Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ym mis Hydref 2011, cyhoeddais y byddai cyllid i gefnogi darpariaeth iaith Gymraeg mewn ysgolion yn cael ei gydgrynhoi. O fis Ebrill 2012, cafodd cyllid a ddarparwyd yn flaenorol drwy’r cynlluniau grant canlynol ei gyfuno o dan Grant y Gymraeg mewn Addysg:

  • y Gronfa Ysgolion Gwell gynt (Maes Blaenoriaeth 2) fe’i gweinyddwyd ar wahân fel Grant y Gymraeg mewn Addysg yn ystod 2011-2012
  • grant Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer athrawon bro
  • grant Bwrdd yr Iaith Gymraeg ar gyfer prosiectau peilot trochi i hwyrddyfodiaid a dilyniant ieithyddol o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Bellach, gwahoddir ceisiadau gan gonsortia rhanbarthol ar gyfer Grant y Gymraeg mewn Addysg 2013-14. Mae cyfanswm o £5.6m wedi’i ddyrannu i’r Grant, a gydag arian cyfatebol gan awdurdodau lleol, bydd hyn yn golygu y caiff o leiaf £8.4m ei wario yn ystod 2013-14 ar weithgareddau sydd â’r nod o gyflawni’r hyn a nodir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Yn hanesyddol, roedd elfennau ar y Grant wedi’u ffocysu ar weithgareddau i godi safonau addysgu Cymraeg fel ail iaith. Fodd bynnag, yn awr bydd gofyn i gonsortia sicrhau bod y Grant yn ariannu amrywiaeth ehangach o weithgareddau. Felly, mae dyraniadau 2013-14 ar gyfer pob consortia wedi’u rhannu’n dri maes gweithgaredd:

  • Addysgu a dysgu Cymraeg fel iaith gyntaf
  • Addysgu a dysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Addysgu a dysgu Cymraeg fel ail iaith
Mae’r dyraniadau hyn wedi’u cyfrifo ar sail nifer y disgyblion ym mhob sector. Bydd hyn yn sicrhau bod Grant y Gymraeg mewn Addysg yn cefnogi dysgu Cymraeg ar draws y cwricwlwm cyfan.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.