunain a’u bod yn gallu cael cymorth ymarferol i'w helpu i gyflawni hyn.
Fel rhan o'r broses hon o wneud cais am grant, gofynnwyd i sefydliadau cymwys ddangos eu hymrwymiad i gydweithio, o ran sut y maent yn bwriadu gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill sy'n rhoi cyngor a chreu cysylltiadau gyda gwasanaethau eraill sy'n derbyn arian cyhoeddus, pan fo gweledigaeth a bwriad cyffredin. Rydym yn awyddus i annog cydweithio agosach rhwng y rhai sy'n darparu cyngor ac Undebau Credyd, er enghraifft, yn enwedig ble y gallai hynny arwain at ganlyniadau positif i gleientiaid. Mae angen i sefydliadau ddangos ymrwymiad hefyd i safonau ansawdd ac i bennu sut y maent yn bwriadu adrodd ar yr effaith fanteisiol a gaiff eu cyngor ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Mae'n hanfodol ein bod yn cymeryd pob cyfle i hyrwyddo'r egwyddorion sylfaenol hyn wrth inni fynd ymlaen i weithredu argymhellion yr Adolygiad o Wasanaethau Cynghori.
Rwy'n falch o gyhoeddi bod y broses ymgeisio am grant a'r broses arfarnu bellach wedi'u cwblhau ac y bydd Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid yn 2014-15 i'r sefydliadau canlynol:
- Bydd Cyngor ar Bopeth Cymru a Shelter Cymru yn derbyn £1.3 miliwn yn 2014-15 i roi cyngor arbenigol ar fudd-daliadau lles, tai a dyledion. Golyga hyn bod help ar gael i bobl sydd angen help gyda'r budd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, gyda rheoli ac ad-dalu eu dyledion neu mewn sefyllfaoedd ble y gallent fod mewn perygl o golli eu cartref. Bydd y gwasanaeth ar gael i bobl dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y Canolfannau Cyngor ar Bopeth a lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru; y Canolbarth a'r De-orllewin a'r De-ddwyrain. Bydd ymweliadau gartref yn cael eu trefnu ar gyfer pobl sy'n ei chael yn anodd i dderbyn y gwasanaeth mewn unrhyw ffordd arall, neu ble y mae gan ddefnyddwyr anghenion neu anableddau penodol.
- Bydd Cyngor ar Bopeth Cymru a SNAP Cymru yn derbyn 390,000.00 yn 2014-15 i gefnogi cyngor arbenigol ar wahaniaethu ar draws ystod eang o nodweddion sy'n cael eu gwarchod. Bydd y cynghorwyr hyn mewn 3 canolfan ranbarthol sy'n cwmpasu y De-ddwyrain; y Canolbarth a'r De- orllewin; a'r Gogledd-orllewin a'r Gogledd-ddwyrain. Cynhelir sesiynau ymwybyddiaeth hefyd ar gyfer y rhai sy'n cynnig cyngor cyffredinol fel bod modd sylwi ar broblemau gwahaniaethu cyn gynted â phosib.
- Bydd £224,209.00 yn cael ei ddyfarnu i Age Cymru i gefnogi gwasanaethau cynghori i bobl hŷn a gofalwyr. Bydd hyn yn golygu y gellir cynnal a chryfhau'r gwasanaethau hyn mewn ardaloedd gwledig a sefydlu gwasanaeth peripatetig newydd yng Nhgaerdydd a'r Fro. Bydd y gwasanaeth, fydd ar gael mewn gwahanol ffyrdd, yn cynnig gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn a gofalwyr am amrywiol faterion, gan gynnwys tai a rheoli dyledion.
- Mae £103,076.38 wedi ei ddyfarnu i Tenovus i ategu'r gwasanaethau gwybodaeth a chynghori sydd eisoes ar gael i gleifion canser, sy'n cael eu darparu ar draws y 7 Bwrdd Iechyd Lleol. Bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio'n benodol ar helpu cleifion sydd â chanser, a'u teuluoedd i gynyddu eu hincwm, a bydd hefyd yn ceisio cyrraedd cymunedau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ffoaduriaid ledled Cymru.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhan o ymdrechion ehangach Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb ac eithrio ariannol a chymdeithasol yng Nghymru. Er bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir erioed na allai gamu i mewn a llenwi pob bwlch mewn cyllid sy'n deillio o doriadau i Gymorth Cyfreithiol a gostyngiadau mewn ffynonellau eraill o gyllid ar gyfer y gwasanaethau gwerthfawr hyn, byddwn yn sicrhau bod ein cymorth yn cyd-fynd â'r hyn sy'n cael ei gynnig yn yr Adolygiad o Wasanaethau Cynghori. Bydd y cyllid hwn a'r gwasanaethau fydd yn eu cefnogi yn gwneud gwahaniaeth i nifer o bobl yng Nghymru, yn enwedig rhai o'r bobl fwyaf bregus.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar i'r Cynulliad ar 23ain Medi ar swyddogaeth y gwasanaethau cynghori i liniaru effaith y Diwygiad Lles, ble y byddaf yn ehangu ar nifer o'r pwyntiau hyn.